Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd y bumed bennod o Gangs of London – Sky Atlantic ei ffilmio yng Nghymru a’i gefnogi gan Cymru Greadigol, gyda chymorth Sgrîn Cymru ar gyfer lleoliadau, a bydd ar ein sgriniau nos Iau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gangs of London yw ail ddrama wreiddiol fwyaf Sky Atlantic erioed a chafodd ei chreu gan Gareth Evans – y gwneuthurwr ffilmiau llwyddiannus o Gymru, a’i bartner creadigol, Matt Flannery. Mae’r gyfres yn mynd â’r gynulleidfa ar daith drochi i ganol cudd y brifddinas. 

Bu swyddogion Sgrîn Cymru yn gweithio gyda Gareth a chwmni cynhyrchu ffilm hir Gareth, Apostle i Netflix, a gafodd ei ffilmio ym Mharc Gwledig Margam, Castell-nedd Port Talbot.

Meddai Gareth Evans:

Yn naturiol, wedi fy mhrofiad o weithio ar Apostle roeddwn yn awyddus iawn i ddod ag o leiaf un pennod o Gangs of London yn ôl i Gymru. Gydag Ed Talfan yn cynhyrchu, roedd y Bennod annnibynnol hon ar ganol y tymor yn llawn doniau o Gymru o flaen a thu ôl i’r camera. Trwy gydol y 7 wythnos o gynhyrchu, ffilmiwyd rhannau mawr cyffrous rhwng Caerdydd a Phenwyllt, o set adeilad uchel o fewn Stiwdios Dresd yn Sain Tathan i dŷ Evie a glanfa wedi ei hadeiladu ar y set agored ym Mhencoed. Roedd yn bleser mawr gallu dod â gwaith mawr ac uchelgeisiol fel hyn gartref ac rwy’n hynod falch o’r canlyniadau. 

Meddai yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

Dwi wrth fy modd ein bod wedi gallu cefnogi gareth a’i greadigaeth ddiweddaraf sydd hefyd yn dangos y doniau sydd gennym yma yng Nghymru. Bu’r misoedd diwethaf yn hynod anodd i’r sector – ac mae’n dda cael cipolwg o’r gwaith rhagorol sydd wedi ei wneud yng Nghymru – a bydd wrth gwrs yn parhau unwaith y byddwn unwaith eto yn gallu dechrau ffilmio ar gynyrchiadau fel rhain unwaith eto.