Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y Gweinidog

Lee Waters AS, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:

Mae’r newidiadau i sut mae llawer ohonom yn gweithio wedi bod yn un o effeithiau sylweddol cyfnod y Coronafeirws ac mae llawer ohonom wedi gweld bod y newidiadau hyn yn gweithio i ni.

Ochr yn ochr â mathau eraill o weithio’n hyblyg, gall gweithio o bell arwain at fanteision amgylcheddol a gwaith teg. Felly, er ein bod yn cydnabod nad oes modd gwneud pob swydd o bell, rydym yn dal i weld gwerth mawr o ran hyrwyddo mwy o weithio o bell ledled Cymru.

Mae profiad pob unigolyn o weithio o bell yn unigryw; ac mae anghenion busnesau a sefydliadau yn wahanol. Dyna pam mae ein dull gweithredu yn canolbwyntio ar ddewis a hyblygrwydd, yn hytrach nag un ateb i bawb. Rydym yn gwybod nad dim ond gweithio o bell yw’r dyfodol i lawer o bobl. Mae’n gymysgedd o weithio yn y swyddfa, gartref, yn lleol mewn canolfan neu mewn lleoliad arall.

Mae’n bwysig bod gweithwyr yn cael yr hyblygrwydd i wneud y dewisiadau hyn.

Rydym yn deall y bydd angen swyddfeydd canolog o hyd, ar gyfer y rheini sy’n gweithio’n gynhyrchiol yn yr amgylchedd hwnnw ac ar gyfer mannau cydweithio a rennir. Bydd angen addasu dyluniadau swyddfeydd yn y dyfodol ar gyfer gweithio hybrid a bydd angen i gyfarfodydd weithio ar gyfer pobl a fydd yn bresennol yn rhithiol ac ar y safle.

Fodd bynnag, gall gorfodi gweithio o bell heb ymgynghori hefyd olygu bod gennym ddulliau newydd a mwy o achosion o ecsbloetio a gwaith annheg.  Dyna pam ein bod yn awyddus i gefnogi cyflogwyr a gweithio gydag undebau llafur i ddangos beth mae da yn ei olygu - credwn y dylid cyflwyno a chynnal y ffyrdd newydd hyn o weithio yn unol ag egwyddorion gwaith teg a phartneriaethau cymdeithasol. 

Nid yw’r newid i weithio o bell ar ddechrau’r pandemig wedi gweithio i bawb ac mae ein nodau ar gyfer gweithio o bell yn y dyfodol yn canolbwyntio ar ddewisiadau hyblyg.

Rydym yn canolbwyntio ar gynyddu a galluogi gweithio o bell, helpu gweithwyr i aros yn lleol gan ei wneud yn fodel cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Ers blynyddoedd, mae pobl wedi teithio’n bell, weithiau bob diwrnod gwaith, gan arwain at dagfeydd a llygredd. Yn aml, roedd hyn yn creu cydbwysedd gwaeth rhwng bywyd a gwaith.

Gall y math hwn o weithio gryfhau cymunedau lleol a dod â manteision o ran yr hinsawdd a llesiant wrth i ni ddibynnu llai ar gymudo traddodiadol. Rydym yn sicr y gall llai o gymudo fod yn allweddol i gyflawni ein targedau sero net erbyn 2050.

Cyflwyniad

Mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi cyflymu’r broses o symud i weithio o bell. Mae wedi gwneud i weithwyr a busnesau feddwl am sut a ble maen nhw’n gweithio, nawr ac yn y dyfodol.

Mae’r strategaeth hon yn amlinellu ein dull o sicrhau bod 30% o weithlu Cymru yn gweithio gartref neu’n agos i gartref yn ystod Tymor y Senedd hon. Mae’n nodi manteision economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol gweithio o bell, ac yn egluro sut rydym yn bwriadu sefydlu gweithio o bell yn y gweithle yng Nghymru ar gyfer yr hirdymor.

Er bod y polisi gweithio o bell yn rhaglen waith bellgyrhaeddol a thrawsbynciol sy’n effeithio ar bob sector, ni fyddwn yn pennu targedau ar gyfer cyflogwyr nac unigolion. Yn hytrach, byddwn yn gweithio i annog mwy o hyblygrwydd, llais a dewis i weithwyr, a mwy o ystwythder i fusnesau a sefydliadau.

Rydym yn dymuno cefnogi cyflogwyr i fabwysiadu arferion gweithio o bell, dysgu o ymchwil ac arferion gorau, ac arddangos rhagoriaeth ac arloesedd.

Beth yw gweithio o bell?

Rydym yn diffinio gweithio o bell fel gweithio y tu allan i weithle traddodiadol neu fan gwaith canolog yn ystod holl oriau gwaith neu ran o oriau gwaith unigolyn. Mae’n cynnwys gweithio gartref ac yn agos i’ch cartref yn eich cymuned leol.

