Gwybodaeth am well cyfleusterau a chyfleusterau parcio a theithio newydd.
Cynnwys
Manylion
Fel rhan o Raglen Gwella Gorsafoedd y Metro, rydym yn gwella cyfleusterau fel ei bod yn haws ac yn fwy diogel i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Dyma rai o'r gwelliannau a wnaed yn yr orsaf:
- swyddfa docynnau newydd
- gwell cysgodfannau ar gyfer beiciau
- cysgodfannau caeedig newydd ar y platfformau
- rhagor o gyfleusterau teledu cylch cyfyng a goleuadau
- cyfleusterau parcio a theithio newydd, drws nesaf i'r orsaf, ar De Clare Drive
Hynt y gwaith
Cwblhawyd y gwaith yn hydref 2018.
Cafodd y cynllun ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.