Mae Prif Weinidog Cymru, gyda chefnogaeth arweinwyr blaenllaw ym maes busnes, wedi ysgrifennu unwaith eto at Brif Weinidog y DU i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddatganoli'r Doll Teithwyr Awyr i Gymru.
Yn ôl dadansoddiad annibynnol newydd, byddai datganoli'r doll hon i Gymru, ac yna'i lleihau, yn arwain yn uniongyrchol at hwb sylweddol i economïau De Cymru a De-orllewin Lloegr.
Ac mewn cyfarfod gydag arweinwyr blaenllaw ym maes busnes yn gynharach y mis hwn, gwelwyd bod cefnogaeth unfrydol o blaid gwneud hynny ymhlith pobl amlwg yn y sectorau hedfan, twristiaeth a busnes.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn y gorffennol y byddai datganoli’r Doll Teithwyr Awyr i Gymru yn arwain at anfanteision amhosibl eu cyfiawnhau i [faes awyr] Bryste ac na fyddai o fudd i deithwyr yn ardaloedd hynny.
Fodd bynnag, mae'r Doll Teithwyr Awyr wedi'i datganoli i Ogledd Iwerddon eisoes ac mae Gweinidogion y DU wedi rhoi'r un ymrwymiad i'r Alban hefyd.
Dadl Llywodraeth Cymru yw bod amharodrwydd Llywodraeth y DU i ddatganoli'r Doll yn parhau i gyfyngu, mewn ffordd na ellir ei chyfiawnhau, ar allu Cymru i'w hyrwyddo'i hun dramor a’i fod hefyd yn llesteirio twf yn y sector hedfan a'r economi ehangach.
Dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog:"
Datganoli toll teithwyr awyr i Gymru.Ar ôl i'r Doll Teithwyr Awyr gael ei datganoli i Ogledd Iwerddon yn barod ac o gofio'r ymrwymiad i ddatganoli'r Doll i'r Alban, mae'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn gwrthod ildio ar y mater hwn yn tanseilio'n sefyllfa economaidd ni o gymharu â'n cyfeillion yn y gweinyddiaethau datganoledig eraill.
"Ar ôl i ddadansoddiad annibynnol gael ei gyhoeddi ar ddatganoli'r Doll Teithwyr Awyr i Gymru, cawsom gyfarfod yn ddiweddar â phobl flaenllaw yn y sectorau hedfan, twristiaeth a busnes yng Nghymru i drafod y dystiolaeth newydd hon. Dangosodd y cyfarfod hwnnw fod cefnogaeth unfrydol dros ddatganoli'r Doll a'i fod, yn gyffredinol, yn cael ei ystyried yn ddatblygiad a fydd yn sicrhau bod Cymru yn agored ar gyfer busnes ar draws ffiniau rhyngwladol.
"Dangosodd y cyfarfod hwnnw hefyd fod barn gyffredin bod y Doll Teithwyr Awyr yn cael effaith negyddol ar fusnesau yn ein heconomi ac y byddai ei lleihau, neu gael gwared arni, yn sbarduno cystadleuaeth a thwf.
"Dw i wedi dweud yn glir y byddwn yn lleihau'r Doll yng Nghymru pe bai'n cael ei datganoli. Dw i'n ffyddiog y byddai gwneud hynny'n fodd i gysylltu Cymru yn well â chanolfannau trafnidiaeth a busnes ac y byddai hefyd yn sbardun o bwys a fyddai'n ysgogi busnes a buddsoddiad.
“Gwnaeth Llywodraeth y DU ymrwymiad clir i edrych ar unrhyw dystiolaeth newydd − dw i'n galw arni unwaith eto i weithredu er budd Cymru yn y mater pwysig hwn.”