Mae gweithio o bell yn seiliedig ar y syniad nad oes angen gwneud rhai swyddi mewn lle penodol, bob amser neu am ran o’r amser, er mwyn gwneud hynny’n llwyddiannus.

Mae gweithio o bell yn fath o weithio’n hyblyg. Mae hefyd yn cael ei alw’n weithio ystwyth neu’n weithio’n glyfar. Yn yr un modd, gellir defnyddio gweithio hybrid i ddisgrifio gwaith lle mae amser yn cael ei rannu rhwng gweithle canolog a lleoliadau eraill.

Mae gweithio’n hyblyg yn cynnwys ystod ehangach o drefniadau na gweithio o bell. Gall trefniadau gweithio’n hyblyg priodol roi dewisiadau i weithwyr ynghylch pryd, ble a’r oriau y maent yn eu gweithio, a chwarae rhan mewn gwaith mwy teg. Rydym yn gweithio ar draws y llywodraeth i hyrwyddo ac annog ffyrdd gwahanol o weithio’n hyblyg.

Gweledigaeth gweithio o bell

Cyflwynwyd y polisi gweithio o bell ym mis Medi 2020. Mae’n hyrwyddo model gweithle lle gall staff ddewis gweithio yn y swyddfa, gartref neu mewn canolfan.

Ein gweledigaeth yw sefydlu diwylliant sy’n gwerthfawrogi ac yn cefnogi mwy o ddewisiadau o ran gwaith o bell yn y gweithle, mewn ffyrdd sy’n gyson â’n hymrwymiad i waith teg.

Rydym yn dymuno gwneud y canlynol:

  • gweld 30% o’r gweithlu’n gweithio o bell yn rheolaidd
  • gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr, gweithwyr, undebau llafur ac eraill i gefnogi newid i ragor o bobl sy’n gweithio o bell, gan eu helpu i adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn ystod y pandemig a deall yn well beth yw manteision gweithio o bell
  • cymryd camau yn erbyn newid yn yr hinsawdd drwy leihau’r angen i deithio, a thrwy hynny, leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth
  • gwella ansawdd aer drwy leihau tagfeydd a lleihau prysurdeb oriau brig
  • creu gweithleoedd cynhwysol yn ein cymunedau lleol sydd â chydraddoldeb wrth galon y broses o wneud penderfyniadau
  • hyrwyddo model hybrid ar gyfer y gweithle fel swyddfa, cartref a chanolfannau lleol er mwyn galluogi pobl i fyw a gweithio yn eu cymunedau lleol
  • cynyddu’r cyfleoedd ar gyfer mwy o waith teg a hyrwyddo llesiant a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ar gyfer y gweithlu yng Nghymru.

Manteision a risgiau

Yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf yn 2020, daeth yn amlwg bod manteision gweithio o bell yn llawer mwy na dim ond lleihau lledaeniad COVID-19. Gwelsom fanteision i lawer o weithwyr, cymunedau lleol a’r amgylchedd.

A ninnau’n dod allan o’r pandemig, mae angen i ni wneud yn siŵr nawr ein bod yn manteisio i’r eithaf ar yr effeithiau cadarnhaol hyn a bod cyflogwyr yn rhoi’r ffyrdd newydd hyn o weithio ar waith mewn ffordd gadarnhaol a theg.

Bydd a yw pobl yn gweithio o bell yn dibynnu ar nifer o ffactorau sy’n unigryw i’r gweithiwr a’r cyflogwr. Drwy’r strategaeth gweithio o bell, gallwn alluogi newidiadau sydd o fudd i’r ddwy ochr ac sy’n gwella llesiant cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol. Rydym wedi nodi a thrafod y manteision a’r risgiau hyn gydag amrywiaeth o randdeiliaid a phartneriaid cymdeithasol.

Manteision

Mae manteision gweithio o bell yn ategu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n diffinio saith nod llesiant.

Byddwn yn defnyddio’r pum dull o weithio a nodir yn Neddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 fel ein hegwyddorion arweiniol ar gyfer cyflawni’r strategaeth. Bydd hyn yn ein galluogi i ddatblygu dull a fydd yn gwneud y mwyaf o fanteision gweithio o bell yng Nghymru i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Amlinellir y dull hwn yn Atodiad 1.

Manteision cymdeithasol a llesiant

  • cynnig mwy o ddewis a hyblygrwydd, a all wella llesiant, iechyd meddwl, cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, bodlonrwydd mewn swydd a chynhyrchiant
  • lleihau’r amser a’r costau sy’n gysylltiedig â chymudo

Enghraifft go iawn, manteision amser

Roedd un o ddefnyddwyr presennol canolfan yn arfer gweithio pum diwrnod yr wythnos yng Nghaerdydd.  Erbyn hyn, mae’n gweithio mewn canolfan leol ar gyfer rhannu mannau gwaith yn Abertawe am ran o’r wythnos. Dros gyfnod o flwyddyn, mae wedi adennill tua 20 diwrnod o amser yn ôl pan fyddai wedi bod yn cymudo.

