Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae ymgynghoriad Panel Cynghori Annibynnol Cymru ar Amaethyddiaeth yn gofyn am farn ar Orchymyn Cyflogau Amaethyddol 2023, sy’n cynnwys newidiadau i strwythurau cyflog, cyfraddau a lwfansau isafswm cyflog ac amodau cyflogaeth eraill.

Cefndir

Mae Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru yn gorff annibynnol sy'n cynghori Gweinidogion Cymru ar drefniadau'r Isafswm Cyflog Amaethyddol a thelerau ac amodau cyflogaeth ar gyfer gweithwyr amaethyddol, garddwriaethol a choedwigaeth yng Nghymru. Mae hefyd yn hyrwyddo gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth, yn datblygu gweithlu â’r sgiliau priodol ac yn rhoi cyngor ychwanegol i Weinidogion yn ôl y gofyn.

Bob blwyddyn, mae'r Panel yn adolygu'r trefniadau Isafswm Cyflog Amaethyddol (AMW), a darpariaethau eraill y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol, yn cynnig unrhyw newidiadau ac yn ymgynghori ar eu cynigion cyn eu cyflwyno ar ffurf drafft i Weinidogion Cymru i'w hystyried. Ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan y Senedd, mae gan y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol awdurdod cyfreithiol yng Nghymru.

Wrth wneud eu penderfyniadau, mae'r Panel yn defnyddio eu harbenigedd ac yn ystyried yr amodau economaidd yn y diwydiant ar y pryd, yn ogystal ag unrhyw ofynion cyfreithiol (fel yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol).  Mae hyn yn sicrhau bod gweithwyr amaethyddol yn cael cyflog, lwfansau a thelerau cyflogaeth teg a adolygir yn rheolaidd, gan gyfrannu ymhellach at agenda trechu tlodi Llywodraeth Cymru drwy ddiogelu incwm aelwydydd, yn enwedig mewn cymunedau gwledig.

Mae'r Panel yn cynnwys cynrychiolwyr o Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, Undeb Unite a thri aelod annibynnol.

Mae adran nawdd Llywodraeth Cymru yn darparu swyddogaeth ysgrifenyddol y Panel, ac mae cwmni cyfreithiol allanol yn cynghori'r Panel ar unrhyw faterion cyfreithiol sy'n codi a chydymffurfiaeth gyfreithiol yn gyffredinol. Maent yn paratoi'r Gorchmynion Cyflogau Amaethyddol drafft sy'n gweithredu penderfyniadau'r Panel hefyd.

Mae'r ddogfen hon yn gofyn am eich barn ar newidiadau arfaethedig y Panel i'r trefniadau Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol presennol, a fydd yn gymwys o 1 Ebrill 2023 ymlaen. Gwnaed y cynigion yng nghyfarfod y Panel ar 5/6 Medi 2022 ac fe'u rhestrir isod.

1. Cyfraddau tâl isaf

Roedd y Panel wedi ystyried y cyfraddau tâl isaf a ddylai fod yn berthnasol i bob gradd o Ebrill 2023 ymlaen. Cafodd y cyfraddau cyflog isaf a gynigir eu llunio drwy negodi ac ystyried arferion cyflogaeth ac amodau economaidd yn y sector ar y pryd, gan gynnwys y cynnydd mewn costau cynhyrchu, costau byw uwch a diwedd y Polisi Amaethyddol Cyffredin.

Mae cyfraddau tâl isaf pob gradd berthnasol yn cael eu nodi isod. Gan fod y rhain yn ymwneud â chyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol/Cyflog Byw Cenedlaethol a’r bandiau oed sy’n cael eu pennu gan Lywodraeth y DU, mae’n bosibl y byddant yn newid.

Mae disgwyl y bydd newidiadau’n cael eu cyhoeddi i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol/Cyflog Byw Cenedlaethol ym mis Tachwedd 2022. Bydd unrhyw newidiadau a fydd yn cael eu cadarnhau i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol/Cyflog Byw Cenedlaethol yn dod i rym o 1 Ebrill 2023 ymlaen. Bydd y cyfraddau isafswm cyflog a gynigir ar gyfer 2023 a’r bandiau oed perthnasol a nodir isod yn cael eu diwygio i adlewyrchu unrhyw newidiadau o’r fath.

Mae’r Comisiwn Cyflogau Isel (sy’n argymell cyfraddau tâl yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol / Cyflog Byw Cenedlaethol i Lywodraeth y DU) wedi argymell bod y trothwy oedran ar gyfer y Cyflog Byw Cenedlaethol yn gostwng i 21 oed erbyn 2024 fan bellaf. Os bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu gostwng yr oedran i gael y Cyflog Byw Cenedlaethol i 21 oed a hŷn o 2023 ymlaen, dyma fyddai’r effaith ar y cynigion hyn:

  • Bydd graddau A3 ac A4 yn cael eu cyfuno i greu un radd A3 a’r gyfradd tâl isaf fyddai’r Cyflog Byw Cenedlaethol + 5c
  • Bydd graddau B3 a B4 yn cael eu cyfuno i greu un radd B3 a’r gyfradd tâl isaf fyddai’r Cyflog Byw cenedlaethol + 3.1%
Tabl cyfraddau tâl isaf
Categori’r gweithiwr Cyfradd Tâl Bresennol

Cyfradd Tâl a Gynigir

A1 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (16-17 oed) £4.81

Isafswm Cyflog Cenedlaethol

A2 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (18-20 oed)

£6.83

Isafswm Cyflog Cenedlaethol

A3 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (21-22 oed)* £9.18 Isafswm Cyflog Cenedlaethol+5c
A4 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (23+ oed)* £9.50 Isafswm Cyflog Cenedlaethol+5c
B1 – Gweithiwr amaethyddol (16-17 oed) £4.81 Isafswm Cyflog Cenedlaethol
B2 – Gweithiwr amaethyddol (18-20 oed) £6.83 Isafswm Cyflog Cenedlaethol
B3 – Gweithiwr amaethyddol (21-22 oed) £9.18 Isafswm Cyflog Cenedlaethol+5c
B4 – Gweithiwr amaethyddol (23+ oed) £9.79 Cyflog Byw Cenedlaethol+3.1%
C – Gweithiwr amaethyddol uwch £10.08 Cyflog Byw Cenedlaethol+6.193%
D – Uwch-weithiwr amaethyddol £11.06 Cyflog Byw Cenedlaethol+16.515%
E – Rheolwr amaethyddol £12.13 Cyflog Byw Cenedlaethol+27.864%
     
Prentis Blwyddyn 1 £4.81 Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Prentis Blwyddyn 2 a’r tu hwnt (16-17 oed) £4.81 Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Prentis Blwyddyn 2 a’r tu hwnt (18-20 oed) £6.83 Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Prentis Blwyddyn 2 a’r tu hwnt (21-22 oed) £9.18 Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Prentis Blwyddyn 2 a’r tu hwnt (23+ oed) £9.50 Cyflog Byw Cenedlaethol
Cynigion ar gyfer lwfansau eraill
  Cyfradd Bresennol Cyfradd a Gynigir
Lwfans Cŵn £8.53 Cyfradd bresennol + % cynnydd o Gyflog Byw Cenedlaethol 2023
Lwfans Gweithio Gyda’r Nos £1.62 yr awr Cyfradd bresennol + % cynnydd o Gyflog Byw Cenedlaethol 2023
Lwfans Geni / Mabwysiadu £67.09 y plentyn Cyfradd bresennol + % cynnydd o Gyflog Byw Cenedlaethol 2023

Cwestiwn 1: Ydych chi’n cytuno â’r cyfraddau cyflog a’r lwfansau sy’n cael eu cynnig ar gyfer y flwyddyn ariannol 1 Ebrill 2023?

Cwestiwn 2: Os nad ydych chi, rhowch fanylion ynghylch yr hyn rydych chi’n credu sy’n briodol.

2. Lwfans gwrthbwyso llety

Ar hyn o bryd, pan fydd gweithiwr yn cael tŷ gan y cyflogwr, y mae’n rhaid i’r gweithiwr amaethyddol fyw ynddo er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau’n briodol neu’n well, ni chaiff y cyflogwr ddidynnu mwy na £1.50 yr wythnos o isafswm cyflog y gweithiwr amaethyddol.

