Neidio i'r prif gynnwy

1. Nodau a methodoleg yr ymchwil

Comisiynodd Llywodraeth Cymru bartneriaeth rhwng academyddion pedair prifysgol yng Nghymru ac ymgynghorwyr arbenigol i gynnig gwerthusiad o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Arweinir yr astudiaeth gan yr Athro Mark Llewellyn (Prifysgol De Cymru) mewn partneriaeth â’r Athro Fiona Verity (Prifysgol Abertawe).

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau cyfnod Gwerthuso'r Broses o'r astudiaeth. Bydd y gwerthusiad, sef astudiaeth 'IMPACT', yn ystyried gweithrediad a chanlyniadau’r Ddeddf drwy ei phum egwyddor (a goblygiadau ariannol pob un) a’r pum maes fel y’u pennir gan dîm yr astudiaeth:

  1. defnyddwyr gwasanaeth
  2. gofalwyr
  3. teuluoedd a chymunedau
  4. gweithlu
  5. sefydliadau

Mae Gwerthuso'r Broses yn canolbwyntio ar feysydd 4 a 5 gyda’r ffocws ar y lleill i ddilyn yn 2021 yn ystod cam Gwerthuso Effaith (Impact) (yn ystod  2021).

Y nod ydy deall sut mae’r ddeddfwriaeth wedi cael ei gweithredu yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, gan ystyried yn benodol rôl oedd gan yr ystod eang o sefydliadau a effeithiwyd gan y Ddeddf, i’w chwarae yn y broses o’i gweithredu.

Amcanion gwerthuso'r broses ydy:

  • ystyried pa gynllunio a wnaed gan bartneriaid allweddol i weithredu’r Ddeddf ac a oedd hyn yn ddigonol. Roedd hyn yn cynnwys cynlluniau Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Lleol a’r trydydd sector, y sector annibynnol a phartneriaid allweddol eraill sy’n cael eu hystyried yn berthnasol
  • asesu a ydy holl gydrannau’r broses o weithredu’r Ddeddf hyd yn hyn wedi eu cwblhau yn ôl y bwriad
  • a ydy cydrannau’r Ddeddf wedi ymdreiddio i’r arferion
  • asesu dehongliad o’r Ddeddf ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol
  • ystyried profiad y rhai sydd wedi bod yn ymwneud â gweithredu’r Ddeddf, gyda ffocws penodol ar integreiddio, cyd-gynhyrchu, arweinyddiaeth, rheoli, rhyngweithio, hyfforddiant a darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg

Dull Ffocysu ar Egwyddorion[1]  oedd y dull a ddefnyddiwyd i fynd ati i werthuso’r Ddeddf. Mae’r dull hwn o fynd ati yn arbennig o ddefnyddiol wrth werthuso ymyriadau sy’n gymhleth gyda nifer o gydrannau a gaiff eu dehongli a’u gweithredu yn wahanol mewn gwahanol amgylcheddau a lleoliadau.

Roedd dwy haen bendant [2] i ddull cymysg y broses o gasglu data: ffurflen pro-fforma ar-lein Cymru cyfan (a gynhyrchodd 30 o ymatebion) a chasglu data ansoddol, drwy gyfweliadau dros y ffôn, cyfweliadau wyneb yn wyneb a grwpiau trafod.

Yn fwy manwl, roedd elfennau creiddiol y dull o fynd ati i gasglu data yn driphlyg:

