Mae gan ynni'r môr y potensial i fod wrth wraidd cynlluniau uchelgeisiol i Gymru fod yn wlad sy'n cael ei phweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy, yn ôl Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Pan oedd hi'n siarad yn y Gynhadledd ar Ynni'r Môr yn Nulyn heddiw, gwnaeth y Gweinidog amlinellu'r llwyddiannau mae busnesau wedi'u cael wrth alluogi ynni'r môr yn ystod y flwyddyn diwethaf, a'r buddsoddiadau yn y gadwyn gyflenwi sy'n caniatáu i hyn ddigwydd.
"Rydyn ni'n cydnabod bod y sector yn ifanc iawn, felly rydyn ni wedi buddsoddi mewn deg prosiect sy'n gysylltiedig ag ynni'r môr er mwyn adeiladau capasiti ac arbenigedd yng Nghymru,"
meddai hi.
Cytunwyd ar dros €71 miliwn o gyllid Ewropeaidd, a fydd yn arwain at fuddsoddiadau gwerth dros €117 miliwn yng Nghymru.
Mae'r busnesau sydd wedi elwa'n cynnwys:
- Ledwood Engineering, Mainstay Marine, MarineSpace a busnesau a leolir yn Sir Benfro yng Ngorllewin Cymru. Mae'r busnesau hyn i gyd wedi manteisio ar y buddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd, sydd wedi bod o fudd i'w harbenigedd technegol presennol o fewn y sector ynni a sector ynni'r môr.
- Mae Minesto wedi cwblhau prosiect i alluogi'r gwaith o gyflwyno eu technoleg ffrwd lanw Deep Green yn fasnachol yn Holyhead Deep, oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Roedd y prosiect yn cynnwys dylunio, gosod a phrofi dyfais 500 cilowat. Mae cam nesaf y prosiect wedi derbyn €14.9 miliwn ychwanegol, a bydd yn ategu'r gwaith o ddylunio safle 80 megawat oddi ar arfordir Ynys Môn, ochr wrth ochr â dylunio dyfais maint llawn o un megawat o leiaf.
- Gwnaeth y datblygwyr ynni'r tonnau Marine Power Systems, a leolir yn Abertawe, gwblhau eu blwyddyn o dreialon a phrofion morol yn llwyddiannus yr haf hwn, ac mae eu prototeip chwarter maint, WaveSub, wedi cyrraedd ei gerrig milltir critigol. Hefyd dyfarnwyd €13 miliwn iddynt i ddylunio a chynhyrchu dyfais fwy.
Bydd Fframwaith Morol cyntaf Cymru a Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd hefyd yn rhoi polisi cynllunio strategol ar gyfer defnyddio adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy ar y tir ac oddi arno.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
"Rydyn ni'n benderfynol y bydd ynni'r môr yn rhan allweddol o'n cynlluniau i Gymru fod yn wlad sy'n cael ei phweru gan ffynonellau ynni adnewyddadwy. Mae cyllid gan yr Uned Ewropeaidd wedi bod yn hanfodol wrth gefnogi hyn.
"Rydyn ni wedi gosod targedau uchelgeisiol wrth inni geisio creu Cymru wyrddach lle mae adnoddau'n cael eu rheoli nid yn unig ar gyfer heddiw, ond er budd cenedlaethau'r dyfodol.
"Eleni rydyn ni wedi derbyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd i wneud ein targedau datgarboneiddio yng Nghymru yn fwy uchelgeisiol, wedi cyflwyno deddfwriaeth i fabwysiadu targed o 95% ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y flwyddyn nesaf, ac rydyn ni’n archwilio sut gallwn ni osod targed o sero yn y dyfodol.
"Mae ynni'r môr a gwynt alltraeth yn rhan hanfodol o'r targedau hyn, wrth inni geisio harneisio ein hadnoddau naturiol i sicrhau manteision tymor hir ar gyfer pawb yng Nghymru."
Gwnaeth y gweinidog hefyd annog Llywodraeth y DU i fuddsoddi mewn ynni'r môr ac ynni adnewyddadwy yng Nghymru.
Ychwanegodd y Gweinidog:
"Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi ynni'r môr ac rydyn ni'n galw am Lywodraeth y DU wneud yr un peth. Mae cyhoeddiadau diweddar ar yr ocsiwn Contractau Gwahaniaeth wedi dangos sut mae wedi arwain at gostau is am wynt alltraeth. Rhaid i lwyddiant y mecanwaith hwn gael ei ehangu i dechnolegau morol eraill.
"Mae gwynt alltraeth wedi dangos ei fod yn gallu cystadlu ar bris y farchnad neu'n is, felly, dylai Llywodraeth y DU ehangu’r cymorth ar gyfer technolegau morol a thechnolegau newydd eraill i yrru costau i lawr a sicrhau diwydiant newydd ar gyfer y DU."