Data ar coronafeirws ac ar weithgarwch a chapasiti’r GIG hyd at 20 Ebrill 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gweithgarwch a chapasiti’r GIG yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19)
Ystadegau am y coronafeirws:
- nifer yn yr ysbyty
- derbyniadau newydd i’r ysbyty
- gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yng Nghymru
- gwelyau cyffredinol ac acíwt yng Nghymru
- derbyniadau i adrannau dacab
Mae ystadegau am alwadau a wnaed i 111 a Galw Iechyd Cymru, absenoldeb staff y GIG a galwadau brys am ambiwlans ar gael ar StatsCymu yn ogystal â’r holl ystadegau eraill yn y datganiad hwn. Yn ogystal, cyhoeddir gwybodaeth am welyau, nifer y cleifion yn yr ysbyty a derbyniadau i’r ysbyty ar ddyddiau'r wythnos ar StatsCymru am 12 yp ac mae hyn yn cynnwys data hyd at y diwrnod cynt. Ar ôl 12yp ar ddydd Iau, ni fydd y data a ddangosir yn y datganiad yma yn cynnwys y data cyhoeddedig diweddaraf. Fodd bynnag, mae'r datganiad wythnosol yma yn rhoi sylwebaeth ychwanegol ar dueddiadau yn y data.
Mae'r datganiad hwn yn canolbwyntio ar gyflwyno data yn ymwneud â chapasiti a gweithgarwch yn ysbytai’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn unig. Mae gwybodaeth gyd-destunol ehangach fel nifer yr achosion a marwolaethau yn parhau i fod ar gael ar ddangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn cael ei chyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Rydym hefyd yn cyhoeddi data yn wythnosol ar y profion ar gyfer coronafirws (COVID-19).
Gweler dangosfwrdd Llywodraeth y DU i gael gwybodaeth am brofion, achosion, marwolaethau a gofal iechyd ar lefel y DU. Nodwch bod y data gofal iechyd a gyflwynwyd yn nangosfwrdd y DU yn wahanol i’r cyhoeddiad hwn. Mae dangosfwrdd y DU yn cynnwys data ar gyfer ysbytai acíwt i alluogi dwyn gwell cymhariaeth â gwledydd eraill, ond mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys data o ysbytai acíwt, cymunedol a maes.
Daw'r data dod o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, fe'u darperir i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth o weithgaredd y GIG ar yr adeg hon. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Gweithgarwch a chapasiti’r GIG yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19): 22 Ebrill 2021 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 150 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.