Neidio i'r prif gynnwy

Caiff camau nesaf y daith tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 eu cyhoeddi gan Weinidog Llywodraeth Cymru dros y Gymraeg, Eluned Morgan yn ystod ei hymweliad â'r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst heddiw .

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Cynulliad Cenedlaethol adroddiad yn dilyn ei ymchwiliad i 'Cefnogi a Hybu'r Gymraeg' a chynigiodd argymhellion ynghylch y camau nesaf. 

Mae'r Gweinidog wedi croesawu'r adroddiad, ac mae heddiw yn cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru.

Mae'r Gweinidog yn cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio o'r newydd ar ymdrechion i gyflawni strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Cytunwyd ar gyllid i gyflogi arbenigwyr i arwain a chynghori Prosiect 2050, uned amlddisgyblaethol newydd a fydd yn gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru a thu hwnt er mwyn cyflawni ein hamcanion gyda'n gilydd. 

Rhoddir y tasgau canlynol i Prosiect 2050:

  • cydlynu'r gwaith o gynllunio ein llwybr tuag at sicrhau miliwn o siaradwyr, o'r blynyddoedd cynnar, drwy ddarpariaeth addysg statudol cyfrwng Cymraeg, i addysg ôl-orfodol i Gymraeg i Oedolion;
  • dyblu'r defnydd o'r Gymraeg drwy greu mentrau newydd, a gwerthuso'r mentrau presennol;
  • cefnogi meysydd polisi ar draws Llywodraeth Cymru i gyfrannu at y gwaith o gynnal ein cymunedau Cymraeg a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg, yn unol â Cymraeg 2050.

Mae'r Gweinidog hefyd yn cyhoeddi bod Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd wedi'i gytuno rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg. Mae'r Memorandwm yn egluro'r berthynas rhwng y ddau sefydliad, a'u cyfrifoldebau wrth weithio tuag at Cymraeg 2050. 

Yn ogystal, mae rheoliadau newydd yn cael eu datblygu ar gyfer safonau'n ymwneud â'r Gymraeg mewn dau sector newydd - cwmnïau dŵr a rheoleiddwyr gofal iechyd.

Dywedodd Eluned Morgan:

“Mae gennym raglen fentrus a chyffrous ar gyfer ein gwlad i sicrhau bod gennym filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i hyn, ac rwyf wrth fy modd bod cymaint o gefnogaeth o wahanol gyfeiriadau i'r uchelgais cyffrous hwn. 

"Bydd y mesurau newydd rwy'n eu cyhoeddi heddiw yn ein helpu i gyrraedd ein targed uchelgeisiol. Maen nhw'n adeiladu ar y rhaglenni a'r mentrau rydym eisoes wedi'u sefydlu.

"Rwy'n ymroddedig i weld cynnydd yn y defnydd o wasanaethau Cymraeg. Rwyf wrth fy modd felly fod Aled Roberts a finnau wedi cytuno ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth i sicrhau eglurder ynghylch pwy sy'n arwain ar wahanol elfennau o'r gwaith i geisio cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg a chyflawni strategaeth Cymraeg 2050. Bydd y cam syml hwn yn golygu ein bod, gyda'n gilydd, yn cyflawni mwy.

"Rwyf hefyd am sicrhau mwy o ffocws a thrylwyredd wrth gynllunio'n ieithyddol, hybu'r Gymraeg a newid arferion ieithyddol, o fewn Llywodraeth Cymru ac yn allanol. Bydd Prosiect 2050 yn cyfoethogi’r arbenigedd ym maes cynllunio ieithyddol ac yn rhoi'r sicrwydd imi ein bod ar y trywydd iawn i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050, dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg a chynnal cymunedau Cymraeg eu hiaith. 

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau hawliau pobl mewn perthynas â gwasanaethau Cymraeg, ac felly rwy'n falch o gyhoeddi bod rheoliadau newydd yn cael eu datblygu ar gyfer safonau newydd i gwmnïau dŵr a rheoleiddwyr gofal iechyd.

"Dyma'r cam nesaf ar y daith tuag at Cymraeg 2050 a fydd yn sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg, cyn belled ag y byddwn ni, y bobl sy'n caru'r iaith, yn cydweithio i rannu ein cariad a'n hangerdd â gweddill y wlad."