Neidio i'r prif gynnwy

Yn egluro cyfrifoldebau’r grŵp a sut y mae’n gweithredu.

Cynllun Gweithredu ar gyfer Cymru

Bydd y Grŵp yn llunio Cynllun Gweithredu ar Ymwrthedd i Wrthficrobau mewn Anifeiliaid ac yn yr Amgylchedd i Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ei ystyried a'i fabwysiadu.

Bydd y Cynllun Gweithredu yn amlinellu'r camau gweithredu allweddol ar gyfer y pum mlynedd nesaf rhwng 2019 a 2024. Diben y cynllun yw hwyluso'r gwaith o gyflawni cynllun y DU yng Nghymru, ac mewn ffordd sy'n galluogi Cymru i chwarae rhan allweddol wrth fynd i'r afael ag ymwrthedd i wrthficrobau. Bydd hyn yn ystyried persbectif Cymru.

Cynhaliodd y Grŵp ei gyfarfod cyntaf yng Nghaerdydd ar 13 Mai i ystyried y mater pwysig hwn.

Mae ymwrthedd i wrthficrobau yn un o'r blaenoriaethau allweddol ar gyfer Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru. Bydd y Grŵp Cyflawni yn adrodd i:

  • Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru
  • bwrdd 'One Health' o fewn Llywodraeth Cymru, a fydd yn cael ei gadeirio gan Brif Swyddog Meddygol Cymru i sicrhau synergedd llawn â rheoli ymwrthedd i wrthficrobau mewn meddygaeth ddynol.