Neidio i'r prif gynnwy

Gwnaeth Gweinidogion Cymru ymweld â chwmni Wockhardt yn Wrecsam heddiw i ganmol y gweithlu am eu cyfraniad allweddol at gynhyrchu brechlyn Astra Zeneca sy’n rhan flaenllaw o raglen frechu lwyddiannus Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ymunodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, sydd â chyfrifoldeb ar lefel y Cabinet am wyddoniaeth yn Llywodraeth Cymru, â’r Gweinidog Materion Gwledig, y Gogledd a’r Trefnydd, Lesley Griffiths, ar gyfer ymweld â’r safle yn Wrecsam i weld y brechlyn yn cael ei gynhyrchu.

Mae Wockhardt yn cynhyrchu brechlyn Astra Zeneca ar gyfer ei ddefnyddio ledled y DU.

Mae’r cwmni’n cyflogi tua 500 o staff yn Wrecsam – y  cwmni fferyllol generig mwyaf ond tri yn y DU ac Iwerddon.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae’n braf iawn cael bod yn Wrecsam heddiw i weld brechlyn sy’n achub bywydau yn cael ei gynhyrchu yma yng Nghymru. Mae’n bleser arbennig hefyd cael cyfle i ddiolch yn bersonol i’r cwmni a’i weithlu ymroddedig am eu rhan allweddol wrth gefnogi cyflwyno’r brechlyn yng Nghymru a gweddill y DU.  Dyma gyfraniad gwych at drechu’r pandemig na welwyd ei debyg ers mwy na chenhedlaeth.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu’r sector Gwyddorau Bywyd yng Nghymru i dyfu. Bydd presenoldeb Wockhardt a’i gyfraniad hollbwysig yn ein helpu i wireddu’n huchelgais.”

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, y Gogledd a’r Trefnydd, Lesley Griffiths:

“Rwy’n aruthrol o falch o’r ffaith bod brechlyn Astra Zeneca yn cael ei gynhyrchu yma yn y Gogledd. Pan ddaeth yr alwad, camodd Wockhardt a’i weithlu i’r adwy a helpu.

“Mae’n dda iawn gweld cwmni rhyngwladol mor flaenllaw ag Wockhardt yn ymgartrefu yma yn y Gogledd ac yn chwarae rhan mor bwysig i’n helpu i ddiogelu ac achub bywydau dros y pandemig.”