Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwasanaethau rheoli a gofalu am gwyr clustiau yn cael eu had-drefnu yn fwy effeithiol ledled Cymru i sicrhau dull gweithredu cyson ar gyfer pob claf, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething heddiw .

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cwyr clustiau (cerumen) yn gŵyn iechyd gyffredin a phroblemus. Mae’n arbennig o broblemus i bobl sydd eisoes â nam ar eu clyw gan ei fod yn dwysáu eu hanawsterau clywed. Gall hefyd achosi nifer o broblemau eraill gan gynnwys poen annifyr, pigyn clust a thinitws.

Mae rhai meddygon teulu eisoes yn darparu gofal ar gyfer rheoli cwyr clustiau, ond mae llawer o gleifion yn cael eu hatgyfeirio i wasanaethau yn yr ysbyty. Yn aml, nid hwn yw’r llwybr cywir ar eu cyfer a gall arwain at amseroedd aros hirach.

Bydd pob Bwrdd Iechyd yn gweithredu yn lleol i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael gwasanaethau rheoli cwyr clustiau mewn lleoliad gofal sylfaenol. Bydd y ddarpariaeth am ddim a bydd yn haws cael gafael arni. Bydd hyn yn lleihau’r angen i bobl orfod mynd at ddarparwyr preifat.

Canfu astudiaethau fod 3% o’r boblogaeth yn gofyn am gymorth gyda chwyr clustiau bob blwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i tua 96,000 o apwyntiadau cleifion mewn gofal sylfaenol ledled Cymru bob blwyddyn.

Bydd angen gofal mwy cymhleth ar nifer bach o’r cleifion hyn, ond gallai’r rhan fwyaf ohonynt reoli’r cwyr clustiau eu hunain neu gael cymorth i’w reoli mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol.
Hefyd, mae canllawiau wedi eu llunio i sicrhau cyngor a thriniaethau cyson ledled Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:

“Mae llawer o bobl yn dioddef â chwyr clustiau trafferthus, ond mae’n gyflwr cymharol hawdd i fynd i’r afael ag ef.

“Sefydlwyd grŵp i weld sut y gallem sicrhau y gall pob dinesydd ledled Cymru gael y driniaeth a’r gefnogaeth fwyaf priodol ar gyfer problemau cwyr clustiau. Diolch i waith y grŵp, gallwn yn awr gynnig dull gweithredu clir a chyson ar gyfer gwasanaethau sylfaenol a chymunedol er mwyn cefnogi cleifion yn well.”

Dywedodd Karen Robson, Cyfarwyddwr Dros Dro Action on Hearing Loss Cymru:

“Rydym yn falch fod gwasanaeth rheoli a gofalu am gwyr clustiau i’w drefnu yn fwy effeithiol yng Nghymru. Mae defnyddwyr ein gwasanaeth yn dweud wrthym eu bod am gael y gwasanaeth hwn yn lleol ac y byddai dull gweithredu cyson ledled Cymru drwy ofal sylfaenol yn ddatblygiad sylweddol, gan leihau amseroedd aros a gwella mynediad i gleifion.”