Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae angen trwydded oddi wrth yr Awdurdod Glo o dan Ddeddf Diwydiant Glo 1994 (“CIA”) i gynnal unrhyw weithrediadau sy’n gysylltiedig â chloddio am lo. Dywed Adran 26A o’r CIA na chaniateir cynnal gweithgareddau cloddio am lo yng Nghymru sydd wedi cael eu hawdurdodi trwy drwydded gan yr Awdurdod Glo heb i Weinidogion Cymru gymeradwyo’r drwydded honno.  Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn ichi am eich barn am ganllaw anstatudol drafft ar sut y dylai gweithredwr glofa gasglu ei dystiolaeth i gefnogi cais i Weinidogion Cymru gymeradwyo trwydded newydd neu newid trwydded gan yr Awdurdod Glo ar gyfer gweithgareddau cloddio am lo.

Sut i ymateb

Dylech gyflwyno eich ymateb erbyn hanner nos 21 Hydref 2021, mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Llenwi ein ffurflen ar-lein

Lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb ac e-bostio i: EnergyPolicyMailbox@gov.wales


Lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a phostio at:

Polisi Ynni
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Manylion cysylltu

Am ragor o wybodaeth:

Polisi Ynni
Welsh Government
Cathays Park
Cardiff
CF10 3NQ

ebost: EnergyPolicyMailbox@gov.wales

ffôn: 03000 253499

Rheoliadau Cyffredinol ar gyfer Diogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a cadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid GwybodaethOs caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru    
Parc Cathays
CAERDYDD, 
CF10 3NQ
e-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: 
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 
0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk/

Beth yw’r prif bynciau trafod?

Mae angen trwydded oddi wrth yr Awdurdod Glo o dan Ddeddf Diwydiant Glo 1994 (“CIA”) i gynnal unrhyw weithrediadau sy’n gysylltiedig â chloddio am lo. Dywed Adran 26A o’r CIA na chaniateir cynnal gweithgareddau cloddio am lo yng Nghymru sydd wedi cael eu hawdurdodi trwy drwydded gan yr Awdurdod Glo heb i Weinidogion Cymru gymeradwyo’r drwydded honno.  Nid yw Adran 26A yn rhoi pwerau llawn i Weinidogion drwyddedu gweithgareddau cloddio am lo: deil y pwerau hynny gyda’r Awdurdod Glo.  Y mae yn hytrach yn gofyn bod Gweinidogion Cymru naill ai’n cymeradwyo neu’n gwrthod cymeradwyo trwydded a roddwyd gan yr Awdurdod Glo. Os bydd Gweinidogion Cymru’n gwrthod cymeradwyo trwydded, ni fydd gan weithredwr y lofa yr hawl i gloddio am lo.

Ble rydym arni nawr?

Ar 22 Mawrth 2021, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar y dystiolaeth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad polisi glo.  Mae’r datganiad yn esbonio mai polisi Llywodraeth Cymru yw rhoi’r gorau, mewn ffordd drefnus, i gloddio am lo ac i ddefnyddio glo.  Felly, nid yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu cymeradwyo trwyddedau newydd gan yr Awdurdod Glo i gloddio am lo na newidiadau i drwyddedau sy'n bodoli eisoes.  Fodd bynnag, efallai y bydd angen trwyddedau glo o dan amgylchiadau cwbl eithriadol a phenderfynir ar bob cais am gymeradwyaeth yn ôl ei deilyngdod.  

Yn dilyn cyhoeddi'r datganiad polisi glo, mae angen canllawiau ar sut y dylai gweithredwr glofa lunio ei dystiolaeth i gefnogi cais i Weinidogion Cymru gymeradwyo trwydded newydd gan yr Awdurdod Glo ar gyfer cloddio am lo neu gymeradwyo newid i drwydded.  Ceir fersiwn drafft o'r canllaw yn Atodiad 1. 

Mae'r canllaw drafft yn cydnabod bod pob glofa, gweithrediad a chais am drwydded yn wahanol, a bod angen hyblygrwydd i sicrhau bod gweithredwr y lofa’n cael cyfle priodol i gyflwyno’i achos i Weinidogion Cymru dros gymeradwyo trwydded.  Felly, nid yw'r canllaw drafft yn rhagnodi’n benodol pa dystiolaeth sydd ei hangen.  Ac eithrio manylion penodol y mae’n debygol y bydd eu hangen ym mhob achos (h.y. manylion caniatâd cynllunio a thrwyddedau amgylcheddol), mae'r canllaw'n rhoi'r rhyddid i weithredwr glofa benderfynu drosto’i hun sut orau i gefnogi cais i gymeradwyo trwydded.   