Os yw’r cyflogwr yn darparu llety arall, ni chaiff y cyflogwr ddidynnu mwy na £4.82 y dydd, o isafswm cyflog y gweithiwr amaethyddol, os yw’r gweithiwr wedi gweithio am o leiaf 15 awr i’w gyflogwr yn ystod yr wythnos honno. Ni ddylid tynnu unrhyw ddidyniadau os yw’r gweithiwr yn gweithio o dan y trothwy 15 awr.

Nid yw’r Panel wedi cynnig cynyddu’r cyfraddau hyn ers ei sefydlu. Ar ôl ystyried yr amodau economaidd yn y sector ar hyn o bryd, mae’r Panel wedi cynnig cynyddu’r rhain yn unol â’r cynnydd canrannol yn y Cyflog Byw Cenedlaethol, gan ddod â’r cyfraddau ar gyfer gwrthbwyso llety yn nes at y didyniad a ganiateir o dan ddeddfwriaeth yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol  

Cwestiwn 3: Ydych chi’n cytuno â’r cynnydd sy’n cael ei gynnig i’r Lwfansau Gwrthbwyso Llety?

Cwestiwn 4: Os nad ydych chi, rhowch fanylion ynghylch yr hyn rydych chi’n credu sy’n briodol.

4. Newidiadau i Eiriad Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023

Contract Gwasanaeth

Mae Erthygl 2 yn diffinio’r termau a ddefnyddir yn y Gorchymyn Cyflogaeth Amaethyddol arfaethedig.

Mae Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru yn cynnig bod y term ‘contract gwasanaeth’ yn cael ei ddiwygio i ddileu’r gair ‘gwasanaeth’. Y rhesymeg y tu ôl i’r diwygiad hwn yw sicrhau cynnwys gweithwyr asiantaeth a gweithwyr sy’n cael eu cyflogi gan feistri gangiau nad ydynt efallai’n cael eu cyflogi o dan gontract gwasanaeth yn uniongyrchol gyda’r cyflogwr, ond o dan ryw fath arall o gontract ar gyfer gwasanaethau.

Byddai’r newid hwn yn berthnasol i’r diffiniadau ar gyfer ‘Oriau Sylfaenol’, ‘Goramser Gwarantedig’, ‘Amser Gweithio’ (Erthygl 2), ‘Cyflogaeth yn dod i ben yn ystod Absenoldeb Salwch (Erthygl 26), Tâl Gwyliau (Erthygl 37) a Gwyliau Cyhoeddus a Gwyliau Banc (Erthygl 38).’

Dehongli cyflogaeth

Yn unol â’r newid arfaethedig i’r term ‘contract gwasanaeth’ a amlinellir uchod, mae’r Panel yn cynnig diwygio’r diffiniad o gyflogaeth o dan Erthygl 2 y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol arfaethedig fel a ganlyn:

“ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw unigolion sy’n gyflogeion, yn weithwyr, yn weithwyr asiantaeth ac yn weithwyr a gyflogir gan feistri gangiau ac mae “a gyflogir” (“employed”) a “cyflogwr” (“employer”) i’w dehongli yn unol â hynny;”.

Mae Canllawiau’r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol yn egluro bod yr Isafswm Cyflog Amaethyddol yn berthnasol i weithwyr sy’n cael eu cyflogi gan feistri gangiau ac asiantaethau cyflogi. Roedd y Panel o’r farn y dylid nodi hyn yn benodol yn y dehongliad o gyflogaeth o dan y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol arfaethedig i sicrhau bod gweithwyr asiantaeth a’r rheini sy’n cael eu cyflogi gan feistri gangiau yn dod o fewn y diffiniad.

Cyfraddau tâl isaf am oramser

Mae Erthygl 13 yn nodi’r darpariaethau a wneir o fewn y Gorchymyn ar gyfer y cyfraddau tâl isaf am oramser.

Nododd y Panel y gellid dehongli’r erthygl mewn amryw o ffyrdd gwahanol lle gellid talu cyfradd fesul awr uwch i weithwyr amaethyddol na’r hyn a ragnodir o dan Erthygl 12 ac Atodlen 1 i’r Gorchymyn drwy gytundeb â’u cyflogwr, ond gallai drafftio’r ddarpariaeth goramser olygu bod y cyflogwr yn dewis neu’n gorfod defnyddio’r gyfradd fesul awr amaethyddol isaf fel sail ar gyfer cyfrifo tâl goramser. Nid oedd y Panel o’r farn mai dyma oedd bwriad y ddarpariaeth goramser ac y dylid talu goramser i weithwyr amaethyddol ar sail eu gwir gyfradd fesul awr.