Llesiant amgylcheddol

  • lleihau teithio sy’n gysylltiedig â gwaith, a fydd yn helpu i leihau tagfeydd, lleihau sŵn ac allyriadau carbon, ac yn gwella ansawdd aer mewn rhai ardaloedd
  • lleihau traffig er mwyn creu gwell amgylchedd i gerddwyr, beicwyr a defnyddwyr eraill y briffordd
  • annog cerdded, beicio a defnyddio e-feiciau i wella iechyd a hyrwyddo ffyrdd cynaliadwy o deithio

Llesiant economaidd

  • creu mwy o gyfleoedd am swyddi i bobl mewn unrhyw leoliad yng Nghymru – yn enwedig gweithwyr mewn cymunedau gwledig a lled-wledig
  • denu dinasyddion yn ôl i’w gwlad enedigol
  • rhoi mynediad i gyflogwyr at weithlu ehangach a mwy amrywiol
  • gallu cynyddu cynhyrchiant a lleihau absenoldeb oherwydd salwch
  • helpu economïau lleol a denu mwy o bobl i’r stryd fawr a chanol trefi

Llesiant diwylliannol

  • meithrin ac annog Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

Risgiau

Gall cynnydd mewn lefelau gweithio o bell arwain at nifer o risgiau’n dod i’r amlwg, felly mae’n bwysig mai’r cam cyntaf er mwyn lliniaru’r rhain yw ein bod yn eu cydnabod. Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid, cyflogwyr ac undebau llafur i ddeall a rheoli risgiau, sy’n cynnwys:

Iechyd a Diogelwch

Mae gan gyflogwyr yr un cyfrifoldebau iechyd a diogelwch ar gyfer pobl sy’n gweithio o bell ag ar gyfer unrhyw weithiwr arall ac mae angen iddynt ystyried y canlynol ar gyfer y gweithiwr:

  • iechyd meddwl a lefelau straen
  • defnyddio offer a’r angen i asesu cyfarpar sgrin arddangos
  • yr amgylchedd gwaith a’i addasrwydd.

Amodau anaddas

Gall amodau anaddas yng nghyswllt gweithio o bell fod ar sawl ffurf. Efallai nad oes gan bobl fannau priodol neu ddiogel gartref, neu efallai eu bod yn teimlo’n ynysig neu wedi’u datgysylltu oddi wrth eu cydweithwyr a’u strwythurau cefnogi. Mae cynnig yr hyblygrwydd i weithio mewn amrywiaeth o leoliadau yn golygu bod modd osgoi rhai o elfennau negyddol gorfod gweithio gartref a welsom drwy gydol y pandemig.

Canol Dinasoedd

Mae llawer o’r heriau a’r cyfleoedd economaidd hirdymor sy’n wynebu Cymru yn dal i fod yr un fath ag yr oeddent cyn yr epidemig, ond mae twf cyflym gweithio o bell yn gyfle ac yn her newydd. Mae mwy o weithio o bell yn golygu bod pobl yn gallu gweithio a byw yn lleol. Yn ôl yr arwyddion cynnar, bydd canolfannau mwy yn gallu ailddyfeisio eu hunain, ond mae’n debygol y bydd risgiau penodol i ardaloedd trefol sydd â llai o amwynderau, ac mae nifer o enghreifftiau o hynny yng Nghymru.

Mae adroddiad a gomisiynwyd gan Weinidogion Cymru: Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru Gweithio o bell, yn dangos y gallai nifer yr ymwelwyr o ganol dinasoedd i'r maestrefi newid wrth i bobl dreulio mwy o amser gartref neu yn eu hardal leol. Ond, bydd dinasoedd yn goroesi drwy addasu dyluniad a sut mae mannau trefol yn cael eu defnyddio. Mae angen i ni fonitro’r sefyllfa er mwyn deall tystiolaeth i lywio penderfyniadau polisi yn ystod y cyfnod adfer a thu hwnt.

Technoleg

Mae technoleg yn wych ar gyfer galluogi gweithio o bell. Roedd yn golygu bod gan gynifer o weithwyr y gallu a’r rhyddid weithio i ffwrdd o’r swyddfa yn ystod y pandemig, ond ar yr un pryd rydym wedi gweld twf sylweddol yn y feddalwedd monitro a ddefnyddir ar gyfer gweithwyr sy’n gweithio o bell. Pan fydd technoleg yn cael ei defnyddio’n gyfrifol, mae’n rhoi mwy o hyblygrwydd i ni ac yn gallu arwain at fwy o gynhyrchiant. Ond gall hefyd roi pwysau ar bobl i deimlo y dylent fod ar gael bob amser, yn enwedig mewn timau neu sefydliadau lle ceir patrymau gweithio gwahanol.

Anghydbwysedd grym

Ni ddylai anghydbwysedd grym rhwng gweithwyr a chyflogwyr arwain at ecsbloetio, fel gor-weithio, gweithio oriau anghymdeithasol, monitro gweithwyr mewn ffordd ymwthiol neu weithio heb egwyliau digonol. 