Fodd bynnag, mae angen i'r canllaw roi fframwaith gweddol glir ar gyfer pob cais posibl am gymeradwyaeth.  Mae'r canllaw hwn felly'n rhoi trosolwg o'r fframwaith ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo trwydded a'r math o dystiolaeth a fydd yn helpu Gweinidogion Cymru i wneud penderfyniad prydlon ar y cais.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio penderfynu a yw'r canllaw drafft yn Atodiad 1 yn rhoi digon o hyblygrwydd ac eglurder ynghylch y dystiolaeth sydd ei hangen ac ynghylch y materion y bydd gofyn i Weinidogion Cymru eu hystyried.  Nid yw'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar bolisi glo nac ar bolisi tanwydd ffosil ehangach. Rydym eisoes wedi ymgynghori ar y rheini ac maent bellach yn rhan annatod o brosesau penderfynu Gweinidogion Cymru.  

Consultation questions

Cwestiwn 1:  A yw'r canllawiau drafft yn Atodiad 1 yn disgrifio'n ddigonol natur a chwmpas yr wybodaeth y bydd ei hangen i gefnogi cais i Weinidogion Cymru gymeradwyo trwydded Awdurdod Glo? Yn benodol, a yw'r canllawiau drafft yn taro ar gydbwysedd priodol rhwng yr angen am hyblygrwydd i gyflwyno unrhyw dystiolaeth ategol berthnasol a’r gofyn i roi digon o eglurder am y materion y bydd gofyn i Weinidogion Cymru yn eu hystyried?

Cwestiwn 2: Pa arweiniad pellach y gallai Llywodraeth Cymru ei roi i esbonio'r ffordd y bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried ceisiadau adran 26A?

Cwestiwn 3: Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai'r canllaw a gynigir ar ofyn am gymeradwyaeth ar gyfer trwyddedau cloddio Awdurdodau Glo yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Beth yn eich barn chi fyddai’r effeithiau hynny?  Sut mae cynyddu’r effeithiau cadarnhaol neu liniaru’r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 4: Esboniwch hefyd sut rydych chi'n credu y gellid llunio neu newid y canllaw a gynigir ar ofyn am gymeradwyaeth ar gyfer trwyddedau cloddio Awdurdodau Glo fel bod effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, a dim effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar drin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Cwestiwn 5: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydyn ni wedi mynd i’r afael â nhw, defnyddiwch y lle hwn i’w nodi.

Atodiad 1 DRAFFT – Adran 26A Deddf Diwydiant Glo 1994 – Cymeradwyo Gweithrediadau Cloddio am Lo

1. Cyflwyniad

Mae angen trwydded oddi wrth yr Awdurdod Glo o dan Ddeddf Diwydiant Glo 1994 (“CIA”) i gynnal unrhyw weithrediadau sy’n gysylltiedig â chloddio am lo. Dywed Adran 26A o’r CIA na chaniateir cynnal gweithgareddau cloddio am lo yng Nghymru sydd wedi cael eu hawdurdodi trwy drwydded gan yr Awdurdod Glo heb i Weinidogion Cymru gymeradwyo’r drwydded honno.  Cyfrifoldeb gweithredwr y lofa yw sicrhau bod unrhyw drwydded a roddir iddo gan yr Awdurdod Glo yn cael ei chymeradwyo gan Weinidogion Cymru cyn cychwyn ar y gweithrediadau cloddio am lo.

Bwriad y canllaw hwn yw helpu gweithredwyr glofeydd i ddarparu'r dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi cais am gymeradwyaeth i drwydded (y gall yr Awdurdod Glo ofyn amdani wrth benderfynu ar drwydded, neu'n uniongyrchol gan weithredwr glofa yn dilyn trafodaethau â Llywodraeth Cymru).

Cydnabyddir bod pob glofa, gweithrediad a chais am drwydded yn wahanol, a bod angen hyblygrwydd i sicrhau bod gweithredwr y lofa yn cael cyfle priodol i gyflwyno’i achos i Weinidogion Cymru dros gymeradwyo trwydded.  Felly, nid yw'r canllaw drafft yn rhagnodi’n benodol pa dystiolaeth sydd ei hangen gan roi'r rhyddid iddo benderfynu drosto’i hun sut orau i gefnogi cais i gymeradwyo trwydded.  Mae’r canllaw hwn er hynny yn rhoi trosolwg o’r fframwaith ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo trwydded a'r math o dystiolaeth a fydd yn helpu Gweinidogion Cymru i wneud penderfyniad prydlon ar y cais.

