Neidio i'r prif gynnwy

Mae gweinidogion o’r llywodraethau datganoledig wedi dod ynghyd i leisio’u pryderon bod Llywodraeth y DU yn diystyru’r Llywodraethau Datganoledig a’r strwythurau presennol wrth ddyrannu’r cyllid a ddaw yn lle cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn cyfarfod teirochrog, mae’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid Gogledd Iwerddon, Conor Murphy, a Gweinidog Masnach, Arloesi a Chyllid Cyhoeddus yr Alban, Ivan McKee, wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ymrwymo i drafod mewn ffordd ystyrlon ac i barchu’r trefniadau datganoledig.

Dywed y datganiad ar y cyd:

“Fel Gweinidogion yn Llywodraethau Datganoledig Cymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon, rydym am fynegi’r pryderon sydd gennym ynghylch penderfyniad Llywodraeth y DU i ddiystyru’r trefniadau datganoli y cytunwyd arnynt yn ddemocrataidd, wrth i’r Gronfa Codi’r Gwastad (‘Levelling Up Fund’) a’r Gronfa Adfywio Cymunedol a gyhoeddwyd yng Nghyllideb 2021 gael eu rhoi ar waith.

“Rydym yn rhannu’r nod o ledaenu twf economaidd cynhwysol yn fwy eang a manteisio ar y cyfle i symleiddio systemau ar ôl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Oherwydd hynny, rydym yn credu y dylai’r arian sy’n disodli cyllid yr UE gael ei ddyrannu’n llawn drwy’r Llywodraethau Datganoledig a’r strwythurau llwyddiannus sy’n bodoli eisoes yn benodol ar gyfer sicrhau datblygu economaidd er mwyn ymdrin ag anghenion a chyfleoedd pobl Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn hytrach na thrwy haen newydd o fiwrocratiaeth ar wahân.

“Anwybyddodd Llywodraeth y DU ymdrechion a cheisiadau’r Llywodraethau Datganoledig i gyfrannu at y broses o ddatblygu’r cronfeydd hyn am bron i dair blynedd ac mae nawr yn defnyddio pwerau o dan Ddeddf Marchnad Fewnol y DU i’n hepgor ni’n llwyr. Mae’n anwybyddu ein trefniadau datganoli ac yn darparu cyllid i ddiwallu blaenoriaethau Whitehall yn hytrach na blaenoriaethau pobl Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

“Rhaid mynd i’r afael â hyn cyn i unrhyw waith polisi pellach gael ei wneud ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin (‘Common Prosperity Fund’). Mae ein hatal rhag gwneud unrhyw gyfraniad ystyrlon yn  niweidio effeithiolrwydd y cronfeydd hyn, yn dyblygu adnoddau, ac yn peryglu gwerth am arian a’r gallu i gyflawni’r canlyniadau gwell a thecach y mae ein cymunedau a’n pobl yn eu haeddu.

“Nid yw’r cymorth a gyhoeddwyd drwy’r cronfeydd hyn yn arian newydd. Mae'r cyllid hwn wedi bod gyda'n priod lywodraethau ers datganoli pwerau yn y maes. Nawr, nid yw gwneud cais am gyfran anhysbys o gronfa'r DU drwy broses gystadleuol yn rhoi unrhyw sicrwydd o lwyddiant. Os yw’r penderfyniadau’n cael eu gwneud yn gyfan gwbl gan Lywodraeth y DU, mae hyn yn bell iawn o wireddu’r ymrwymiadau a wnaed yn ystod refferendwm yr UE i ddatganoli'r holl bwerau hyn yn llawn ar ôl inni ymadael â’r UE.

“Wrth symud ymlaen, mae angen inni gael mwy nag ymrwymiad gan Weinidogion y DU y bydd y Llywodraethau Datganoledig yn cael bod yn rhan o ddatblygiad y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae angen cynllun clir arnom sy’n nodi sut a phryd y bydd hyn yn digwydd. Mae angen ymgynghori â ni a chaniatáu inni gyfrannu wrth bennu beth fydd rôl y Llywodraethau Datganoledig er mwyn sicrhau bod y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael eu hamddiffyn ac y bydd swyddi a ffyniant yn cael eu cyflawni mewn modd tecach sy’n fwy cynhwysol a chynaliadwy ar gyfer ein holl ddinasyddion.

“Byddwn yn gwneud cais ar y cyd am gyfarfod brys â’r Trysorlys i godi’r materion pwysig hyn.”