Gweithlu dwy haen

Ymysg y risgiau posibl a’r canlyniadau anfwriadol a ddaw yn sgil mwy o weithio o bell mae tensiynau yn y gweithle yn dod i’r amlwg rhwng y rheini sy’n gallu gweithio o bell a’r rheini nad ydynt yn gallu gwneud hynny. Gallai hyn gael effaith anghymesur ar fenywod a phobl anabl. Ar y llaw arall, mae potensial hefyd i waith hybrid leihau’r bwlch cyflogaeth a’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac anabledd ac arwain at amrywiaeth mewn rhai sectorau a rolau sy’n talu’n well - er enghraifft, drwy sicrhau bod swyddi’n cael eu hysbysebu fel cyfleoedd hyblyg. Mae ein sylfaen dystiolaeth wedi dangos bod yr hyblygrwydd hwn o ran oriau a lleoliadau yn arbennig o bwysig i rai grwpiau o bobl.

Nid oes disgwyl i weithwyr anabl weithio o bell heb i’r addasiadau rhesymol gofynnol gael eu gwneud.

Nid yw addasiad rhesymol, fel cael gweithio gartref, yn un o fanteision gweithio o bell - mae’n hawl sy’n bodoli’n barod. Ond, rydym yn cydnabod bod y newidiadau rydym wedi’u gweld dros y ddwy flynedd diwethaf wedi bod o fudd i rai pobl anabl gan eu bod wedi cael yr hyblygrwydd y maent wedi gofyn amdano ers tro byd.

Beth fyddwn ni’n ei wneud

Rydym yn gweithio ar draws y llywodraeth a chyda phartneriaid i gyflawni ein gweledigaeth o weithio o bell.

Byddwn yn arwain y ffordd gyda rhaglen gweithio’n glyfar uchelgeisiol yn Llywodraeth Cymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn esiampl ar gyfer gweithio o bell ac mae’n mynd ar drywydd rhaglen uchelgeisiol i gadw ei manteision. Pan fydd hi’n ddiogel gwneud hynny, ein nod yw sicrhau nad oes mwy na 50% o’n gweithlu’n gweithio o swyddfa ganolog ar unrhyw un adeg.

Bydd Llywodraeth Cymru yn arwain drwy esiampl ac yn sicrhau penderfyniadau gwell a chanlyniadau mwy cyfartal i bawb mewn cymdeithas. Rydym yn llunio ein dull o ddatblygu ein pobl, o ddylunio ein lleoedd ac o fuddsoddi mewn offer a ffyrdd newydd o weithio a fydd yn cefnogi ein gweithlu wrth i ni symud ymlaen yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.

Rydym yn gwneud hyn mewn partneriaeth â’n tri Undeb Llafur cydnabyddedig yn Llywodraeth Cymru.

Byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid a phartneriaid i ddeall a rhannu arferion gorau

Mae’r strategaeth gweithio o bell wedi cael ei datblygu gyda mewnbwn gan gynrychiolwyr cyflogwyr, Undebau Llafur a rhanddeiliaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Byddwn yn parhau i ymgysylltu i sicrhau ein bod yn rhannu arferion da ac yn codi ymwybyddiaeth o fanteision gweithio o bell.

What have we done so far?

Gofyn am farn, i ddechrau, fe wnaethom sefydlu cynllun gweithredu cyfathrebu ac ymgysylltu a oedd yn amlinellu blaenoriaethau allweddol, yn gyntaf drwy geisio barn rhanddeiliaid allweddol, a oedd yn cynnwys grwpiau diddordeb arbennig, am ddatblygu polisi.

Fe wnaethom ymgysylltu â'r cyhoedd:

  • fe wnaethom gynnal arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd ar-lein am 6 wythnos rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2021.  Roedd hyn yn cynnwys cwestiynau ynghylch lle byddai pobl yn hoffi gweld canolfannau gweithio o bell lleol, pam roedd eu hangen a pha gyfleusterau fyddai pobl yn eu hoffi.  Cyhoeddwyd crynodeb o’r adroddiad ym mis Mawrth 2022
  • rydym wedi dylunio holiaduron ar gyfer defnyddwyr canolfannau i ofyn am adborth a chasglu data am ddefnydd
  • fe wnaethom roi cyflwyniadau mewn seminarau a digwyddiadau busnes, gan ddarparu rhagor o wybodaeth am weithio o bell.

Fe wnaethom gydweithio:

  • creu canllawiau a chefnogaeth
  • datblygu astudiaethau achos.

Fe wnaethom rannu gwybodaeth a chanlyniadau ar draws adrannau llunio polisïau Llywodraeth Cymru.

Fe wnaethom sefydlu cynllun cyfathrebu ac ymgysylltu, gan weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i sicrhau cynhwysiant - gan gynnwys pobl â nodweddion gwarchodedig a grwpiau eraill dan anfantais mewn gwaith polisi a rhaglenni.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol â Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar gyfer gweithio’n hyblyg a gweithio ystwyth. Nod y grŵp yw cyd-gynhyrchu canllawiau arfer gorau ar gyfer cyrff cyhoeddus.