Mae’n bwysig cofio na fydd pob adran a ddisgrifir isod yn berthnasol i bob cais i gymeradwyo trwydded, ac y cewch roi gwybodaeth na ddisgrifir mohoni isod. 

2. Trafodaethau â Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno cais i gymeradwyo trwydded

Cynghorir gweithredwyr glofeydd i gysylltu â Llywodraeth Cymru i drafod proses  gymeradwyo'r drwydded a’r dystiolaeth sydd ei hangen cyn gynted ag y byddant wedi gwneud cais am drwydded i'r Awdurdod Glo. Bydd swyddogion yn:

  • Trafod proses gymeradwy’r drwydded; yn enwedig, pryd a sut y gwneir cais i gymeradwyo trwydded;
  • Trafod cynnwys y canllaw hwn; a
  • Tynnu sylw gweithredwr y lofa at y polisïau a’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae’n bwysig nodi na chaiff Llywodraeth Cymru roi cyngor ar drwyddedau ar raddfa ehangach, gan mai cyfrifoldeb yr Awdurdod Glo yw hynny.

3. Rhan 1 – Y fframwaith penderfynu

4. Rôl yr Awdurdod Glo

Yr Awdurdod Glo yw'r awdurdod trwyddedu o hyd ar gyfer yr holl weithrediadau cloddio am lo sy’n digwydd yng Nghymru. Mae hynny’n cynnwys rhoi trwyddedau newydd a newid trwyddedau.  Mae angen trwydded oddi wrth yr Awdurdod Glo o dan yr CIA i gynnal unrhyw waith cloddio am lo.  Bydd angen y canlynol ar gyfer cloddio am lo dan ddaear neu ar yr wyneb unrhyw le yng Nghymru:

  • Trwydded oddi wrth yr Awdurdod Glo i gloddio am lo, naill ai Trwydded Cloddio Dan Ddaear neu Drwydded Cloddio ar yr Wyneb;
  • Pwy sydd â budd yn y glo, sef bron bob tro, yr Awdurdod Glo a fydd yn rhoi Prydles ynghyd â’r Drwydded at y diben hwn;
  • Hawliau mynediad gan berchennog y tir ar yr wyneb
  • Unrhyw ganiatâd neu gydsyniad arall e.e. caniatâd cynllunio a chydsyniadau amgylcheddol; a
  • Cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

Yr Awdurdod Glo fydd o hyd yn penderfynu ar geisiadau am drwyddedau yng Nghymru yn unol â’i ddyletswyddau statudol yn y CIA.  Mae hynny’n cynnwys sicrhau, cyn belled ag y bo'n ymarferol, y cynhelir ac y datblygir diwydiant cloddio am lo sy'n economaidd hyfyw; bod trwyddedeion yn gallu ariannu'r gweithrediadau ac ysgwyddo unrhyw rwymedigaethau sy'n deillio ohonynt; a bod digon o yswiriant i sicrhau na fydd y rhai sy’n dioddef difrod oherwydd ymsuddiant yn wynebu colled.  Bydd yr Awdurdod Glo hefyd yn ystyried i ba raddau y mae'r ymgeisydd wedi cael yr hawliau mynediad tanddaearol a phob caniatâd a chydsyniad angenrheidiol arall.

5. Rôl Gweinidogion Cymru a Llywodraeth

Nid yw adran 26A yn rhoi pwerau llawn i Weinidogion Cymru ar gyfer trwyddedu glo: mae'r rhain yn aros gyda'r Awdurdod Glo. Y mae yn hytrach yn gofyn bod Gweinidogion Cymru naill ai’n cymeradwyo neu’n gwrthod cymeradwyo trwydded a roddwyd gan yr Awdurdod Glo. Os bydd Gweinidogion Cymru’n gwrthod cymeradwyo trwydded, ni fydd gan weithredwr y lofa yr hawl i gloddio am lo.

Wrth ystyried p’un ai i gymeradwyo trwydded ai peidio, ni fydd Gweinidogion Cymru yn dyblygu dyletswyddau trwyddedu statudol presennol yr Awdurdod Glo; yn penderfynu am yr eildro ar y drwydded ei hun; nac yn cael cyflwyno amodau ychwanegol i'r drwydded. Fodd bynnag, yn unol â’r polisïau perthnasol, gwaith Gweinidogion Cymru fydd penderfynu a ydynt am weld cynnal y gweithgareddau trwyddedig ar dir yng Nghymru.

6. Gweithrediadau sy’n dod o dan Adran 26A

Mae angen cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru ar gyfer y canlynol:

  • Trwyddedau newydd a roddir gan yr Awdurdod Glo i awdurdodi gweithrediadau cloddio am lo yng Nghymru; neu
  • Trwyddedau sy’n newid yr amser pan y caniateir gweithrediadau cloddio am lo yng Nghymru neu sy’n newid ffiniau’r drwydded yng Nghymru; a
  • Newidiadau eraill posibl i’r drwydded sy’n effeithio ar weithrediadau cloddio am lo yng Nghymru.

Cynghorir gweithredwyr glofeydd i gysylltu â Llywodraeth Cymru cyn gynted ag y cânt gyfle i drafod a oes angen cymeradwyaeth gan Weinidogion Cymru.

7. Ystyriaethau o ran polisi Cymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried unrhyw gais i gymeradwyo trwydded Awdurdod Glo yn unol ag amcanion polisi a gofynion deddfwriaethol perthnasol Cymru.  Bydd gofyn i weithredwyr glofeydd gyflwyno gwybodaeth a thystiolaeth briodol i Lywodraeth Cymru, fel a drafodir yn y penodau isod, sy'n dangos sut mae'r gwaith cloddio am lo’n cydymffurfio â pholisïau a deddfwriaeth berthnasol Cymru.  Mae'r adran hon yn amlinellu'r polisïau mwyaf perthnasol, a chynghorir y rheini sydd â thrwydded i ddarllen y polisïau'n llawn cyn cyflwyno unrhyw dystiolaeth.

Polisi ar Lo

Polisi Llywodraeth Cymru yw atal rhagor o gloddio am lo ac atal defnydd pellach o lo.  Fodd bynnag, mae ein polisi glo yn cydnabod hefyd bod gan Gymru lofeydd gweithredol a bod angen eu rheoli a'u cau'n ddiogel. Felly, ein polisi yw, oni ellir dangos bod angen cloddio am lo er mwyn cwrdd â thargedau lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr neu i reoli a chau safle'n ddiogel, polisi Llywodraeth Cymru yw na ddylid caniatáu cloddio am lo.  Caiff pob cynnig ei ystyried yn ôl ei rinweddau, ond i fod yn llwyddiannus rhaid iddo ddangos yn glir:

  • Pam mae’n ofynnol cloddio am y glo at ddiben diwydiannol nad yw’n gysylltiedig â chynhyrchu ynni, neu at ddiben cwrdd â thargedau lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr;
  • Pam mae cloddio am y glo yn angenrheidiol i sicrhau bod gweithrediadau cloddio neu adfer safleoedd yn cael eu dirwyn i ben yn ddiogel; a
  • Sut mae'r gwaith cloddio am lo’n cyfrannu at ffyniant Cymru a'n rôl fel Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang.

Caiff penderfyniadau eu gwneud yn ôl amgylchiadau penodol pob achos ar sail ei effaith ar yr hinsawdd a diogelwch, ond bydd rhagdybiaeth yn erbyn cloddio am lo.

Polisi Cynllunio Cymru

Mae’r polisïau cynllunio sy’n ymwneud â glo ym Mholisi Cynllunio Cymru, sef polisïau cynllunio defnydd tir Llywodraeth Cymru, yn berthnasol hefyd yn fras i benderfyniadau cymeradwyo trwyddedau.

Targedau Newid Hinsawdd Cymru

Yng Nghymru, mae’r targedau caled i gyfyngu ar allyriadau carbon wedi’u hymgorffori yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) a’r ddeddfwriaeth a wnaed drwyddi. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru sicrhau gostyngiad o 100% yn yr allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050.  Mae cyllidebau carbon Cymru’n gofyn am ostyngiad o 63% erbyn 2030 ac 89% o ostyngiad erbyn 2040.

Cynllun Cyflawni Carbon Isel 2 (LCDP2)

Bydd ail gynllun datgarboneiddio statudol Llywodraeth Cymru yn cael ei gyhoeddi yn hydref 2021. Bydd yn disgrifio'r polisïau a'r camau y bwriadwn eu cymryd i gwrdd ag ail Gyllideb Garbon Cymru (2021-25) ac yn cynnig polisïau a chamau gweithredu ar gyfer y tymor hwy.

