Mae'r Grant Cymorth Tai yn ceisio atal digartrefedd a helpu pobl i gael a/neu gynnal cartref sefydlog ac addas.
Rydym yn rhoi cyllid i awdurdodau lleol ei wario ar brosiectau â'r nod o atal digartrefedd a helpu pobl i fyw yn eu cartrefi eu hunain neu dai â chymorth.
Gall prosiectau gynnwys:
- cymorth er mwyn helpu i atal digartrefedd
- cymorth er mwyn helpu pobl i fyw'n annibynnol
- cymorth er mwyn helpu pobl i fyw yn eu cartrefi eu hunain, mewn hostel neu mewn tai gwarchod
Grwpiau Cymorth Cydweithredol Tai Rhanbarthol
Mae'r grwpiau yn cynnwys awdurdodau lleol a phartneriaid. Maent yn cynnig fforwm i awdurdodau lleol gyflawni'r pethau sy'n cael eu gwneud orau yn rhanbarthol fel gwasanaethau rhanbarthol neu arbenigol.
Mae 6 Grŵp yn cwmpasu awdurdodau lleol:
- Caerdydd a'r Fro
- Caerdydd
- Bro Morgannwg
- Gwent
- Blaenau Gwent
- Caerffili
- Sir Fynwy
- Casnewydd
- Torfaen
- Y Canolbarth a'r Gorllewin
- Powys
- Sir Benfro
- Ceredigion
- Sir Gaerfyrddin
- Cwm Taf
- Rhondda Cynon Taf
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Gorllewin Morgannwg
- Abertawe
- Castell-nedd Port Talbot
- Y Gogledd
- Ynys Môn
- Gwynedd
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Wrecsam
- Sir y Fflint
Rhagor o wybodaeth
I gael cymorth a chyngor am gefnogaeth yn ymwneud â thai, cysylltwch â’ch awdurdod lleol.