Er mwyn egluro’r ddarpariaeth, mae’r Panel yn bwriadu diwygio’r erthygl i ddarllen:

“Rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr mewn cysylltiad â goramser a weithir yn ôl cyfradd sydd naill ai’r un fath â’r gyfradd tâl isaf fesul awr a ragnodir yn Erthygl 12 neu’r gyfradd tâl fesul awr y cytunwyd arni rhwng y gweithiwr amaethyddol a’r cyflogwr, pa un bynnag sy’n uwch”

Diogelu tâl

Mae Erthygl 15 y gorchymyn arfaethedig yn nodi darpariaethau i ddiogelu tâl gweithwyr amaethyddol a gyflogwyd cyn 22 Ebrill 2022 a allai fod wedi dioddef gostyngiad yn eu cyfradd fesul awr o ganlyniad i gael eu cymathu i radd is oherwydd newidiadau yn y strwythur graddio.

Gellid dehongli bod y darpariaethau presennol ar gyfer diogelu tâl yn mynnu bod cyflogwyr yn rhewi tâl gweithiwr amaethyddol ar gyfradd tâl 22 Ebrill 2022 nes bydd y gyfradd tâl isaf fesul awr a bennir yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol yn cyrraedd neu’n uwch na’r gyfradd honno, gan atal cyflogwyr a gweithwyr amaethyddol rhag cytuno ar gynnydd mewn tâl.

Cafodd y ddarpariaeth hon ei drafftio gan y Panel i sicrhau na fyddai gweithwyr amaethyddol yn dioddef niwed o ganlyniad i gymathu i radd newydd, nid y bwriad oedd atal cyflogwyr rhag dyfarnu codiadau cyflog i weithwyr drwy gytundeb.

Felly, mae’r Panel yn cynnig bod yr erthygl hon yn cael ei diwygio fel a ganlyn:

“Rhaid i weithwyr amaethyddol a gyflogwyd cyn 22 Ebrill 2022 a ddioddefodd ostyngiad yn eu cyfradd isaf fesul awr o ganlyniad i’w cymathu i radd neu gategori is neu gyfradd tâl is fel a bennir yn y Tabl yn Atodlen 1 i Orchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022(1) naill ai barhau i gael eu tâl wedi’i ddiogelu yn ôl eu cyfradd tâl ar 22 Ebrill 2022 hyd nes y bydd y gyfradd isaf fesul awr a bennir yn y Tabl yn Atodlen 1 (fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd) sy’n gymwys i’w gradd yn cyrraedd neu’n mynd yn fwy na’u cyfradd tâl ar y dyddiad hwnnw, neu fod eu cyflogau’n cael eu codi drwy gytundeb ar y ddwy ochr.”

Pennu swm tâl salwch amaethyddol

Mae Erthygl 23 yn nodi’r gofynion i gyflogwyr dalu Tâl Salwch Amaethyddol i’w cyflogeion.

Ar hyn o bryd mae geiriad Erthygl 23(1) yn datgan

Mae tâl salwch amaethyddol yn daladwy yn ôl cyfradd sy’n cyfateb i’r gyfradd tâl isaf fesul awr a ragnodir yn erthygl 12 o’r Gorchymyn hwn ac Atodlen 1 iddo fel y gyfradd sy’n gymwys i’r radd honno neu’r categori hwnnw o weithiwr amaethyddol.”

Mae’r Panel o’r farn y gellid dehongli bod hyn yn golygu ei bod yn rhaid i gyflogwr dalu tâl salwch amaethyddol ar y gyfradd isaf a ragnodir yn erthygl 12, Atodlen 1 i’r Gorchymyn. Ni fyddai hyn yn ystyried sefyllfa lle mae'r gweithiwr amaethyddol yn cael cyfradd fesul awr sy'n uwch na'r gyfradd isafswm cyflog amaethyddol a ragnodir yn erthygl 12 Atodlen 1 a bod y cyflogwr yn dymuno talu tâl salwch amaethyddol ar y gyfradd uwch honno.