Bydd LCDP2 yn disgrifio:

  • uchafswm yr allyriadau y cawn eu gollwng yn ystod y Gyllideb Garbon;
  • y camau gweithredu (polisïau) y disgwyliwn iddynt ein galluogi i gadw o fewn y gyllideb hon;
  • camau gweithredu a gynigir yn y dyfodol a fydd yn ein galluogi i barhau i ddatgarboneiddio yn y tymor hwy; a
  • camau gweithredu ehangach a gymerwyd ac addewidion a wnaed gan ein partneriaid yng Nghymru, a fydd yn cyfrannu at gwrdd â thargedau hinsawdd Cymru.

8. Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn darparu ar gyfer gwella’r  broses gwneud penderfyniadau drwy ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio mewn ffordd gydweithredol ac integredig ag eraill, a helpu i atal problemau cyson, megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd, rhag digwydd neu waethygu.

Yn benodol, mae'r Ddeddf yn gofyn i gyrff cyhoeddus gefnogi datblygu cynaliadwy h.y. y broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae datblygu cynaliadwy yn golygu bod gofyn i gyrff cyhoeddus weithredu mewn modd sy'n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

Rhaid i bob corff cyhoeddus a enwir yn y Ddeddf (gan gynnwys Gweinidogion Cymru a Llywodraeth Cymru) bennu a chyhoeddi amcanion llesiant, ac yna cymryd pob cam rhesymol wrth arfer ei swyddogaethau i gyflawni'r amcanion llesiant hynny.  Mae cymeradwyo trwyddedau Awdurdod Glo yn swyddogaeth a ddaw o dan y Ddeddf, felly, bydd Llywodraeth Cymru yn asesu unrhyw gais i gymeradwyo trwydded yn unol â’r amcanion llesiant.

Mae'r Rhaglen Lywodraethu (Mehefin 2021) yn nodi'r 10 amcan llesiant y bydd Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i gynyddu ei chyfraniad at nodau llesiant hirdymor Cymru a'r camau y byddwn yn eu cymryd i'w cyflawni.  Mae Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026: Datganiad Llesiant yn dangos sut y mae Llywodraeth Cymru wedi pennu ei hamcanion llesiant yn unol â'n dyletswydd statudol o dan y Ddeddf.  Cyn ystyried pa dystiolaeth i'w chyflwyno i gefnogi cais i gymeradwyo trwydded, cynghorir y rheini sydd â thrwydded i ymgyfarwyddo â’r amcanion llesiant presennol.

9. Rhan 2 – Cyflwyno tystiolaeth

Mae'r adran isod yn cynnig y mathau o dystiolaeth y gallech eu cyflwyno i gefnogi cais am gymeradwyaeth i drwydded.  Bydd tystiolaeth gryno a strwythuredig wedi'i thargedu yn rhoi ystyriaeth effeithiol ac amserol i'r cais i gymeradwyo'r drwydded.

10. Crynodeb annhechnegol o’r cynnig

Gofynnir i weithredwyr glofeydd baratoi crynodeb byr annhechnegol (2-3 tudalen) o'r gweithgareddau cloddio a gynigir, gan gynnwys manylion faint o lo a godir; y prosesau cloddio, yr amserlen a'r cerrig milltir, a sut y bydd parhau i gloddio yn helpu’r gweithredwr i gydymffurfio â’r ymrwymiadau i adfer safle.  Dylai gweithredwyr glofeydd hefyd ddangos eu bod yn deall p’un a fydd cymeradwyo’r drwydded yn ychwanegu at yr amser cloddio, neu ynte'n cynyddu cwmpas neu ddyfnder gofodol y drwydded. 

11. Hanes Cynllunio

Bydd p’un a oes gennych ganiatâd cynllunio’n ystyriaeth berthnasol all gefnogi’ch cais i gymeradwyo trwydded. Wrth ofyn am gymeradwyaeth i drwydded, cynghorir gweithredwr y lofa i gyflwyno cofnod o’r hanes cynllunio, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth ategol allai fod yn berthnasol i’w gais am gymeradwyaeth (e.e. unrhyw adroddiadau sy’n dangos effaith y cloddio ar newid hinsawdd, creu a chadw swyddi, effeithiau amgylcheddol, cynlluniau adfer, Asesiadau Effaith ar Iechyd ac ati).

