Camau y gallwch eu cymryd i leihau lladd fferm oherwydd gwartheg meddyginiaethol.
Cynnwys
Cefndir
Mae bron i hanner yr holl anifeiliaid sy’n cael eu lladd ar fferm yn derbyn rhyw feddyginiaeth ac yn dal i fod yn y ‘cyfnod cadw o’r gadwyn fwyd’ pan fydd angen eu lladd er mwyn rheoli TB. Y cyfnod cadw hwn yw’r cyfnod rhwng rhoi’r ddôs olaf o’r feddyginiaeth a chaniatáu i’r anifail hwnnw neu ei gynnyrch ymuno â’r gadwyn fwyd. Yr awdurdodau rheoleiddio sy’n penderfynu ar y cyfnod hwn. Mae’n sicrhau na fydd y lefelau o feddyginiaeth yn y bwyd yn uwch na’r terfyn diogel.
Mae lladd anifail ar y fferm yn:
- brofiad annymunol i’r perchennog orfod ei weld, ac yn
- wastraff ar garcas a fyddai fel arall yn ffit i bobl ei fwyta
Mae’n amhosib peidio â lladd ambell anifail ar y fferm. Ond mae camau ymarferol y gallwch eu cymryd i’w wneud yn brofiad mor anghyffredin â phosibl.
Pwyntiau cyffredinol am feddyginiaethau a phrofion TB ar wartheg
Mae meddyginiaethau’n gallu effeithio ar gywirdeb prawf TB, gan y gall y cyffur effeithio ar system imiwnedd yr anifail am gyfnod gan ddylanwadu ar y canlyniad. Weithiau bydd rhaid lladd gwartheg sydd ar feddyginiaeth ar y fferm a gall yr anifeiliaid hynny arafu’r broses o symud gwartheg heintiedig o’r fferm. Gallai hynny estyn problemau TB eich buches a’r cyfyngiadau sy’ arni.
Felly rydyn ni’n eich cynghori i beidio â rhoi meddyginiaethau os medrwch os na fydd y ‘cyfnod cadw o’r gadwyn fwyd’ yn dod i ben cyn amser cynnal y prawf TB. Y cyngor milfeddygol yw i chi beidio â rhoi meddyginiaethau cyffredin i anifeiliaid nes eu bod yn cael prawf TB clir. Mae meddyginiaethau ‘cyffredin’ yn cynnwys cyffuriau rheoli parasitiaid a brechlynnau.
Pwysig: Rhaid rhoi triniaeth i’ch anifail os bydd peidio â gwneud hynny yn golygu ei fod yn dioddef.
Yng Nghymru, rhaid cynnal profion TB bob blwyddyn ar bob buches sydd â statws Heb TB Swyddogol. Mae buchesi yn yr Ardal Triniaeth Ddwys yn cael eu profi bob 6 mis. Mae perchenogion buchesi yn cael gwybod pryd y dylen nhw gynnal y profion hyn. Fel arfer, bydd cyfnod profi o 60 niwrnod iddyn nhw gynnal y profion hyn. Byddan nhw’n cael llythyr gan APHA i’w hysbysu am y prawf 2 fis cyn dechrau’r cyfnod profi. Rhaid i berchennog y fuches drefnu bod ei filfeddyg yn dod i gynnal y prawf yn ystod y cyfnod profi. Dylai hynny roi digon o amser i’r perchennog i:
- roi y rhan fwyaf o driniaethau cyffredin, a
- sicrhau bod y ‘cyfnod cadw o’r gadwyn fwyd’ wedi dod i ben cyn dechrau’r prawf TB
Rydyn ni’n eich annog i:
- drafod amseriad y triniaethau a’r ‘cyfnodau cadw’ cysylltiedig gyda’ch milfeddyg
- sicrhau nad yw’r ‘cyfnod cadw’ yn gwrthdaro â’r prawf TB sydd wedi’i drefnu