Rydym hefyd wedi gweithio gydag amrywiaeth o fusnesau a sefydliadau i greu cyfres o astudiaethau achos gweithio o bell sy’n dangos profiadau amrywiaeth eang o fusnesau, mae’r rhain ar gael yma: Astudiaethau achos gweithio o bell.

Byddwn yn monitro cynnydd ac yn rhannu canlyniadau

Rydym yn bwriadu parhau i fonitro wrth i’r cyd-destun gweithio o bell yng Nghymru aeddfedu a newid. Rydym wedi nodi’r diffiniad o weithio o bell er mwyn gallu mesur cynnydd o ran cyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru bod 30% o bobl yn gweithio o bell yn rheolaidd.

Mae gweithio o bell yn faes sy’n datblygu’n gyflym, felly rydym wedi datblygu fframwaith monitro lefel uchel i gasglu data, olrhain tueddiadau a’n galluogi i ddeall yr effeithiau ar y gweithlu ac ar gyflogwyr unigol. Byddwn yn rhannu tueddiadau a chasgliadau o’n hymchwil er mwyn i fusnesau allu deall manteision ac anfanteision gweithlu o bell yn well.

Er y bydd y dangosyddion arfaethedig hyn yn ddefnyddiol ar gyfer y darlun ehangach a thueddiadau hirdymor, rydym yn gwybod na fydd modd priodoli unrhyw newidiadau’n uniongyrchol i’r strategaeth gweithio o bell. Efallai y bydd angen gwaith ymchwil pwrpasol yn y dyfodol, ond mae’n hanfodol ein bod yn monitro’r tueddiadau hyn i sicrhau bod y newidiadau hyn yn parhau i weithio i Gymru. 

Ar hyn o bryd, mae llai o ddata ar gael ar gyfer cyflogwyr sy’n gweithio o bell nag ar gyfer gweithwyr. Felly, byddwn yn canfod ac yn datblygu cyfleoedd priodol i lenwi’r bylchau data hyn.

Mae cwestiynau am weithio o bell yn cael eu cynnwys mewn arolygon cenedlaethol am y tro cyntaf, gan gynnwys yr Arolwg o’r Llafurlu ac Arolwg Cenedlaethol Cymru. Bydd canlyniadau’r arolygon hyn yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o weithio o bell yn ogystal â’u dealltwriaeth.

Dangosyddion cynnydd

Bydd y dangosyddion craidd canlynol yn cael eu tracio dros amser i fonitro cynnydd:

  • canran y bobl sy’n gweithio o bell bob wythnos
  • y pellter cyfartalog mae pob unigolyn yn ei deithio
  • canran y teithiau yn ôl pwrpas
  • canran y bobl sy’n weddol fodlon neu’n fodlon iawn ar eu swyddi
  • cyfartaledd yr oedi fesul KM o deithio ar y ffordd
  • cyfanswm y cilometrau cerbyd a deithiwyd
  • lefel y llygryddion aer o’r sector trafnidiaeth
  • allyriadau nwyon tŷ gwydr o ganolfan y sector trafnidiaeth ar gyfer dinasoedd, traciwr adfer ar y stryd fawr.

Byddwn hefyd yn datblygu dangosyddion perfformiad allweddol pwrpasol ac yn parhau i sganio’r gorwel i weld pa fygythiadau a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg.

Er bod y dangosyddion craidd hyn yn mesur gweithgarwch y mae’r polisi hwn yn debygol o effeithio arno, bydd gofyn monitro rhai eraill - fel a oes band eang ar gael, a phrisiau tai mewn ardaloedd gwledig. Efallai y byddwn hefyd yn ystyried cynnwys dangosyddion cynnydd sy’n cydnabod gwelliannau o ran cael gwared ar rwystrau i weithio o bell.

Rydym yn cydnabod bod gweithio o bell yn cwmpasu nifer o elfennau tystiolaeth a dadansoddi, ac mae’n bwysig casglu tystiolaeth yn eang. Yn ogystal â thystiolaeth feintiol, byddwn yn parhau i gasglu tystiolaeth ansoddol a phrofiadau go iawn cyflogwyr a gweithwyr. Byddwn yn cynnal sgwrs barhaus â chynrychiolwyr cyflogwyr ac Undebau Llafur er mwyn gwneud hynny. 

Rydym yn awyddus i fod yn rhagweithiol a gallu ymateb i dueddiadau a chanlyniadau newydd wrth iddynt ddigwydd yn y maes gwaith hwn sy’n esblygu.

