Neidio i'r prif gynnwy

Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi £22.7m o gyllid arall i helpu i fodloni’r costau ychwanegol y mae darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion yn eu hysgwyddo o ganlyniad i’r pandemig COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r arian hwn ar ben y £40m a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ym mis Ebrill i helpu’r sector gofal cymdeithasol i oedolion.

Dywedodd y Gweinidog:

Mae gofal cymdeithasol yn chwarae rhan flaenllaw i gefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae wedi bod yn allweddol i'n hymdrech ar draws gwasanaethau cyhoeddus i ymateb i'r heriau a wynebir yn sgil COVID-19.

“Helpodd y taliad cychwynnol o £40m y sector i fodloni’r costau cynyddol a ysgwyddwyd yn ystod y pandemig mewn meysydd fel staffio, mwy o waith rheoli haint, prisiau bwyd uwch a mwy o ddefnydd o TGCh i gadw teuluoedd mewn cysylltiad â'u hanwyliaid pan nad oedd modd iddynt gwrdd â'i gilydd mwyach.

Bydd y cyllid pellach hwn yn sicrhau y gall darparwyr gofal cymdeithasol i oedolion barhau i gynnig gofal hanfodol o dan amgylchiadau heriol parhaus.

Mae hyn yn arbennig o wir yn achos cartrefi gofal, sydd bellach hefyd yn wynebu heriau ariannol yn sgil colli incwm o ganlyniad i'r ffaith bod mwy o leoedd gwag yn eu cartrefi oherwydd yr angen i gyfyngu ar nifer y preswylwyr newydd a dderbynnir er mwyn atal y feirws rhag lledaenu.

Bydd y cyllid ar gael ar unwaith ac yn parhau i fod ar gael hyd ddiwedd mis Medi, pan fyddwn yn adolygu’r sefyllfa unwaith eto.

Ychwanegodd y Gweinidog:

Mae’r gweithlu gofal cymdeithasol ar reng flaen yr ymdrech anferth hon i ymateb i bandemig y coronafeirws ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi pob unigolyn i wneud ei waith.

Mae dyled pob un ohonom yng Nghymru yn fawr iddynt. Fe hoffwn i ddiolch yn bersonol i’n gweithlu gofal cymdeithasol am ei ymdrechion gwych i ddiogelu’r cyhoedd.