Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am yr adnoddau y mae awdurdodau lleol wedi cyllidebu i'w darparu ar gyfer gwasanaethau addysg ac ysgolion ar gyfer Ebrill 2018 i Mawrth 2019.

Prif bwyntiau

  • Y gwariant gros sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer ysgolion yw £2,566 miliwn, sef cynnydd o 0.9% ar y flwyddyn blaenorol.
  • Y gwariant gros sydd wedi’i gyllidebu fesul disgybl yw £5,675, sef cynnydd o flwyddyn i flwyddyn o 0.8% neu £47. Gellir rhannu’r swm hwn fel a ganlyn: £4,776 y disgybl wedi’i ddirprwyo i ysgolion a £899 y disgybl yn cael ei gadw ar gyfer gwasanaethau ysgolion a gyllidir yn ganolog.
  • Mae £2,160 miliwn wedi’i gyllidebu ar gyfer ei ddirprwyo i ysgolion. Mae’r swm y mae awdurdodau lleol yn ei ddirprwyo yn uniongyrchol i ysgolion yn amrywio rhwng 75% ac 90% o’r gwariant gros sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer ysgolion.
  • Mae 84.2% o’r cyfanswm gros sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer ysgolion yn cael ei ddirprwyo yn uniongyrchol i ysgolion, gostyngiad o 0.1 pwynt canran o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Adroddiadau

Gwariant a gyllidebwyd gan awdurdodau lleol ar gyfer ysgolion, Ebrill 2018 i Mawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 532 KB

PDF
Saesneg yn unig
532 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.