I egluro’r ddarpariaeth hon, mae’r Panel yn cynnig bod geiriad Erthygl 23(1) yn cael ei ddiwygio i:

“Mae tâl salwch amaethyddol yn daladwy ar gyfradd sy’n cyfateb i o leiaf y gyfradd tâl isaf fesul awr sydd yr un fath â’r gyfradd tâl isaf fesul awr a bennir yn erthygl 12 ac Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwn fel sy’n berthnasol i’r radd honno neu’r categori hwnnw o weithiwr amaethyddol”.

Cwestiwn 5: Ydych chi’n cytuno â’r diwygiadau sy’n cael eu cynnig i’r geiriad yng Ngorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023?

Cwestiwn 6: Os nad ydych chi, pa newidiadau byddech chi’n eu cynnig?

Cwestiwn 7: Oes gennych chi ragor o sylwadau ynghylch y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol?

Cwestiynau

Cwestiwn 1

Ydych chi’n cytuno â’r cyfraddau cyflog a’r lwfansau sy’n cael eu cynnig ar gyfer y flwyddyn ariannol 1 Ebrill 2023? 

Cwestiwn 2

Os nad ydych chi, rhowch fanylion ynghylch yr hyn rydych chi’n credu sy’n briodol.

Cwestiwn 3

Ydych chi’n cytuno â’r cynnydd sy’n cael ei gynnig i’r Lwfansau Gwrthbwyso Llety? 

Cwestiwn 4

Os nad ydych chi, rhowch fanylion ynghylch yr hyn rydych chi’n credu sy’n briodol.

Cwestiwn 5

Ydych chi’n cytuno â’r diwygiadau sy’n cael eu cynnig i’r geiriad yng Ngorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023?

Cwestiwn 6

Os nad ydych chi, pa newidiadau byddech chi’n eu cynnig? 

Cwestiwn 7

Oes gennych chi ragor o sylwadau ynghylch y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol?

Cwestiwn 8

Rhowch wybodaeth amdanoch chi eich hun neu eich sefydliad. Os yw’n bosibl, rhowch fanylion am y swydd neu’r sector rydych chi’n ymwneud ag ef, eich gweithlu os ydych chi’n gyflogwr (gan gynnwys nifer y gweithwyr Isafswm Cyflog Amaethyddol, eu graddau a’u cyfraddau), ac unrhyw beth arall sy’n berthnasol yn eich barn chi.

Sut mae ymateb

Dylid cyflwyno sylwadau ar y cynigion hyn cyn 20 Hydref 2022  er mwyn i’r Panel allu cyflwyno cyngor i’r Gweinidogion fel sy’n ofynnol o dan Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014.

Cyflwynwch eich ymateb drwy unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:

Rheolwr y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth

Llywodraeth Cymru
Neuadd y Sir
Spa Road East
Llandrindod
LD1 5LG

Eich hawliau

Bydd unrhyw ymateb a gyflwynwch yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n delio â materion sy’n ymwneud â’r Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth. Bydd ymatebion hefyd yn cael eu rhannu â’r Panel, a phan fydd Llywodraeth Cymru neu’r Panel yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud gan gontractwyr trydydd parti (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn pennu gofynion llym ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael gwybod am y data personol sy’n cael eu cadw amdanoch chi, ac i gael gweld y data hynny
  • i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu atal prosesu (mewn amgylchiadau penodol)
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn amgylchiadau penodol)
  • i gludo data (mewn amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu gwneud yn gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i’ch ymateb aros yn ddienw, rhowch wybod i ni.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd mae'r wybodaeth yn cael ei defnyddio, neu os ydych chi am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad GDPR, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Rhif ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data dros unrhyw ddata personol yr ydych yn eu darparu fel rhan o’ch ymateb i’r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn, ac a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynglŷn â sut byddant yn arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â nhw neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau pellach. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghorol). Dim ond o dan gontract y gwneir unrhyw waith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn pennu gofynion llym ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel. I ddangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi'r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw neu gyfeiriad gael ei gyhoeddi, rhowch wybod i ni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn eu golygu cyn eu cyhoeddi.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd adroddiadau o’r fath a gaiff eu cyhoeddi yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Bydd unrhyw ddata sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch fel arall yn cael eu cadw am dair blynedd fan bellaf.