Yr wybodaeth sydd ei hangen:

  • Llinell amser o bob caniatâd cynllunio perthnasol sydd wedi’i roi a phob newid i ganiatâd gan gynnwys y cyfeirnod cynllunio, dyddiad y penderfyniad, dyddiad gweithredu’r caniatâd cynllunio ac os yw’n ganiatâd dros dro, pryd y daw i ben.
  • Ar gyfer pob caniatâd cynllunio yn y llinell amser, disgrifiad byr ohono (1-2 baragraff). Gallwch godi’r disgrifiad o gofrestr gyhoeddus ar-lein yr awdurdod cynllunio);
  • Unrhyw geisiadau am ganiatâd cynllunio sy’n aros am benderfyniad ac sy’n berthnasol i’r cais i gymeradwyo trwydded; a
  • Crynodeb byr o unrhyw gytundeb adran 106 o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 sy’n ymwneud ag adfer safle neu ag ôl-ofal safle (lle bo gofyn, bydd angen cyfeirnodau dogfennau), gan gynnwys disgrifiad bras o’r arian sydd wedi’i roi i’r awdurdod cynllunio lleol ei gadw i warantu ei adfer.

Bydd crynodeb clir o’r hanes cynllunio’n galluogi Llywodraeth Cymru i ystyried i ba raddau y mae’r drefn gynllunio eisoes wedi ystyried polisïau perthnasol ac amcanion llesiant.

12. Hanes Trwyddedau Amgylcheddol

Bydd trwyddedau amgylcheddol, gan Cyfoeth Naturiol Cymru (neu Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru gynt) neu Awdurdod Lleol, yn ystyriaeth berthnasol all gefnogi cais i gymeradwyo trwydded yr Awdurdod Glo.  Wrth ofyn am gymeradwyaeth, cynghorir gweithredwr y lofa i gyflwyno cofnod o hanes ei drwyddedau amgylcheddol, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth ategol allai fod yn berthnasol i’w gais am gymeradwyaeth (e.e. adroddiadau asesu effaith amgylcheddol).

Yr wybodaeth sydd ei hangen:

  • Llinell amser o bob trwydded amgylcheddol berthnasol sydd wedi’i rhoi a phob newid i drwydded gan gynnwys cyfeirnod y drwydded, dyddiad y penderfyniad, dyddiad cychwyn y gweithgaredd sy’n cael cydsyniad; ac os yw’n drwydded dros dro, pryd y daw i ben;
  • Ar gyfer pob trwydded amgylcheddol yn y llinell amser, disgrifiad byr o’r gweithgaredd a ganiateir (1-2 baragraff). Gallwch godi’r disgrifiad o’r cyflwyniad i’r drwydded amgylcheddol neu’r ddogfen penderfynu ar y drwydded); ac
  • Unrhyw gais am drwydded amgylcheddol sy’n aros am benderfyniad ac sy’n berthnasol i’r cais i gymeradwyo trwydded yr Awdurdod Glo. 

Bydd crynodeb clir o hanes y trwyddedau amgylcheddol yn galluogi Llywodraeth Cymru i ystyried i ba raddau y mae’r drefn trwyddedu amgylcheddol eisoes wedi ystyried polisïau perthnasol ac amcanion llesiant.

13. Y Farchnad ar gyfer Glo

O gael crynodeb o'r marchnadoedd y bwriedir anfon y cynhyrchion glo a gynhyrchir o dan y drwydded iddynt, bydd Llywodraeth Cymru yn gallu ystyried yr effaith ar y diwydiannau sy'n dibynnu ar y glo a gloddir, ac amcangyfrif yr allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n debygol o ddod yn sgil defnyddio'r glo.  Felly, gofynnir i weithredwyr glofeydd gyflwyno crynodeb o’r lleoedd yr aiff y glo iddynt.

Yr wybodaeth sydd ei hangen:

  • Hyd at faint o lo y mae’r caniatâd cynllunio yn caniatáu ei gloddio bob mis/blwyddyn; a
  • Faint o lo a gloddiwyd yn y pum mlynedd ddiwethaf, gan gynnwys y rhaniadau cymharol rhwng marchnadoedd.  Er enghraifft, y ganran bob blwyddyn a ddefnyddir ar gyfer ynni, gwaith dur, cyfryngau ffiltro, gwaith sment, rheilffyrdd treftadaeth, domestig ac ati.

14. Gweithlu

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried effaith cymeradwyo’r drwydded ar greu swyddi a chadw swyddi.  Felly, gofynnir i weithredwyr glofeydd gyflwyno crynodeb o weithlu presennol y lofa.  Yn arbennig:

  • Faint o bobl sy’n cael eu cyflogi yn y lofa, gan gynnwys contractwyr sy’n rhan annatod o waith y lofa, ac unrhyw brentisiaid a darpar brentisiaid; ac
  • Effaith cymeradwyo’r drwydded ar greu swydd a chadw swyddi, gan gynnwys tystiolaeth i ddangos sut mae’r lofa’n darparu swyddi lleol.

