Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwaith cynnal a chadw hanfodol i gryfhau’r pontydd wrth gyffordd 27 yr A55 bellach wedi dechrau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wedi’u hadeiladu ym 1970, mae’r tair pont sy’n rhan o’r A55 drwy Gyfnewidfa Talardy yn cael eu cryfhau er mwyn iddynt barhau i gario llwythi trwm yn ddiogel am flynyddoedd i ddod.

Mae cwmpas y gwaith yn cynnwys atgyweirio concrit, ailosod cymalau symud, gosod wyneb newydd ar y gerbytffordd ac ychwanegu gwaith dur i gryfhau deciau’r bont.

Mae hyn yn hanfodol i sicrhau diogelwch teithwyr ac i ddarparu llwybr dirwystr ar gyfer cerbydau trwm a fyddai fel arall yn gorfod cael eu gwyro oddi ar yr A55 i ddefnyddio ffyrdd lleol.

Er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar deithwyr, mae’r gwaith yn cael ei wneud 24 awr y dydd er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau cyn gynted â phosib. Ni fydd y gwaith yn effeithio ar draffig ar y penwythnosau drwy gydol cyfnod  y prosiect i sicrhau nad yw’n effeithio ar draffig ar adegau prysurach.

Mae'r gwaith wedi'i raglennu i gymryd 11 wythnos gan ddibynnu ar y tywydd a bwriedir ei gwblhau erbyn 27 Tachwedd, ond bydd pob ymdrech yn cael ei gwneud i orffen cyn hynny os bydd hynny’n bosibl.

Bydd lonydd tua’r dwyrain a thua’r gorllewin ar gau am bedair wythnos o 28 Medi ymlaen, gyda’r gerbytffordd ar gau yn gyfan gwbl dros nos am bythefnos o 8 Tachwedd ymlaen. Bydd ffordd ymuno tua’r dwyrain a ffordd ymadael tua’r gorllewin cyffordd 27 hefyd ar gau pan fo angen.

Bydd peth o’r gwaith yn cael ei wneud mewn ardaloedd gwarchodedig allan o olwg gyrwyr.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud pan fo lefelau’r traffig yn is a phan fo’r tywydd fel arfer yn well yn hytrach na’i wneud yn nes ymlaen yn y gaeaf.

Bydd pob ymdrech yn cael ei gwneud i darfu cyn lleied â phosibl ar deithwyr ond dylid disgwyl ychydig o oedi wrth nesáu at gyffordd 27 wrth deithio tua’r gorllewin rhwng dydd Llun a dydd Iau. Bydd gyrwyr yn cael eu cyfarwyddo i aros ar yr A55 yn hytrach na defnyddio llwybrau traffig lleol eraill nad ydynt yn addas fel llwybrau gwyro pan fo lefelau’r traffig yn uchel.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates:

Diogelwch y cyhoedd yw ein blaenoriaeth. Bydd y gwaith hanfodol yn Nhalardy yn cryfhau’r pontydd ar gyfer y dyfodol, gan helpu i leihau achosion o darfu annisgwyl neu wyro llwythi trwm i ffyrdd llai.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Traffig Cymru neu dilynwch @TraffigCymruG.