  1. Arolwg Cymru gyfan o sefydliadau/rhwydweithiau rhan-ddeiliaid allweddol ar draws Cymru
    atblygwyd ffurflen pro-fforma o 8 i 10 cwestiwn ar lein, ffurflen yn seiliedig ar amcanion werthuso'r broses a’i hanfon at sefydliadau rhan-ddeiliaid allweddol. Derbyniwyd 30 o ymatebion
  1. Astudiaeth achos haenedig ar ‘olion traed’ pedwar awdurdod lleol
    Gofynnwyd i bedwar awdurdod lleol yng Nghymru (Ardaloedd 1-4) gymryd rhan yng Ngwerthuso'r Broses fel cynrychiolwyr o gymunedau Cymru: un sy’n wledig yn bennaf, un drefol yn bennaf, un yn gymoedd yn bennaf ac un gan fwyaf yn Gymraeg ei hiaith. Defnyddiwyd tri 'strata' gwahanol o’r gweithlu yn yr ardaloedd hynny a chynnwys gwahanol sefydliadau o fewn y pedair ardal ôl-troed. Cymerodd cyfanswm o 140 o gyfwelai ran ar draws y pedwar lleoliad.
  1. Cyfweliadau gyda sefydliadau rhan-ddeiliaid allweddol
    Cynhaliwyd ymchwil ansoddol yn ogystal â’r ‘cyfrifiad’ er mwyn cynnig dyfnder ychwanegol i’r materion a godwyd yn y ffurflen pro fforma. Cynhaliwyd 12 o’r cyfryw gyfweliadau. Lluniwyd rhestr o sefydliadau allweddol o aelodaeth Grŵp Cyfeirio Arbenigol yr Astudiaeth: ADSS Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru, CLILC, CGGC, Cydffederasiwn y GIG, Y Comisiynydd Pobl Hŷn, Y Comisiynydd Plant, Fforwm Gofal Cymru, ymhlith eraill.

Mae’n bwysig nodi i’r data gael ei gasglu cyn pandemig COVID-19, rhwng Ionawr a Mawrth 2020.[3]

[1] Patton, M. (2018) Principles-Focused Evaluation, The Guilford Press, Llundain.

[2] Yn ogystal â hyn, mae tîm yr astudiaeth yn gweithio ar ddadansoddiad o’r data a gyhoeddwyd – gan Lywodraeth Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, Data Cymru a ffynonellau swyddogol eraill.

[3] O gofio bod Llywodraeth Cymru erbyn hyn wedi ymestyn dyddiad gorffen yr astudiaeth am 12 mis hyd Hydref 2022, bydd  hyn yn caniatáu ail gyfnod o werthuso'r broses yn ystod Gwanwyn 2022 a fydd yn galluogi tîm yr astudiaeth i fynd i’r afael â'r materion a godwyd yn ystod y cyfnod cyntaf hwn.

2. Canfyddiadau/negeseuon allweddol

Egwyddorion y Ddeddf

  • Y farn a fynegwyd yn fynych oedd bod egwyddorion y Ddeddf yn ffurfio fframwaith pwysig yn seiliedig ar werthoedd ar gyfer camau weithredu.
  • Ystyried bod angen amser ar y ‘daith’ newid gyfredol a pharhaus er mwyn rhoi egwyddorion y Ddeddf ar waith.

Ataliad  

  • Cafwyd rhai enghreifftiau positif o fodelau ac arferion ataliad, ond ystyrir hyn gan rai yn fylchog.
  • Ceir hanesion cymysg o’r buddsoddi mewn ataliad, gydag adroddiadau o dan-fuddsoddi yn ogystal ag ychydig o ddyrannu ataliad.

Cyd-gynhyrchu

  • Roedd enghreifftiau positif o gyd-gynhyrchu yn natblygiad ymyriadau unigol a chymunedol ar gyfer gofal a chymorth
  • Nodwyd sialensiau i sicrhau mwy o gymorth yr arweinyddiaeth ar gyfer dulliau cyd-gynhyrchiol o weithio, parhau i newid a datblygu modelau arbenigol proffesiynol ac ymateb i gymhlethdodau cynhenid prosesau cyd-gynhyrchu.

Llesiant

  • Ystyrir bod llesiant yn hanfodol i ofal cymdeithasol, ond mae cryn ddadlau ynglŷn â chysyniad llesiant.
  • Mae galluogi llesiant yn gofyn am roi holl egwyddorion y Ddeddf ar waith.

Llais a rheolaeth

  • Rhoddwyd enghreifftiau o ddehongliadau positif o’r effaith yn deillio o ffocws ar ‘lais a rheolaeth’ a mwy o ymwybyddiaeth o sut orau i gynorthwyo cynnal llais a rheolaeth
  • Nodwyd bod gwasanaethau eiriolaeth yn gorgyffwrdd ac yn dameidiog, ynghyd â’r angen i ddal ati i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd eiriolaeth.