15. Planiau’r Safle

Mae angen dangos ffiniau trwydded y safle, gan gynnwys unrhyw estyniad fyddai’n cael ei wneud pe bai’r drwydded yn cael ei chymeradwyo.

16. Effaith ar allyriadau newid hinsawdd

Cynghorir gweithredwyr glofeydd i gyflwyno tystiolaeth sy’n dangos sut y byddai cymeradwyo’r drwydded yn debygol o effeithio ar y newid yn yr hinsawdd. 

Er y cydnabyddir na chaniateir defnyddio’r glo a gloddir i gynhyrchu ynni, mae'r rhan fwyaf o brosesau cynhyrchu yn cynhyrchu rhywfaint o is-gynhyrchion glo nad ydynt yn addas at ddibenion diwydiannol.  Mae'n arfer cyffredin prosesu is-gynhyrchion o'r fath ar gyfer marchnadoedd gwresogi.  Felly, ar gyfer glo ynni ac unrhyw is-gynhyrchion a gynhyrchir ac a ddefnyddir ar gyfer gwresogi, bydd angen dangos bod angen cloddio’r glo i gwrdd â thargedau lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.  Bydd Llywodraeth Cymru am weld tystiolaeth sy'n dangos y bydd glo a gynhyrchir yn y wlad hon yn arwain at ostyngiad net mewn allyriadau CO2 o'i gymharu â glo a fewnforiwyd. 

Enghreifftiau o dystiolaeth berthnasol:

  • Os nad ynni yw’r brif farchnad, faint o is-gynhyrchion glo fydd yn debygol o gael eu gwerthu i farchnadoedd gwresogi ac ynni eraill;
  • Canran y glo a gloddir fydd yn debygol o gael ei allforio;
  • Tystiolaeth o’r mesurau ar y safle i leihau dwysedd carbon y prosesau cloddio;
  • Tystiolaeth o’r newid i ynni adnewyddadwy neu ddefnydd tir cynaliadwy;
  • Tystiolaeth glir nad yw’r glo yn cael ei werthu i farchnadoedd ynni neu wresogi (e.e. contractau cyflenwi â defnyddwyr terfynol); a
  • Tystiolaeth na fydd yr hyn a gynhyrchir yn y wlad hon yn arwain at gynyddu galw’r byd am lo.

17. Diogelwch y safle, adfer y safle a gwarchod yr amgylchedd

Cydnabyddir y gallai fod yn ddymunol cloddio am lo a symud glo i sicrhau diogelwch hirdymor y safle, neu i hwyluso’r gwaith adfer neu i warchod yr amgylchedd.  Er enghraifft, gall symud y glo wella draeniad y safle neu sefydlogi arwynebau moel.  Felly, cynghorir gweithredwyr glofeydd i ystyried a oes angen delio â’r glo i ddiogelu’r safle, adfer y safle, neu warchod yr amgylchedd.  Gallai tystiolaeth o hyn fod ar ffurf: 

  • Asesiadau annibynnol o’r safle sy'n nodi bod angen symud y glo (yn arbennig, lle bo’r adroddiadau hynny wedi cefnogi ceisiadau cynllunio); 
  • Y graddau y mae’r rhaglenni gwaith y cytunwyd arnynt yn y caniatâd cynllunio neu gyda'r Awdurdod Glo yn mynd rhagddynt; effaith peidio â chwblhau'r rhaglen waith; ac unrhyw opsiynau eraill o ran cael gwared ar y glo; ac
  • Sut mae’r gwaith â’r glo yn eich helpu i gydymffurfio ag unrhyw Gytundeb adran 106 (Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990) ar gyfer adfer y safle.

18. Tystiolaeth dderbyniol

Nid yw'r canllaw hwn yn dweud sut dystiolaeth yn union y mae'n rhaid ei chyflwyno. Hynny oherwydd natur amrywiol glofeydd a gwaith cloddio; sefyllfa’r lofa o ran ei chylch bywyd; natur amrywiol ceisiadau am drwydded; a pha ddatblygiadau pellach sy'n cael eu cynnig.  Bydd tystiolaeth y gweithredwr yn hwb gwerthfawr i’n dealltwriaeth o hanes y safle, yn ogystal â'i statws presennol a'r cynlluniau arfaethedig. Ond, os oes unrhyw dystiolaeth annibynnol sy'n cefnogi barn y gweithredwyr yna dylid darparu honno hefyd.

