Neidio i'r prif gynnwy

Pan fyddwn yn caniatáu profi ar eich buchesi OTF yn gynt na'r trefniant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynnal profion ar wartheg yn gynt nag sydd wedi’i drefnu

Os ydy’ch prawf i fod cael ei gynnal ar amser sy’n anghyfleus i chi, efallai y gallwch ofyn am gael ei gynnal yn gynt. Dyma resymau posibl dros newid amseriad eich prawf: 

  • rhag cynnal profion yn ystod cyfnod geni bloc mewn buches odro
  • er mwyn cynnal profion ar wartheg cyn iddynt fynd i’r caeau yn y gwanwyn
  • er mwyn cynnal profion ar wartheg cyn iddynt fynd i gaeau pori’r haf 
  • er mwyn cynnal profion ar wartheg stôr cyn eu gwerthu yn yr hydref 

Gofyn am gael cynnal prawf yn gynt na’r trefniant

Er mwyn cael cynnal prawf yn gynt, rhaid ichi wneud cais ysgrifenedig a hynny cyn i’r cyfnod profi ddechrau. Ni fydd modd gohirio profion. 

Ni fyddwch yn cael newid dyddiad prawf os yw’r cyfnod profi eisoes wedi dechrau. 

Yng Nghymru, rhaid cynnal profion TB bob blwyddyn ar bob buches sydd â statws Heb TB Swyddogol. Mae buchesi yn yr Ardal Triniaeth Ddwys yn cael eu profi bob 6 mis. Mae perchenogion buchesi yn cael gwybod pryd y dylen nhw gynnal y profion hyn. Fel arfer, bydd cyfnod profi o 60 niwrnod iddyn nhw gynnal y profion. Byddan nhw’n cael llythyr gan APHA i’w hysbysu am y prawf 2 fis cyn dechrau’r cyfnod profi. Rhaid i berchennog y fuches drefnu bod ei filfeddyg yn dod i gynnal y prawf yn ystod y cyfnod profi. 

Beth sy’n digwydd os na chaiff fy mhrawf ei gynnal yn unol â’r trefniant

Os na fydd y prawf wedi’i gynnal cyn diwedd y cyfnod profi:

  • caiff eich buches ei rhoi o dan gyfyngiadau 
  • efallai y cewch eich cosbi 

Mathau o brofion y gallwch eu cynnal yn gynt na’r trefniant

Gallwch ofyn am gynnal y mathau canlynol o brofion hyd at bum mis cyn dyddiad dechrau’r cyfnod profi:

  • profion ar y fuches gyfan (WHT) 
  • prawf cadarnhau 12 mis (12M) ar ôl achos o TB 
  • profion cadarnhau 12 mis ar fuches gyffiniol (CON12) 

Gallwch ofyn am gynnal y mathau canlynol o brofion hyd at fis yn gynt yn yr Ardal Triniaeth Ddwys yng Nghymru:

  • profion 6 misol ar y fuches gyfan (IA6 a IA12) 

Gallwch ofyn am gynnal y mathau canlynol o brofion (nad ydyn nhw’n rhai rheolaidd) hyd at fis cyn dyddiad dechrau’r cyfnod profi:

  • Profion ar fuches gyffiniol (CON) 
  • Profion ar fuches gyffiniol (CON6) a gynhelir chwe mis ar ôl y prawf cyffiniol gwreiddiol neu’r prawf cyffiniol 6 misol blaenorol 

Cynhelir profion cadarnhau chwe mis ar ôl achos o TB ac ni fyddwch yn cael eu cynnal yn gynt na hynny. 

Efallai y bydd yn rhaid i geidwad gwartheg gynnal profion afreolaidd am sawl blwyddyn oherwydd achos o TB neu oherwydd y gofyn i gynnal profion cyffiniol cyn cael ailddechrau cynnal profion rheolaidd. 

Rydyn ni’n cael eich helpu os ydym wedi trefnu profion yn fuan cyn ichi droi’ch gwartheg allan i bori neu ar adeg anghyfleus arall. 

Manylion cysylltu ag APHA

Mae gwasanaeth ffôn Cymraeg ar gael. Bydd APHA yn ceisio’ch cysylltu â siaradwr Cymraeg os dyna’ch dymuniad. 

Ffôn: 0300 303 8268 

E-bost: apha.cymruwales@apha.gov.uk