Cyfres o argymhellion i ni ddefnyddio er mwyn mynd i’r afael â chynrychiolaeth anghyfartal ymhlith cynghorwyr etholedig mewn llywodraeth leol.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Canfyddiadau allweddol
- Canfu’r gwerthusiad fod y rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth yn llwyddiannus o ran mynd i’r afael â rhai rhwystrau mae pobl o gefndiroedd amrywiol yn eu hwynebu.
- Helpodd y rhaglen i fentoreion gynyddu gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o lywodraeth leol.
- Ar ddiwedd y rhaglen, roedd 20 allan o 51 o fentoreion yn agored i sefyll mewn etholiad llywodraeth leol.
- Datgelodd y gwerthusiad heriau cyffredin a wynebir gan gynghorwyr gan gynnwys tâl isel, yr ymrwymiad amser sy’n ofynnol, gofal plant a chanfyddiadau cyhoeddus negyddol.
Prif argymhellion
Tynnodd y gwerthusiad nifer o argymhellion y dylai cynlluniau yn y dyfodol ystyried:
- cyfnod datblygu wedi’i wreiddio i ddiffinio cyfranogwyr targed a chynllunio gweithgareddau ac adnoddau allweddol
- ymgorffori prosesau monitro a gwerthuso
- ymdrin â chanfyddiadau’r cyhoedd o lywodraeth leol drwy ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd a chyfathrebu i herio canfyddiadau cyhoeddus negyddol o’r cynghorwyr
- gweithio gyda chyflogwyr er mwyn ymdrin â chanfyddiadau ynghylch y sgiliau a enillir yn sgil rôl cynghorydd
- Cynllun Drws i Ddemocratiaeth neu gynllun tebyg i gefnogi ymgeiswyr a chynghorwyr anabl
- dylai cyd-drafod â phleidiau gwleidyddol er mwyn sicrhau cefnogaeth ar draws y pleidiau gwleidyddol a rhoi sylw i ragfarn ddiarwybod – yn bennaf ar baneli dewis.
Cefndir
Cynhaliwyd y rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth rhwng mis Gorffennaf 2014 a mis Mawrth 2017. Nod y rhaglen oedd cynyddu’r nifer o ymgeiswyr llywodraeth leol o gefndiroedd amrywiol, trwy nifer o feysydd gweithredu:
- cynllun mentora
- ymgyrch gyfathrebu
- cynllun annog cyflogwyr
- Drws i Ddemocratiaeth
- cyd-drafod â phleidiau gwleidyddol.
Adroddiadau
Gwerthusiad o amrywiaeth mewn democratiaeth , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Gwerthusiad o amrywiaeth mewn democratiaeth: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 601 KB
PDF
601 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Gwerthusiad o amrywiaeth mewn democratiaeth: crynodeb hawdd ei ddarllen , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 128 KB
PDF
128 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Gwerthusiad o amrywiaeth mewn democratiaeth: ffeithlun , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 130 KB
PDF
130 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Merisha Hunt
Rhif ffôn: 0300 062 8345
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.