Byddwn yn deall risgiau posibl, canlyniadau anfwriadol, ac effeithiau ehangach

Rydym wedi cynnal Asesiad Effaith Integredig (AEI) llawn i ganfod effeithiau cadarnhaol a negyddol posibl y polisi gweithio o bell mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig fel y’u diffinnir o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, Hawliau Plant, yr Iaith Gymraeg, newid yn yr hinsawdd ac aelwydydd incwm isel. Pwrpas yr asesiad hwn yw manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd cadarnhaol a dileu, lleihau neu liniaru effeithiau negyddol pan fyddant yn cael eu nodi. Mae’r AEI ar gael yma: Strategaeth gweithio o bell: asesiad effaith integredig

Er mwyn sicrhau bod yr ystyriaethau hyn yn dal i fod wrth galon gweithio o bell, byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid.

Ceridwen Powell #UnlockedLives blog fideo:

"Mae pawb yn siarad am y ‘normal newydd’ yn tydi... dydw i ddim eisiau mynd yn ôl i’r normal yna beth bynnag, oherwydd roeddwn i’n cael fy allgáu. Felly pam fyddech chi eisiau mynd yn ôl at rywbeth a oedd yn ddrwg i chi ac nad oedd yn diwallu eich anghenion?

Byddwn yn hyrwyddo’r canolfannau peilot, yn adolygu ac yn gwerthuso

Nid yw gweithio gartref bob amser yn bosibl nac yn ddymunol. Fel dewis arall, gall canolfannau lleol ganolbwyntio ar ddarparu’r amgylchedd iawn i alluogi pobl i weithio o bell yn agos at eu cartref. Gallai hyn fod yn gyfleuster masnachol presennol, yn lle sector cyhoeddus neu’n adeilad cymunedol. Rydym am ddefnyddio mannau lleol o’r fath i alluogi gweithio o bell mewn modd cynaliadwy mewn cymunedau.

Mae’r mannau gwaith lleol hyn wedi cael eu dwyn ynghyd er mwyn profi’r awydd am weithio’n agos i’r cartref ac i weld pa mor ymarferol yw hynny, ac er mwyn llywio agwedd y sector cyhoeddus a’r sector preifat tuag at y ffordd newydd hon o weithio.

Abdullah Imran, Costigan’s yn y Rhyl:

"Doeddwn i ddim yn gallu rheoli fy amser yn dda felly roeddwn i’n meddwl y byddai newid lle yn fy helpu i, a hefyd yn dod â rhywfaint o strwythur i fy mywyd. Mae wedi gwneud fy mywyd mor hawdd ac yn symlach. Rwy’n gallu gwneud dwywaith gymaint o waith ag yr oeddwn i’n gallu ei wneud o’r blaen.

Rydym yn gobeithio y bydd canolfannau gwaith lleol yn dod â mwy o bobl i ganol eu cymuned lle byddant yn treulio eu diwrnod gwaith, yn siopa, yn prynu cinio ac yn cymdeithasu neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau. Mae gwaith ymchwil yn mynd rhagddo ar hyn o bryd drwy ein rhwydwaith o ganolfannau peilot i asesu’r niferoedd sy’n eu defnyddio, y manteision a’r modelau darparu llwyddiannus.

Byddwn yn casglu tystiolaeth feintiol ac ansoddol gan ddefnyddwyr a chyflenwyr ac yn casglu adborth a data ar sut maent yn gweithio, ar y modelau cyflawni, y galw, y manteision a'r newidiadau i batrymau teithio. Mae hyn yn cynnwys a yw gweithwyr yn treulio mwy o amser yn eu tref, a yw eu harferion gwario wedi newid ac a ydynt yn mynd i’r gwaith gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol yn hytrach na char preifat.

Bydd yr astudiaethau peilot yn parhau drwy gydol 2022 ac ar ddiwedd y flwyddyn byddwn yn gwerthuso’r niferoedd sy’n eu defnyddio, pa mor effeithiol ydynt a beth yw eu hanghenion yn y dyfodol. Mae manylion y canolfannau lleol peilot sydd ar gael ar hyn o bryd ar gael yma: Dod o hyd i’ch canolfan gweithio o bell leol.

Rydym yn deall bod rhanddeiliaid yn troi at Lywodraeth Cymru am arweiniad a chamau galluogi. Wrth edrych ar sut gall gweithio o bell weithio, un flaenoriaeth gyson fu uno gwybodaeth am ganolfannau er mwyn i ddefnyddwyr allu canfod eu canolfan leol yn hawdd, ac archebu desg neu le yn ôl yr angen. Trwy weithio gyda rhanddeiliaid, darparwyr canolfannau a defnyddwyr, byddwn yn datblygu gwasanaeth sy’n diwallu anghenion defnyddwyr.

Byddwn yn cefnogi busnesau ac unigolion

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi busnesau ac unigolion i’w helpu i elwa o’r manteision a ddaw yn sgil ffyrdd mwy hyblyg o weithio. Felly, rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar Busnes Cymru ynghylch cefnogi gweithwyr gydag anghenion penodol.

Byddwn yn gwella ein tudalennau ar Busnes Cymru gyda chyfeiriadau gwell at ganllawiau eraill, fel Mynediad i Waith, rhyddhad treth gweithio gartref CThEM, canllawiau’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) a’r cyngor y mae Undebau Llafur yn ei roi.

