Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, fel ymateb i’r pandemig COVID-19, mae’r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi trefniadau newydd, mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Fferylliaeth Genedlaethol, sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru a’r Post Brenhinol, i sicrhau bod pobl sydd ar y rhestr warchod neu sy’n hunanynysu yn gallu parhau i gael eu meddyginiaethau ar bresgripsiwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y trefniadau newydd yn cefnogi fferyllfeydd cymunedol a meddygon sy’n rhoi cyffuriau ar bresgripsiwn i ddosbarthu parseli meddyginiaeth i yrwyr sy’n gwirfoddoli eu danfon i gartrefi unigolion sydd heb deulu, ffrindiau neu gymdogion a all gasglu eu presgripsiynau ar eu rhan. Rydym yn gweithio gyda’r Gymdeithas Fferylliaeth Genedlaethol a ‘Pro Delivery Manager’, system ar y we ar gyfer olrhain parseli a ddatblygwyd yng Nghymru, i helpu i ddanfon presgripsiynau i’r cartref. Bydd y system hon ar gael i fferyllfeydd, meddygon sy’n rhoi cyffuriau ar bresgripsiwn a gwirfoddolwyr ei defnyddio.

Mae’r gwirfoddolwyr wedi cael eu recriwtio yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â’r Groes Goch Brydeinig. Maen nhw’n cynnwys unigolion o’r diwydiant fferylliaeth, practisau optometreg a gweithwyr Llywodraeth Cymru. Mae pob gwirfoddolwr wedi cael ei baru â fferyllfa gymunedol neu feddyg sy’n cymryd rhan er mwyn danfon mwy o feddyginiaethau i’r cartref. Bydd ymgyrch recriwtio arall yn cael ei lansio gyda chymorth gan Gynghorau Gwirfoddol Cymunedol ym mhob cwr o Gymru.   

Mae mwy na 650 o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru a 18 o feddygon sy’n rhoi cyffuriau ar bresgripsiwn wedi ymuno â’r cynllun newydd, ac mae mwy na 400 o wirfoddolwyr wedi cael eu recriwtio yn barod.

Gan gefnogi’r cynllun cenedlaethol ar gyfer danfon presgripsiynau i’r cartref gan wirfoddolwyr, bydd y Post Brenhinol yn darparu ‘Tracked 24’, sef gwasanaeth masnachol ar gyfer olrhain parseli. O dan y gwasanaeth hwn, bydd swyddogion y Post Brenhinol yn casglu meddyginiaethau sy’n cael eu rhoi ar bresgripsiwn oddi wrth fferyllfeydd lleol a meddygon ac yn eu danfon i’r cleifion y diwrnod canlynol. Bydd y gwasanaeth hwn yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a bydd fferyllfeydd yn cael defnyddio gwasanaeth ‘Click & Drop’ y Post Brenhinol, a fydd yn caniatáu iddynt olrhain presgripsiynau sydd yn y system.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae fferyllfeydd cymunedol ar flaen y gad yn ein brwydr yn erbyn COVID-19. Maent yn gweithio’n galed iawn i sicrhau bod pobl yn dal i gael y meddyginiaethau sydd wedi cael eu rhoi iddyn nhw ar bresgripsiwn. Bydd y cynllun a gyhoeddwyd heddiw yn rhoi mwy o gapasiti i fferyllfeydd cymunedol a meddygon sy’n rhoi presgripsiynau  ar gyfer sicrhau bod modd parhau i gefnogi iechyd a lles y rheini sy’n cael eu gwarchod.

“Dw i’n arbennig o falch o weld sut mae sgiliau ac arbenigedd sefydliadau o’r sectorau preifat, cyhoeddus a’r trydydd sector wedi cael eu tynnu ynghyd i sicrhau bod hwn yn llwyddiant. Diolch i’r sectorau hyn sy’n mynd ymhellach na’r disgwyl mewn cyfnod na welwyd mo’i debyg o’r blaen. Dw i hefyd yn falch bod Cymru yn cynghori gweinyddiaethau eraill ar sut y gallan nhw hefyd gefnogi eu dinasyddion sydd fwyaf agored i niwed.

“Diolch o galon i bob un sy’n cymryd rhan yn y trefniadau newydd hyn, ac yn arbennig i’r gwirfoddolwyr sy’n chwarae rôl hanfodol yn eu cymunedau ym mhob cwr o Gymru.”

Dywedodd Raj Aggarwal, aelod o’r bwrdd dros Gymru ar gyfer y Gymdeithas Fferylliaeth Genedlaethol:

“Rydyn ni wrth ein boddau ein bod ni wedi gallu cydweithio â Llywodraeth Cymru i ddarparu ateb sy’n cynnwys gwirfoddolwyr ac sy’n cynnal diogelwch cleifion. Mae ‘Pro Delivery Manager’ yn gynnyrch llwyddiannus a fydd yn dod â gwerth i unrhyw weithgarwch gan fferyllfeydd cymunedol. Mae’n wych bod rhai o’r unigolion mwyaf agored i niwed yng Nghymru nawr yn mynd elwa o hyn. Mae’n dda gweld bod Cymru yn arwain y ffordd”.