Gweithio aml-asiantaethol

  • Ymrwymiad cryf i weithio’n aml-asiantaethol ac enghreifftiau positif ohono.
  • Fodd bynnag, mae breuder, bylchau ac anghysonderau mewn gweithio aml-asiantaethol.
  • Gwaith aml-asiantaethol yn seiliedig ar ymddiriedaeth, cysylltiadau a galluedd sefydliadau i gynorthwyo’r gwaith hwn.

Gweithredu’r Ddeddf

  • Mae’r Ddeddf wedi galluogi dulliau newydd o weithio yn cynnwys newid arfer a chryfhau partneriaethau.
  • Sicrhau bod y gwaith rhagbaratoadol a’r cynllunio i fod yn barod i roi’r Ddeddf ar waith (e.e. ail-fodelu gwasanaeth, casglu gwybodaeth, hyfforddi gweithlu a sicrhau bod popeth yn cydymffurfio â’r Ddeddf) yn gyffredinol.
  • Cynigiwyd llu o ddisgrifiadau o’r modd y mae’r Ddeddf wedi cynorthwyo newid. Er enghraifft, cyfeiriwyd at y ffaith bod y Ddeddf yn cynnig dilysiad a chyfiawnhad, fel catalydd i arwain a chyflenwi newid ac fel galluogwr.
  • Mae gweithredu a newid i ddull newydd o weithio yn broses barhaus gan gydnabod mai taith ydy gweithrediad.
  • Ystyriwyd bod enwi’r Ddeddf yn broblem hefyd, gan arwain at gamddealltwriaeth am ddyletswyddau a chyfrifoldebau sefydliadau eraill yn enwedig, iechyd.
  • Mae diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o’r Ddeddf wedi creu sialensiau i’r dull ar sail asedau o fynd ati (e.e. Dinesydd, defnyddiwr gwasanaeth, rheoli disgwyliadau gofalwr, diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o’r hyn y mae’n ei olygu)

Swyddogaethau awdurdod lleol a gwasanaethau cymdeithasol

Asesiadau   

  • Roedd y dulliau newydd o fynd ati i ddeall angen cymwys pobl am lesiant, dulliau sy’n ymgorffori’r pwyslais ar asesu ar sail cryfderau ac asedau o dan y Ddeddf, yn amlwg.
  • Ystyriodd y cyfranogwyr y datgysylltiad rhwng rhethreg ddeddfwriaethol a realiti gweithredol, yn enwedig yn wyneb y tensiynau rhwng hyblygrwydd a dehongliad lleol a rheolaeth ganoledig.

Sgyrsiau am ‘Yr hyn sy’n bwysig’

  • Ystyriodd cyfranogwyr fod sgyrsiau ‘Yr hyn sy’n bwysig’ yn bositif gan fwyaf, ac ystyried y byddai hyn yn golygu dychwelyd at arferion da.

Canlyniadau

  • Y sialens i’r gweithlu oedd bod y canlyniadau yn oddrychol ac yn ddadleuol, heb fod yn sefydlog neu wedi’u safoni o ran y modd y maen nhw’n cael eu hasesu neu’n cael eu casglu.
  • Roedd teimlad cyffredinol bod canlyniadau yn dechrau golygu ‘gwaith ar droed’.

Comisiynu

  • Mynegwyd y teimlad bod arferion wedi datblygu i’r graddau bod comisiynu ar gyfer egwyddorion a chanlyniadau’r Ddeddf wedi’i wireddu, ond bod angen cynnydd sylweddol o hyd.
  • Y prif broblem o ran comisiynu a nodwyd yn ystod gweithredu’r Ddeddf oedd diffyg cyd-gysylltiad rhwng awdurdodau wrth weithredu’r Ddeddf a hynny’n arwain at 22 o ddulliau nodedig a gwahanol o wneud pethau.

Diogelu

  • O ran diogelu, ystyriwyd bod y Ddeddf wedi ysgogi newidiadau buddiol.
  • Nododd ymatebwyr fod Gweithdrefnau Diogelu newydd Cymru yn darparu, hyd yn hyn, sialensiau positif i ddulliau sefydledig o weithio a’r eglurder a’r parhad angenrheidiol.

