Neidio i'r prif gynnwy

O dan amgylchiadau penodol iawn, byddwch yn cael gohirio symud gwartheg tan ar ôl y cyfnod a ganiateir fel arfer.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

I rwystro’r clefyd rhag lledaenu, yn ôl Rhaglen Dileu TB Cymru, rhaid mynd â gwartheg sydd wedi’u heintio o’r safle cyn pen 10 niwrnod gwaith. Mae hynny’n cynnwys: 

  • gwartheg sydd wedi cael adwaith i brawf croen
  • gwartheg sydd wedi cael prawf gwaed positif
  • gwartheg sydd wedi cael adwaith amhendant a rhaid eu lladd, neu 
  • anifail sydd wedi dod i gysylltiad uniongyrchol, a’i nodi gan APHA fel anifail risg uchel 

Fel arfer, bydd y gwartheg yn cael eu hanfon i ladd-dy i’w lladd. Ond gallwch eu lladd ar y fferm os nad oes modd eu cludo. Gallech orfod gwneud hynny am resymau lles neu os nad yw’r carcas yn ffit i’w fwyta gan bobl. 

Gall lladd anifail ar y fferm er mwyn rheoli TB achosi llawer iawn o ofid. Yn enwedig os mai gwartheg a threisiedi (heffrod) sy’n drwm â llo sy’n cael eu lladd. Ond weithiau, mae’n amhosib osgoi hyn. 

O 4 Tachwedd 2024, gellir gohirio symud neu ladd anifail

O 4 Tachwedd 2024, bydd hawl gohirio mynd ag anifail o’r safle tan ar ôl y 10 niwrnod gwaith arferol. Hynny am y rhesymau canlynol: 

Gwartheg sy’n drwm â llo

Os ydy’r fuwch neu’r dreisiad i fod geni’r llo o fewn 60 niwrnod ar ôl iddi: 

  • gael adwaith i’r prawf 
  • cael adwaith amhendant a bod rhaid ei lladd, neu ei bod 
  • wedi bod mewn cysylltiad uniongyrchol 

gallwch ofyn i APHA am gael gohirio ei lladd tan ar ôl iddi fwrw llo. Bydd APHA yn ystyried y risg o beidio â mynd â hi o’r fferm ar unwaith. Bydd angen i’r ceidwad fodloni amodau penodol cyn y gall APHA roi ei chaniatâd. Darllenwch ffurflen Datganiad y Perchennog TB212(W)/TB212(W)(Cymraeg)).

Rhaid i’r ceidwad roi’r canlynol: 

Os bydd APHA yn cytuno i’r gohiriad, rhaid cyflwyno’r holl ffurflenni i APHA o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl eu hanfon. Byddwch yn colli’r opsiwn i ofyn am ohiriad os na fyddwch yn gwneud hynny. Bydd APHA yn bwrw ymlaen wedyn i drefnu bod yr anifail yn cael ei ladd ar y fferm. 

Rhaid i’r ceidwad feddwl am y canlyniadau canlynol wrth wneud ei ddewis, er mwyn gallu gwneud penderfyniad doeth ynghylch cadw’r anifail am gyfnod estynedig:  

Mewn buchesi godro lle trefnir bod y lloi yn cael eu geni yr un pryd, mae gwir risg, os yw’r profion TB yn cael eu cynnal yn y cyfnod geni, y gall nifer fawr o wartheg gael adwaith i’r prawf. Trwy gynnal y prawf ar adeg pan na fydd cymaint o wartheg yn drwm â llo yn lleihau nifer y gwartheg y bydd angen eu lladd ar y fferm. Mae rhai ffermwyr wedi llwyddo i wneud hyn. 

Os yw’r profion yn cael eu cynnal ar adegau anghyfleus (h.y. yn ystod cyfnodau lloia bloc), gall y ceidwad ofyn am gynnal rhai profion yn gynt. 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael i geidwaid sydd am osgoi cynnal profion pan fydd eu gwartheg yn geni eu lloi

Anifeiliaid ar feddyginiaeth

Mae bron i hanner yr holl anifeiliaid sy’n cael eu lladd ar fferm yn derbyn rhyw feddyginiaeth ac yn dal i fod yn y ‘cyfnod cadw o’r gadwyn fwyd’ pan fydd angen eu lladd er mwyn rheoli TB. Y cyfnod cadw hwn yw’r cyfnod rhwng rhoi’r ddôs olaf o’r feddyginiaeth a chaniatáu i’r anifail hwnnw neu ei gynnyrch ymuno â’r gadwyn fwyd. Mae hynny’n sicrhau na fydd y lefelau o feddyginiaeth yn y bwyd yn uwch na’r terfyn diogel. 

Bydd modd gohirio symud gwartheg sy’n agos at gwblhau’r ‘cyfnod cadw’ hwn am hyd at 5 diwrnod gwaith. Ond dylai’r ceidwad gofio: 

  • rhaid ynysu’r anifail, yn unol â gofynion cyfreithiol TB03 – Hysbysiad o Fwriad i Ladd Gwartheg. Mae’r hysbysiad hwn yn gofyn ichi ynysu’r anifail tan y caiff ei ladd a lladd anifeiliaid penodol
  • caiff y Prawf Cyfnod Byr wedi hynny ei ohirio. Ni chaiff ei gynnal tan o leiaf 60 niwrnod ar ôl mynd â’r adweithydd/cysylltiad uniongyrchol/adweithydd amhendant y mae’n rhaid ei ladd olaf o’r safle

Gallwch leihau nifer yr anifeiliaid y bydd yn rhaid ichi eu lladd ar y fferm trwy beidio â rhoi triniaeth filfeddygol i’ch anifeiliaid yn y cyfnod cyn cynnal profion TB. Byddai hynny’n amhosib wrth gwrs os bydd yr anifail yn dioddef heb gael meddyginiaeth, felly bydd rhai anifeiliaid yn siŵr o gwympo i’r categori hwn. Ond mae cyfleoedd i leihau’r nifer fydd yn gorfod cael eu lladd ar y fferm. 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael i geidwaid sydd am leihau nifer yr anifeiliaid ar feddyginiaeth fydd yn cael eu lladd ar y fferm

Problemau mân â thagiau adnabod neu basbortau

Gallwch ohirio mynd ag anifail o’r safle am hyd at 5 niwrnod gwaith os oes gennych broblemau adnabod neu basbort mân sy’n rhwydd eu datrys. Dylai’r ceidwad gofio:

  • rhaid ynysu’r anifail, yn unol â gofynion cyfreithiol TB03 – Hysbysiad o Fwriad i Ladd Gwartheg
  • caiff y Prawf Cyfnod Byr wedi hynny ei ohirio. Ni chaiff ei gynnal tan o leiaf 60 niwrnod ar ôl mynd â’r adweithydd/cysylltiad uniongyrchol/adweithydd amhendant y mae’n rhaid ei ladd olaf o’r safle