Er enghraifft:

  • Adroddiadau, asesiadau neu geisiadau gan drydydd parti annibynnol i’w hystyried gan yr awdurdod cynllunio lleol neu Cyfoeth Naturiol Cymru;
  • Unrhyw asesiadau annibynnol newydd a gomisiynwyd i gefnogi’r cais am gymeradwyaeth i’r drwydded; a
  • Papurau technegol perthnasol.

Mae’n iawn cyflwyno crynodeb yn lle’r ddogfen lawn; ond wrth wneud, dylai’r gweithredwr nodi lle y gellir gweld y ddogfen neu’r adroddiad llawn.

19. Cyhoeddi tystiolaeth

Cyhoeddir pob penderfyniad i gymeradwyo trwydded ar wefan Llywodraeth Cymru.  Er hynny, nid yw’n arfer cyhoeddi’r dystiolaeth a ddarperir gan yr ymgeisydd.  Ond dylai gweithredwyr glofeydd gofio y gallai gwybodaeth a gyflwynir i Lywodraeth Cymru ddod o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, ac o gael cais i wneud, efallai y bydd gofyn rhyddhau’r wybodaeth i’r cyhoedd.  Cynghorir ymgeiswyr felly i ystyried y canlyniad posibl hwn, a thrafod y mater gyda Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno dogfennau.

Hefyd, mae'n debygol y bydd rhywfaint o'r wybodaeth a gyflwynir yn gyfrinachol.  Lle medrir, gofynnir i’r rheini sy’n gwneud cais i ddileu neu olygu gwybodaeth o'r fath cyn cyflwyno dogfennau i Lywodraeth Cymru.  Fodd bynnag, os nad yw hyn yn ymarferol neu'n briodol, rydym yn eu cynghori i drafod materion cyfrinachedd gyda Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno unrhyw ddogfennau.

20. Rhan 3 – Disgrifiad o broses gymeradwyo adran 26A

Isod, disgrifir y broses ar gyfer cymeradwyo trwydded.  Cynghorir yr ymgeisydd bob tro i gysylltu â Llywodraeth Cymru i drafod y broses gymeradwyo cyn gynted ag y bydd yn cyflwyno cais i'r Awdurdod Glo:

  • Pan fydd cais newydd am drwydded lo yng Nghymru yn dod i law'r Awdurdod Glo, boed drwydded newydd neu newid i drwydded, bydd yr Awdurdod Glo yn rhoi gwybod yn ffurfiol i Lywodraeth Cymru.
  • Bydd yr Awdurdod Glo hefyd yn cynghori gweithredwr y lofa i drafod ei gais am drwydded gyda Llywodraeth Cymru cyn gynted ag y gall.  Bydd hyn yn gyfle i drafod sut a phryd y gallai gyflwyno tystiolaeth i gefnogi ei gais i gymeradwyo’r drwydded.
  • Bydd yr Awdurdod Glo wedyn yn asesu'r cais, yn unol â'i ddyletswyddau o dan Ddeddf y Diwydiant Glo 1994.
  • Ar ôl dod i benderfyniad, bydd yr Awdurdod Glo yn anfon llythyr at Lywodraeth Cymru yn rhoi gwybod yn ffurfiol iddi am ei benderfyniad. Os mai’r penderfyniad yw rhoi trwydded a bod adran 26A yn gymwys, bydd yr Awdurdod Glo yn datgan ei fod am gynnig trwydded i'r gweithredwr, cyn belled â bod Gweinidogion Cymru yn ei chymeradwyo. Ni chaiff y gweithredwr unrhyw gynnig na thrwydded yn y rhan hon o’r broses. 
  • Pan fydd Gweinidogion Cymru wedi rhoi gwybod yn ysgrifenedig i’r Awdurdod Glo am eu penderfyniad, bydd yr Awdurdod Glo wedyn yn cwblhau'r cais ac yn hysbysu'r ymgeisydd.
  • Ar ôl i'r Awdurdod Glo roi'r drwydded, bydd Gweinidogion Cymru yn ysgrifennu at yr Awdurdod Glo a'r ymgeisydd i awdurdodi'r drwydded yn swyddogol. 
  • Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â chymeradwyo'r drwydded, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Awdurdod Glo a'r ymgeisydd i roi penderfyniad Gweinidogion Cymru ar waith.