Perthynas weithredol gyda phartneriaid

  • Mae pwysigrwydd arweinyddiaeth i gychwyn a chynnal newid yn glir,
  • Mae gwerth mawr yn cael ei roi ar berthynas waith bositif a chyfatebol gyda phartneriaid.
  • Mae’r Ddeddf yn yrrwr ac yn ysgogiad ar gyfer datblygu partneriaethau â iechyd.
  • Mae’r Ddeddf, i raddau, wedi galluogi i ofal cymdeithasol a iechyd gael eu hintegreiddio er mwyn datblygu dulliau cydweithrediadol rhanbarthol o fynd ati, ymrwymiad a chyfraniad arweinwyr, mannau gweithio integredig, cyd-barch a chyd-ymddiriedaeth, a negeseuon cyson i’r ddau sefydliad.
  • Mae angen amser ac adnoddau i sefydlu a datblygu partneriaethau.
  • Mae’r sector gwirfoddol yn bartner rhagorol ar y cyfan, ond mae pryderon am gapasiti, cyllid a chynaladwyedd yn dal i fodoli.
  • Mae angen i ‘hinsoddau’ sy’n anghyson â’i gilydd y gwahanol sefydliadau – yn enwedig gofal cymdeithasol a iechyd– gysoni ymhellach â’i gilydd.

Perthynas strategol gyda phartneriaid

  • Bu byrddau a strwythurau yn agwedd allweddol yn ffurfioli a chryfhau partneriaethau rhwng gofal cymdeithasol, iechyd, ac asiantaethau eraill.
  • Ystyriwyd bod Byrddau Diogelu Rhanbarthol yn ddatblygiadau arbennig o bositif i alluogi gweithio’n rhanbarthol.
  • Mae angen gwaith pellach i ddatblygu strwythur Byrddau Partneriaethau Rhanbarthol ac i wella’r berthynas rhwng Byrddau Partneriaethau Rhanbarthol a Byrddau Diogelu Rhanbarthol.
  • Yn nhermau mwy cyffredinol, mae maint rhanbarthau yn peri heriau i gynnal trafodaethau trylwyr am integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Mae defnyddio dull ‘un ateb yn addas i bawb’ o fynd ati yn rhanbarthol yn peri problem wrth fynd i’r afael â materion is-ranbarthol ac ardaloedd.

Y gweithlu

  • Mae rheoli a datblygu gweithwyr cymdeithasol yn broses barhaus.
  • Mae darparu cymorth gan reolwyr gwasanaethau a thimoedd yn hanfodol bwysig wrth weithredu’r Ddeddf ymhellach.
  • Cafodd y newid i’r dull ar sail asedau o fynd ati i weithio effaith bositif ar y gweithlu. Ymhlith y manteision oedd cyfle i weithio'n wahanol, boddhad yn y swydd a symbyliad, a gwerth cydweithio gydag unigolion i gyflawni canlyniadau.
  • Mae cynyddu baich achosion, lleihau capasiti a phwysau'r galw yn ffactorau sy’n cyfyngu ar gyfraddau ar y ‘daith’ barhaol o weithredu, yn effeithio ar allu a graddau’r gweithlu i gychwyn a chynnal newid yn enwedig o ran:
    • galw a chymhlethdod cynyddol
    • capasiti gweithlu y mae problemau recriwtio a chadw staff yn ei waethygu

Data

  • Croesewir bod dal canlyniadau ansoddol ‘meddalach’ yn symud o gasglu a mesur data meintiol yn unig.
  • Mae’r Ddeddf wedi helpu i flaenoriaethau’r ffocws ar ganlyniadau’r unigolyn.
  • Nodwyd manteision a rhwystredigaethau i ymarferoldeb 'WCCIS' - System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru)
  • Ymhlith y sialensiau i ddal ac amlygu data mae:
    • ansicrwydd sut orau i’w wneud, i’w riportio, pwyslais parhaol ar ddata meintiol, ac amser/capasiti i’w wneud mewn modd ystyrlon
    • anhawster priodoli canlyniadau positif i fath arbennig o gymorth neu ymyriad
    • dysgu defnyddio WCCIS yn effeithiol, yn enwedig o ran echdynnu data, ei ddadansoddi a’i riportio

