Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwasanaeth newydd sy'n darparu gwasanaeth symlach ar gyfer unigolion sy'n chwilio am swydd wedi cael ei lansio heddiw gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Cymru’n Gweithio yn cael ei ddarparu gan Gyrfa Cymru, ac mae’n ceisio cynnig ffordd symlach o ddarparu cymorth cyflogadwyedd ar gyfer unigolion drwy bwynt cyswllt sengl lle gallant gael y cyngor arbennig a'r hyfforddiant, wedi'u teilwra i'r unigolyn, sydd eu hangen arnynt i ddod o hyd i swyddi da, tymor hir, ac i gadw’r swyddi hynny.

Eglurodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:

"Rydyn ni wedi gwneud llawer o gynnydd wrth fynd i'r afael â diweithdra ac anweithgarwch economaidd yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf, ond mae lansio'r gwasanaeth newydd hwn yn rhoi'r cyfle inni i fynd yn bellach byth drwy darparu cymorth clyfrach, mwy cydgysylltiedig ar gyfer unigolion sy’n chwilio am swyddi.

"Drwy greu Cymru'n Gweithio rydyn ni am sicrhau bod cymorth hygyrch, mwy personol ar gael ar gyfer pobl yng Nghymru sy'n chwilio am swyddi, lle gallan nhw gael y cyngor, yr hyfforddiant a'r cymorth wedi’u teilwra sydd eu hangen arnyn nhw i gael swyddi da.

"Ac mae Cymru'n Gweithio yn gwneud yn union hynny – yn ei gwneud yn haws i bobl ifanc ac oedolion gael mynediad at y cymorth cywir ar yr adeg gywir. Bydd yn arwain at ragor o gydweithio rhyngddon ni a sefydliadau partner i sicrhau bod unigolion yn cael eu cyfeirio at gymorth a rhaglenni sy'n briodol iddyn nhw, a bydd yn ein galluogi i weithio'n agosach gyda phobl ifanc ledled Cymru, gan eu grymuso yn y pen draw i ennill y sgiliau a'r profiad rydyn ni’n gwybod bod cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw."

Bydd y gwasanaeth cyngor newydd, sy'n rhad ac am ddim, yn ceisio cyrraedd cymaint o bobl ag y bo modd drwy fod ar gael lle bydd yn cael yr effaith fwyaf – boed hynny wyneb yn wyneb yn swyddfeydd Gyrfa Cymru, mewn canolfannau gwaith lleol a hybiau cymunedol, dros y ffôn neu drwy wefan bwrpasol.

Bydd ar gael i bobl dros 16 mlwydd oed nad ydynt mewn addysg amser llawn, ni waeth lle maent yn byw, beth yw eu sefyllfa o ran hygyrchedd neu beth yw eu hamgylchiadau personol, i'w helpu i gael swydd.

Mae Cymru'n Gweithio yn rhan allweddol o ymrwymiad Llywodraeth Cymru.

Bydd y cymorth sydd ar gael drwy Gymru'n Gweithio yn cynnwys hyfforddiant ar gyfer swyddi penodol, chwilio am swydd, ysgrifennu CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau a dod o hyd i leoliadau gwaith. Bydd Cymru'n Gweithio hefyd yn cyfeirio unigolion at raglenni lle gallant gael mynediad at gymorth gyda gofal plant a thrafnidiaeth, sydd yn draddodiadol yn ddau o'r rhwystrau rhag cael swydd.

Dywedodd Nikki Lawrence, Prif Swyddog Gweithredol Gyrfa Cymru:

"Rydyn ni wrth ein boddau ein bod yn lansio gwasanaeth Cymru'n Gweithio ac yn helpu oedolion di-waith ledled Cymru i gymryd y camau sydd eu hangen i newid eu stori.

"Os yw unigolyn wedi gadael addysg orfodol, os oes angen cymorth ar unigolyn i gael swydd neu i drosglwyddo i swydd amser llawn neu os yw unigolyn yn ddi-waith ag angen rhywfaint o arweiniad, rydyn ni'n gallu rhoi'r arweiniad a'r cymorth cywir.

"Bydd ein cynghorwyr neilltuedig yn datblygu rhaglen wedi'i theilwra ar gyfer pob unigolyn, a fydd yn nodi eu gofynion penodol ac yn eu helpu i wella eu sgiliau – lle bydd angen, fformatio eu CV, paratoi ar gyfer cyfweliadau, cwblhau hyfforddiant sy'n gysylltiedig â gwaith a sicrhau cyflogaeth gynaliadwy a phriodol."

I gael rhagor o wybodaeth am Gymru'n Gweithio ffoniwch 0800 0284844 neu ewch i wefan Gymru'n Gweithio.