Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi Vaughan Gething wedi llongyfarch y cwmni meddalwedd newydd Aforza ar sicrhau buddsoddiad ariannol gwerth $22 miliwn a fydd yn arwain at ddyblu nifer ei weithwyr, sefydlu pencadlys newydd yn yr Unol Daleithiau a sbarduno arloesedd sylweddol o ran cynnyrch a fydd o fudd i fusnesau nwyddau traul o bob lliw a llun.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dechreuodd y busnes sy'n ehangu'n gyflym, a gefnogir gan fuddsoddwyr allweddol Silicon Valley, yn y ganolfan waith Tramshed Tech yng Nghaerdydd gyda labordy Ymchwil a Datblygu a chanolfan cymorth i gwsmeriaid.

Cefnogodd Llywodraeth Cymru y cwmni i sefydlu lleoliad yng Nghymru yn 2019, gan ddyfarnu £900,000 o Gronfa Dyfodol yr Economi. Cafodd 100 o swyddi cychwynnol eu creu yng Nghaerdydd.

Yn ogystal â sbarduno ehangu i'r Unol Daleithiau, dywed Aforza y bydd y cylch ariannu gwerth $22 miliwn hefyd yn galluogi’r cwmni i greu rhagor o swyddi o ansawdd uchel yng Nghaerdydd.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae gan Aforza gynlluniau uchelgeisiol i chwyldroi'r diwydiant meddalwedd nwyddau traul gyda'i gyfres o gymwysiadau a ddatblygwyd yn rhannol yng Nghymru a bydd y cylch ariannu hwn yn cefnogi ei ehangiad cyflym ymhellach.

"Rwyf wrth fy modd bod y cwmni wedi gweld gwerth sector technoleg bywiog Cymru ac wedi penderfynu sefydlu canolfan yma. Fel Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i gefnogi busnes, mae mor braf bod ein cefnogaeth nid yn unig wedi helpu Aforza i greu swyddi newydd uchel eu gwerth yng Nghaerdydd yn ystod yr argyfwng coronafeirws ond hefyd wedi cefnogi'r cwmni i gyflawni ei weledigaeth uchelgeisiol a'i gynlluniau ehangu.

"Rwy'n llongyfarch Aforza ar ei lwyddiant trawiadol a'r buddsoddiad ariannol gwerth $22 miliwn y mae wedi'i sicrhau. Bydd hyn yn hwyluso cwmni sydd eisoes yn mynd o nerth i nerth i anelu hyd yn oed yn uwch, yma yng Nghymru ac yn yr Unol Daleithiau ac yn darparu atebion newydd i fusnesau nwyddau traul, mawr a bach, ledled y byd.

Mae Aforza yn arbenigo mewn cyflenwi datrysiadau meddalwedd cyflawn o'r dechrau i'r diwedd ar gyfer cwmnïau nwyddau traul sy'n eu helpu i gynllunio, hyrwyddo a gwerthu eu cynnyrch yn fwy effeithlon.

Cafodd meddalwedd arloesol y cwmni ei ddatblygu yng Nghymru ac mae bellach yn cael ei ddefnyddio gan gwmnïau annibynnol bach a hefyd gwmnïau corfforaethol byd-eang ar 5 cyfandir ac mewn dros 20 o wledydd.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Aforza Dominic Dinardo:

"Pan ddechreuon ni'r cwmni, roedd ein cynllun busnes gwreiddiol yn cynnwys cynlluniau i gyflogi peirianwyr ledled Ewrop. Yn dilyn trafodaeth rhwng ein sylfaenwyr, roeddem yn hyderus y gallem wneud hyn yn lleol a chael mynediad at y gweithwyr dawnus o ansawdd uchel yr oedd eu hangen arnom. Dyma un o benderfyniadau busnes gorau fy ngyrfa.

"Roedd ymddiriedaeth a chefnogaeth Llywodraeth Cymru yng nghamau cynnar y broses o sefydlu ein cwmni yn allweddol ar gyfer dechrau arni ac elwa ar y cylch ariannu nesaf hwn.