Goblygiadau ariannol ac economaidd

  • Nododd cyfranogwyr i gyfnod gweithredu’r Ddeddf ddod ar adeg anodd i wasanaethau cyhoeddus, ynghanol cyfnod o gyni.
  • Nodwyd effeithiau negyddol cyni a phwysau ariannol a’u cysylltu â:
    • gorwario o fewn gwasanaethau cymdeithasol a gostyngiad yn narpariaeth statudol gwasanaethau
    • rheoli’r galw a gostwng disgwyliadau tra’n ceisio rheoli galwadau sy’n gwrthdaro o fewn llywodraeth leol
    • canlyniadau trefniadau cyllido, a chwestiynau am effeithiolrwydd cyffredinol y cyfryw drefniadau cyllido byr-dymor
  • Nodwyd y datgysylltiad rhwng y rhethreg a realiti o gyllidebau cyfun a chwestiynau am eu rôl.
  • Nodwyd nifer  anawsterau o ran cyllido tymor byr, yn bennaf diffyg sefydlogrwydd a chynaladwyedd mewn trefniadau o’r fath, megis costau cyfle o grantiau gwasanaethu a'r amser a gollir wrth reoli cytundebau staff.
  • Ystyriwyd bod y Gronfa Gofal Integredig (ICF) wedi helpu i hwyluso gwaith yn unol ag egwyddorion y Ddeddf, ond, o’i gynllunio’n well, roedd ganddo’r potensial i effeithio lawer mwy.
  • Cysylltwyd arbedion hefyd â’r effaith bositif o weithio ochr yn ochr â’r Ddeddf, gyda phwyslais ar bartneriaethau a rhannu’r baich ar draws gwahanol sefydliadau.

3. Casgliadau

Mae cymhlethdod sylweddol (ac ychydig o wrthddweud i raddau) yng nghasgliadau'r adroddiad. Mae’r sylwadau yn cynnig lawer o safbwyntiau ar draws yr holl wasanaethau cymdeithasol a sefydliadau partneriaeth.

O gofio hyn, mae Ffigwr 1 yn ymdrech i resymoli’r cymhlethdod a welson ni. Mae’n cynnig portread cysyniadol o'r adborth a dderbyniwyd i mewn i ddau brif faes: dull trawsnewid, a dull parhad (sydd â thair ffurf ei hun).

Mae newid yn digwydd mewn dwy ffordd. Y cyntaf o fewn y ffurf y gweithgareddau ac arferion yn parhau, lle roedd pethau, i raddau helaeth neu i raddau llai, eisoes wedi cael eu sefydlu cyn i’r Ddeddf gael ei rhoi ar waith. Mae’r ail yn ymwneud â’r ffurfiau ymarfer sydd, er mwyn cydymffurfio â dyletswyddau a gofynion y Ddeddf angen elfen o drawsnewid.

Image
Ffigwr 1

Mae’n awgrymu, oherwydd sefyllfaoedd cychwyn gwahanol yr holl ardaloedd yng Nghymru, ac yn enwedig y pedair ardal yn y cam hwn o’r astudiaeth, yr ymgorfforwyd pedair ffurf o ymarfer, pob un angen newid gwahanol o ran maint:

  • Mae ‘Parhad | (Cyn)Aliniedig’ yn adleisio safbwynt y rhai sy’n arddel eu bod eisoes yn gwneud yr hyn a amlinellwyd yn y Ddeddf cyn ei rhoi ar waith.
  • Mae ‘Parhad | Cydsynio’ yn disgrifio (o’u hanfodd) symud at ffurf newydd o ymarfer o dan y Ddeddf
  • Mae ‘Parhad | Amsugnol’ yn adlewyrchu parhad gydag ymarfer sy’n dal i fodoli ar yr un pryd â’r rhai sy’n awyddus i fabwysiadu ffurfiau newydd o ymarfer
  • Mae ‘Trawsnewid’ yn rhagdybio’r newid mwyaf sylweddol, yn adlewyrchu agweddau newydd ar ymarfer / isadeiledd o dan y Ddeddf.

Blaenoriaethau ar gyfer gweithredu ymhellach a’r camau nesaf ar gyfer Llywodraeth Cymru

Ymhlith y blaenoriaethau ar gyfer gweithredu'r Ddeddf ymhellach roedd parhad a datblygiad integreiddio a phartneriaethau, monitro ac amlygu canlyniadau a’r is-adeiledd i hwyluso gweithio integredig.

Er mwyn gwireddu potensial llawn y Ddeddf, amlygwyd pwysigrwydd cynnal deialog agored rhwng Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol a cyd-berthynas waith ddwy ochrog. Ystyriwyd bod dal a monitro data i dystio i ganlyniadau ac effaith hefyd yn flaenoriaeth.