Ar gyfer yr unigolion, byddwn yn hyrwyddo’r cyngor diweddaraf a chyfredol ar gyfraith cyflogaeth, prosesau adnoddau dynol a byddwn yn arddangos arferion gorau. 

Yn ogystal, byddwn yn ystyried dulliau eraill sydd ar gael i’r llywodraeth, fel cynllunio, caffael a phartneriaethau cymdeithasol. Rydym yn gweithio gyda chyrff yn y sector preifat, y trydydd sector a’r sector cyhoeddus i ganfod beth sy’n gweithio yn eu cymunedau. 

Bydd Busnes Cymru yn creu pecyn dysgu ar-lein fel rhan o’i Wasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS) i helpu busnesau i ddysgu mwy am weithio o bell a chynnig cyngor ar sut i ddewis y dechnoleg gywir, cynnal cyfarfodydd hybrid a chreu’r amgylchedd iawn i bobl weithio ynddo. 

Gweithio gyda llywodraethau eraill

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda’n cydweithwyr yn Llywodraeth y DU a Gweinyddiaethau Datganoledig eraill i sicrhau ein bod yn gallu dylanwadu ar reoliadau’r gweithle yn y dyfodol a nodi arferion gorau. Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i roi hawliau cryfach i weithwyr mewn perthynas â gweithio’n hyblyg.  Gallai hyn gynnwys hawliau ar gyfer ‘gweithwyr crwydrol’ a dylid osgoi ‘hyblygrwydd unochrog’, lle mae trefniadau’n cael eu rhoi ar weithwyr. 

Casgliad

Rydym yn dymuno annog cyflogwyr i gynnig dewis o fwy o drefniadau gweithio’n hyblyg i weithwyr, er mwyn i bobl Cymru wneud dewisiadau sydd fwyaf addas i'w hanghenion. Yn y pen draw, credwn fod cynnig mwy o hyblygrwydd o fudd i gyflogwyr a gweithwyr.

Mae gweithio gartref wedi bod yn un o’r newidiadau pwysicaf a mwyaf amlwg yn ystod y pandemig, gyda mannau gwaith sefydlog ar safleoedd yn newid yn sylweddol wrth i weithio o bell ddod yn rhan o drefn ddyddiol llawer o bobl. 

Mae rhai pobl yn gweld manteision sylweddol, fel gwella eu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, mwy o hyblygrwydd o ran amser a lleoliad neu gyfuno gyrfa â bywyd teuluol. Mae llawer o fusnesau eisoes wedi dechrau cymryd camau i gyflwyno dull mwy ystwyth a hyblyg ac rydym am i hynny barhau. 

Wrth gwrs, mae heriau yn gysylltiedig â thwf gweithio o bell, ond credwn y gall greu gweithle tecach a chynnig swyddi a oedd yn arfer bod yn anhygyrch i rannau o’r boblogaeth yng Nghymru.

Mae gan bawb ran i’w chwarae – sefydliadau’r sector cyhoeddus, y sector preifat, y trydydd sector ac unigolion – nid oes gennym gynllun pendant ar gyfer ein taith. Byddwn yn parhau i ledaenu’r neges, yn annog ac yn cefnogi i wneud yn siŵr bod y gweithleoedd hybrid sy’n dod i’r amlwg yn fannau grymusol, cydweithredol a chynhwysol – yn ffisegol neu’n rhithiol.

Atodiad 1

Cyweddu strategaethau

Mae’r rhaglen lywodraethu 2021 i 2026 yn ceisio sicrhau Cymru sy’n fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrdd. Mae’n ceisio:

  • targed o 30% ar gyfer gweithio o bell
  • datblygu canolfannau gweithio o bell newydd mewn cymunedau.

Mae ein nod o feithrin diwylliant cadarnhaol tuag at weithio o bell yn cael effaith ar lawer o wahanol feysydd a gweithgareddau ar draws y llywodraeth, yng Nghymru ac yn y DU.

Strategaeth Drafnidiaeth Cymru

Mae Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 yn ymrwymo i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer gwell cysylltedd ffisegol a digidol, mwy o wasanaethau lleol, mwy o weithio gartref a gweithio o bell a mwy o deithio llesol, er mwyn lleihau’r angen i bobl ddefnyddio eu ceir bob dydd.

Cymru Sero Net

Yn 2018, roedd trafnidiaeth yn gyfrifol am 17% o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru, 62% o ddefnyddio ceir preifat, 19% o gerbydau nwyddau ysgafn ac 16% o fysiau a cherbydau nwyddau trwm: Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021.

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru i sero net erbyn y flwyddyn 2050 gyda system o ‘gyllidebau carbon’ a thargedau allyriadau interim. Mae gofyn i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi adroddiad ar gyfer pob cyfnod cyllidebol yn amlinellu eu polisïau a’u cynigion ar gyfer cyrraedd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod hwnnw.

