Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Polisi Llywodraeth Cymru yw dod â'r gwaith o gloddio am lo a defnyddio glo i ben. Mae'r Datganiad Polisi Glo hwn yn gam pwysig tuag at y nod hwnnw.

Byddai agor pyllau glo newydd neu ymestyn y gwaith glo presennol yng Nghymru yn ychwanegu at y cyflenwad glo byd-eang, gan gael effaith sylweddol ar gyllidebau carbon cymru a'r DU sydd wedi eu rhwymo mewn cyfraith yn ogystal ag ymdrechion rhyngwladol i gyfyngu ar effaith newid yn yr hinsawdd. Felly, nid yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu awdurdodi trwyddedau gwaith cloddio Awdurdodau Glo newydd nac amrywiadau i drwyddedau sy'n bodoli eisoes.  Efallai y bydd angen trwyddedau glo mewn amgylchiadau cwbl eithriadol a phenderfynir ar bob cais ar ei deilyngdod ei hun, ond bydd y rhagdybiaeth bob amser yn erbyn cloddio glo. 

Er y bydd glo yn parhau i gael ei ddefnyddio mewn rhai prosesau diwydiannol a defnyddiau nad ydynt yn defnyddio ynni yn y tymor byr i ganolig, bydd ychwanegu at y cyflenwad byd-eang o lo yn ymestyn ein dibyniaeth ar lo ac yn gwneud cyflawni ein targedau datgarboneiddio yn fwyfwy anodd. Am y rheswm hwn, nid oes achos clir dros ehangu'r cyflenwad glo o fewn y DU. Yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd, ac yn unol â'n Cynllun Cyflawni Carbon Isel, ein her i'r diwydiannau sy'n dibynnu ar lo yw gweithio gyda Llywodraeth Cymru i leihau eu dibyniaeth ar danwydd ffosil a gwneud cyfraniad cadarnhaol at ddatgarboneiddio.

Mae'r cyfarwyddyd hysbysu ar ddatblygiadau glo a phetrolewm yn caniatáu i Weinidogion alw cais cynllunio i mewn lle mae o arwyddocâd mwy na lleol neu newydd neu ddadleuol, os ydynt o'r farn ei fod yn briodol. Mae'r rhain yn darparu mesurau rheoli cryf dros ganiatâd newydd ar gyfer cloddio. Mae Polisi Cynllunio Cymru (PCC 11) eisoes yn rhagdybio'n gryf yn erbyn glo, ac eithrio amgylchiadau cwbl eithriadol, ac mae'n ofynnol i Awdurdodau Cynllunio Lleol ystyried y polisi hwn yn y penderfyniadau a wnânt. Mae gan Awdurdodau Lleol rôl hollbwysig i'w chwarae yn yr ymateb i'r argyfwng hinsawdd ac mae awdurdodau ledled Cymru wedi dangos arweiniad gwirioneddol ar y mater hwn. Bydd y newid i ffwrdd o ddefnyddio tanwydd ffosil yn cael ei gefnogi gan gynllunio ynni lleol, gan adeiladu ar y strategaethau ynni rhanbarthol ar gyfer pob rhan o Gymru.

Mae cyhoeddi'r polisi glo hwn yn adeiladu ar ein polisïau ar betrolewm, gan gynnwys hollti hydrolig ar gyfer echdynnu petrolewm, a'n cynllun morol – sydd i gyd yn tanlinellu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wrthwynebu cloddio am a defnyddio tanwydd ffosil ac i gefnogi cyfiawnder cymdeithasol yn y cyfnod pontio economaidd wrth symud i ffwrdd o'u defnyddio. Byddwn yn datblygu ein polisïau ymhellach, gan adlewyrchu darpariaethau ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a Deddf yr Amgylchedd (Cymru). Mae'r Deddfau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygu polisïau sy’n adlewyrchu'r angen i'n heconomi a'n cymdeithas fyw o fewn terfynau amgylcheddol a rhoi'r byd naturiol mewn cyflwr gwell nag y cawsom ef i’r genedlaethau fydd yn dod ar ein holau.

Mae'r rhain yn cynnwys datblygu ymhellach y polisi mewn perthynas â glo at ddibenion ar wahân i ynni, polisi ar losgi tanwydd o unrhyw fath ar gyfer gwres, a'n polisi ar gyfer Carbon, Dal, Defnyddio a Storio. Mae'r rhain yn feysydd cymhleth ac mae'n hanfodol bod rhanddeiliaid Cymru yn cymryd diddordeb wrth ddatblygu'r polisïau hyn, a fydd yn effeithio nid yn unig ar ddiwydiannau sydd â diddordeb uniongyrchol ond ar ein cymunedau’n ehangach a'n cyfrifoldebau byd-eang fel cenedl.

Rhaid rheoli'r newid i ffwrdd o lo yn briodol. Mae datgymalu rhannau helaeth o'r diwydiant yn anhrefnus yn yr 1980au yn un o'r rhesymau pam yr ydym yn mynd i'r afael â gwaddol peryglus tomeni glo a adawyd ar ôl yng Nghymru. Mae cannoedd o weithwyr o Gymry yn dal i ddibynnu ar gloddio glo i gefnogi eu teuluoedd a'u cymunedau.  Bydd diwedd wedi'i reoli ar gloddio a defnyddio glo yn gofyn am hyfforddiant sgiliau a chymorth cyflogaeth, gan weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â'n hundebau llafur. Bydd angen ymchwil i hyn a rhaid iddo barchu hawliau cyfreithiol gweithwyr a deiliaid trwyddedau.

Dim ond un rhan o'r newid i ffwrdd o gloddio glo yng Nghymru yw'r polisi hwn. Mae'n amlwg bod yn rhaid i'r symudiad tuag at ddiwedd rheoledig i gloddio a defnyddio glo fod yn bendant a bod hyn yn cael ei gyflawni cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl.