Daeth yr ymgynghoriad i ben 15 Chwefror 2018.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Manylion am y canlyniad

Crynodeb o ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

Atodiad A - Rhestr ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 134 KB

Atodiad B - Rhestr o’r holl ymatebwyr a sectorau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 129 KB

Atodiad C - Rhestr o gwestiynau’r ymgynghoriad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 127 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem glywed eich barn am yr offerynnau statudol a safonau cenedlaethol drafft sydd eu hangen i roi Atodlen 3 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 ar waith o ran defnyddio systemau draenio cynaliadwy (SuDS) ar ddatblygiadau newydd.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar y rheoliadau a'r gorchmynion a gynigir. Maent yn nodi manylion sut mae'r broses cymeradwyo systemau draenio cynaliadwy'n gweithio.
Mae'r offerynnau statudol drafft yn ymdrin â:
- y drefn cymeradwyo ceisiadau gan gorff cymeradwyo SuDS;
- gorfodi unrhyw dramgwydd sy'n groes i'r gofyn am gymeradwyaeth; a
- hawl y datblygwr i apelio yn erbyn penderfyniad y corff cymeradwyo.
Yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwnnw, rydym yn disgwyl i’r ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno yn y Cynulliad ym mis Mai 2018, gan ddod i rym ymhen chwe mis.
Mae'r ddogfen hon yn rhoi crynodeb hefyd o'r ymatebion ac o'n hymatebion ni i'r ymgynghoriad blaenorol a gyhoeddwyd ar 19 Mai i 11 Awst 2017.
Rydym yn gwahodd rhanddeiliaid i un o'n tri gweithdy ymgynghori ledled Cymru:
• 9 Chwefror - Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Caerfyrddin
• 12 Chwefror - Swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghyffordd Llandudno
• 13 Chwefror - Stadiwm y Principality, Caerdydd
I archebu, anfonwch ebost at water@gov.wales erbyn 2 Chwefror.
Dogfennau ymgynghori

Consultation document , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

Atodiad A: rhestr lawn o ymgyngoreion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 67 KB

Atodiad B: drafft Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 105 KB

Atodiad C: drafft Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Gweithdrefn) (Cymru) 2018 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 199 KB

Atodiad D: drafft Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodaeth) (Cymru) 2018 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 244 KB

Atodiad E: drafft Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Apelau) (Cymru) 2018 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 205 KB

Atodiad F: drafft Safonau Systemau Draenio Cynaliadwy i Gymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 800 KB

Atodiad G: diagram o broses cymeradwyo SuDS , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 422 KB

Atodiad H: diagram o'r broses orfodi sy'n gysylltiedig â SuDS , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 560 KB