Mae’r cynllun newydd, sef Cynllun Cymru Sero Net yn cyflawni’r ddyletswydd hon ar gyfer Cyllideb Garbon 2 (2021-25) ac yn ymateb i’r cyngor diweddaraf gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd.

Mae Polisi 30 yn nodi gweithio o bell – Galluogi pobl i weithio gartref neu’n agos at eu cartref ac mae’n rhagweld amrywiaeth o arbedion carbon.

Deddf Cydraddoldeb 2010

Gall gweithio o bell gyfrannu at fodloni gofynion y Ddeddf Cydraddoldeb a’r angen i roi sylw dyledus i Ddyletswydd Cydraddoldeb Cyffredinol y Sector Cyhoeddus.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod diben cyffredin sy’n rhwymo’n gyfreithiol ar gyfer llywodraeth genedlaethol. Mae’n diffinio saith nod llesiant a phum dull o weithio i helpu gwasanaethau cyhoeddus i ddiwallu anghenion y presennol heb amharu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. 

Mae’r nodau llesiant sy’n arbennig o berthnasol i’r polisi gweithio o bell yn cynnwys:

  • Cymru iachach: “Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle mae modd deall dewisiadau ac ymddygiad sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol”
  • Cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang; “Gwlad sydd, wrth wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud rhywbeth o’r fath wneud cyfraniad cadarnhaol at lesiant byd-eang”
  • Cymru sy'n fwy cyfartal: “Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol)”

Mae ein strategaeth hefyd yn cyd-fynd â’r pum dull o weithio:

  1. Hirdymor: Rydym yn ymwybodol y gall ffactorau newid dros amser, felly byddwn yn parhau i werthuso a monitro tueddiadau ac yn defnyddio amrywiaeth o ymyriadau effeithiol i gefnogi ein nodau a’n hamcanion ar gyfer yr hirdymor.
  2. Atal: Byddwn yn gweithio ar draws y llywodraeth i lywio syniadau polisi yn y dyfodol a byddwn yn rhannu data a gwybodaeth rhwng cyrff cyhoeddus i annog ymyriadau cynnar.
  3. Integreiddio: Rydym wedi mabwysiadu dull gweithredu llywodraeth gyfan. Er enghraifft, rydym yn gweithio ar gysylltiadau rhyngrwyd o ansawdd uchel i bobl ledled Cymru, sy’n hanfodol er mwyn datblygu gweithio o bell. Rydym hefyd yn rhoi sylw i ddyfodol canol trefi drwy’r gronfa Trawsnewid Trefi ac yn rhoi arweiniad drwy wefan Busnes Cymru. 
  4. Cydweithio: Prif ffocws y strategaeth hon yw bod gweledigaeth ar y cyd ar gyfer gweithio o bell ar draws Llywodraeth Cymru - bydd y sefydliad cyfan yn sicrhau bod ei uchelgais yn cael ei chyflawni. Ar ben hynny, rydym yn gweithio gyda’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol Cysgodol y mae undebau llafur, cyflogwyr, gwasanaethau cyhoeddus a Llywodraeth Cymru yn aelodau ohono.
  5. Cynnwys: Rydym am i’r cyhoedd yng Nghymru gymryd rhan a chael dweud eu dweud. 

Rydym wedi cynnal arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd ar weithio o bell, a chawsom dros 2,000 o ymatebion i’r arolwg hwn a oedd yn holi am farn am ganolfannau gweithio o bell. Rydym yn gwybod bod angen ymgysylltu mwy a chyflogwyr a gweithwyr ynghylch gweithio o bell er mwyn rhoi llinell sylfaen i lunwyr polisïau ar draws y llywodraeth ar gyfer mesur tueddiadau, targedau ac effaith polisi yn y dyfodol. Byddwn yn annog pob sefydliad i barhau i gynnwys eu gweithwyr a’u cymunedau.

Partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg 

Rydym wedi ymrwymo i wneud Cymru yn wlad o waith teg. Mae mwy o gyfleoedd i weithio o bell - wrth ymgynghori â’r gweithlu a’r undebau llafur mewn gweithleoedd lle maent yn cael eu cydnabod - yn grymuso gweithwyr i gael mwy o ddewis o ran sut maent yn gweithio.  Gall hyn gyfrannu at waith teg. 

Datblygu’r Genhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi

Mae’r Rhaglen Lywodraethu hefyd yn cynnwys yr ymrwymiad uchod. Yn ei Uwchgynhadledd Economaidd ar 18 Hydref amlinellodd Gweinidog yr Economi ei uchelgais ar gyfer cadernid economaidd i gynnwys mynd i’r afael â’r her ddemograffig hirdymor sy’n wynebu economi Cymru – poblogaeth oedran gweithio sy’n heneiddio.

Ystyrir bod mwy o gyfleoedd i weithio o bell yn un o’r amodau a fydd yn galluogi dinasyddion i deimlo’n hyderus ynghylch cynllunio eu dyfodol yng Nghymru.