Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cyrff a mudiadau o bob rhan o Gymru’n cymryd rhan heddiw (dydd Iau, 8 Hydref) mewn digwyddiadau ar-lein fel rhan o’r Diwrnod Aer Glân, a gwahoddir aelodau’r cyhoedd i ddysgu am lygredd aer, i rannu gwybodaeth ac i wneud aer Cymru’n lanach ac yn iachach er lles pawb.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cynhelir y Diwrnod Aer Glân fel arfer ym mis Mehefin, ond eleni cafodd ei ohirio oherwydd pandemig y Covid-19.

Bydd mudiadau a grwpiau’n mynd ar y cyfryngau cymdeithasol i esbonio beth maen nhw’n ei wneud i wella ansawdd yr aer ledled y wlad.

Mae Llywodraeth Cymru a Phlatfform yr Amgylchedd Cymru wedi cyd-drefnu gweminar gyda phanelwyr o Trafnidiaeth er Bywyd o Safon, Sustrans a Global Action Plan a bydd Trafnidiaeth Cymru’n dangos ei ymdrechion i leihau ei ôl troed carbon.

Hefyd, bydd Newport Transport a Zenobe Energy yn cyhoeddi bod fflyd o 14 o fysiau trydan newydd wedi cyrraedd – y cerbydau cyntaf o’u bath erioed i weithio yng Nghymru.

Bydd y bysiau newydd yn helpu i leihau’r llygredd aer yng Nghasnewydd, un o ardaloedd mwyaf llygredig Cymru.

Cafodd Cynllun Aer Glân Llywodraeth Cymru ei lansio eleni, sy’n esbonio sut y bydd yn gwella ansawdd yr aer yn y 10 mlynedd nesaf ac yn cefnogi’r gwaith sydd ei angen i baratoi ar gyfer Deddf Aer Glân newydd i Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru’n cymryd ac yn cefnogi camau eraill hefyd, gan gynnwys:

  • Y buddsoddiad mwyaf erioed mewn gwelliannau Teithio Llesol lleol, gydol 2020
  • Annog rhagor o bobl i weithio gartref, a gwneud newidiadau i’w helpu i allu gwneud hynny.
  • Bwrw ymlaen â’i chynlluniau ar gyfer gosod terfyn cyflymder o 20mya ym mhob ardal breswyl.
  • Lansio cronfa o £29m i helpu’r newid i gerbydau allyriadau isel, gan ein symud yn nes at ein hamcan o fflyd bysiau a thacsis/cerbydau hurio preifat di-allyriadau erbyn 2028.
  • Disgrifio’r Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan trwy ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Tachwedd, fydd yn esbonio sut y caiff seilwaith gwefru ei ddarparu yng Nghymru, gyda’r nod o annog rhagor o bobl i droi at gerbydau trydan a sicrhau’r un cyfleoedd gwefru i bawb.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

Er bod Covid-19 wedi’n gorfodi i ohirio neu ganslo nifer o ddigwyddiadau, roedden ni’n awyddus bod Diwrnod Aer Glân o ryw fath yn cael ei gynnal yn 2020.

Rwyf felly yn ddiolchgar iawn i bob mudiad a chorff cyhoeddus sy’n cymryd rhan yn ddigidol – boed trwy droi at y cyfryngau cymdeithasol i sôn am eu gwaith gwella ansawdd aer neu trwy gymryd rhan mewn gweminarau ac ati.

Dywedodd hefyd:

Yn ystod y cyfnod clo, dewisodd llawer o bobl weithio gartref neu gerdded neu feicio i’r gwaith. Arweiniodd hynny at ostyngiad ar gyfartaledd o 36% yn lefelau NO2 y cyfnod.  Mewn arolwg diweddar, dywedodd dros hanner oedolion Cymru a holwyd y buon nhw’n mynd am dro’n amlach yn y cyfnod clo.

Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r cyhoedd am wneud y newidiadau hyn, ac rydyn ni am i’r newidiadau hyn bara ar ôl y cyfnod clo ac ymhell i’r dyfodol.

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

Bydd y coronafeirws yn arwain at ailffurfio’n cymdeithas a rhaid i ni sicrhau bydd y newidiadau yn arwain at aer glanach i Gymru.  Rydyn ni am annog newidiad moddol a rhoi mwy o gyfleoedd i bobl weithio gartref neu mewn hyb yn eu cymuned, gyda’r nod o gael 30% o’r gweithlu’n gweithio o bell.

Yn ogystal â buddsoddi mwy nag erioed mewn teithio llesol, rydyn ni’n cefnogi’r newid i gerbydau isel eu hallyriadau â £29m, ac yn bwrw ymlaen â rhaglen uchelgeisiol i ddiwygio trafnidiaeth gyhoeddus.  Bydd hyn oll yn gwella cynllun ac iechyd ein cymunedau.