Ymhlith y negeseuon i Lywodraeth Cymru am yr hyn y dylai ei wneud nesaf oedd symud o ddulliau byrdymor o fynd ati i ddulliau hirdymor o fynd ati i ddatblygu/cynnal modelau a gwytnwch cymunedol, a chynaladwyedd tymor hirach yn cynnwys ariannu, cysondeb yr ymarfer a system gyfan o fewn-brynu a thrawsnewid.

Gwnaed cymhariaeth rhwng meysydd iechyd a gofal cymdeithasol gan alw am gydraddoldeb yng nghyllid y ddau. Amlygwyd cynaladwyedd yng nghyd-destun cyllido ond hefyd y diffyg cysondeb yn yr arferion ar draws Cymru.

Cafwyd pwyslais ar i Lywodraeth Cymru helpu i sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei hymgorffori a hybu cydnabyddiaeth bod ei dyletswyddau yn berthnasol i bob sefydliad sy’n cynnig gofal a chymorth.

Ystyriwyd mai un elfen yn unig oedd ariannu wrth alluogi cynaladwyedd hirdymor. Ymhlith agweddau pwysig eraill oedd cysondeb mewn arferion ac ymgorffori’r Ddeddf ledled Cymru, a ‘thrawsnewid system gyfan’ a yrrir gan arweinyddiaeth sy’n ffocysu ar werthfawrogi gweithlu.

Syniadau cloi

Bydd cyfnod nesaf yr astudiaeth (o fis Ionawr 2021 ymlaen) yn clywed yn eang gan holl ddefnyddwyr y gwasanaethau, y gofalwyr, teuluoedd a chymunedau er mwyn sicrhau cydbwysedd yn erbyn safbwyntiau’r gweithlu a geir yn yr adroddiad hwn ar werthuso'r broses. Cyn hynny, mae’r canlynol yn cynrychioli cychwyn datblygu rhestr o gwestiynau yn ystod cyfnod yr astudiaeth pan werthusir effaith.

  • Pa mor dda y diwellir disgwyliadau defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr o ran gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol?
  • I ba raddau mae cyd-gynhyrchu wedi cael ei ymgorffori yn arferion y gwasanaethau cymdeithasol ac yn yr asesu?
  • Sut brofiad o asesu gofal a rheoli achos mae defnyddwyr gwasanaeth wedi’i gael er i’r Ddeddf gael ei chyflwyno?
  • I ba raddau y rhoddir llais a rheolaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth wrth ryngweithio gyda’r gwasanaethau cymdeithasol?
  • I ba raddau mae pwysau ariannol a chyni yn effeithio ar wasanaethau’r rheng flaen a darpariaethau ymarfer a gofal?

Yn amlwg, mae’r Ddeddf wedi cyfreithloni newid ac wedi bod yn gatalydd i rymuso datblygiad gwasanaethau cymdeithasol a pherthynas awdurdodau lleol gyda phartneriaid allweddol yn y sector iechyd, y sector gwirfoddol a’r sector annibynnol. Bedair blynedd ar ôl i'r Ddeddf ddod i rym ceir tystiolaeth sylweddol o'r gwahaniaeth a wnaeth ond hefyd o ran y gwahaniaeth sydd eto i’w wneud. Mae’n bwysig sylweddoli bod gweithredu’r Ddeddf yn daith sydd yn mynd ymlaen ond hefyd yn gyfraith.

4. Manylion cyswllt

Mark Llewellyn, Fiona Verity, Sarah Wallace a Sion Tetlow

Llewellyn M., Verity F., Wallace S. & Tetlow S. (2020) Gwerthusiad o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Gwerthuso'r Broses. Caerdydd. Llywodraeth Cymru, GSR rhif yr adroddiad 2/2021.

Barn yr ymchwilwyr ydy’r rhai a fynegwyd yn yr adroddiad hwn ac nid o angenrheidrwydd farn Llywodraeth Cymru

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Rebecca Cox
Adran Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: rebecca.cox@llyw.cymru

Ymchwil cymdeithasol rhif: 2/2021

Image
GSR logo

ISBN digidol 978-1-80082-716-5