Fel rhan o’r rhaglen Gaeaf Llawn Lles, rhoddwyd cyfle i blant ledled Cymru i roi tro ar weithgareddau chwaraeon dros wyliau’r hanner tymor.
Mae Gaeaf Llawn Lles yn rhan o becyn gwerth £20 miliwn gan Lywodraeth Cymru i gefnogi plant a theuluoedd er mwyn sicrhau nad oes yr un plentyn yn cael ei adael ar ôl o ganlyniad i’r pandemig.
Mae Chwaraeon Cymru wedi bod yn cydweithio â sefydliadau i gyflwyno rhaglen o weithgareddau amrywiol, gyda’r nod o ysbrydoli plant i gymryd rhan mewn chwaraeon a chadw’n heini.
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi cydweithio â Chwaraeon Cymru ar lawer o gyfleoedd cyffrous yn ystod mis Chwefror a Mawrth, gan gynnwys; sesiwn SUP yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd; Syrffio gydag Ysgol Syrffio Porthcawl; Noson o Chwedlau a Gwylio’r Sêr ym Mharc Gwledig Bryngarw; sesiynau dringo o dan do yn Boulders, Caerdydd a Rock UK yn Merthyr ynghyd â nifer o ddigwyddiadau cyfeiriannu mewn parciau gyda Chlwb Cyfeiriannu De Cymru ar draws Canolbarth De Cymru.
I’r rheini sydd wedi’u hysbrydoli gan Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Beijng, mae’r Bartneriaeth Awyr Agored wedi trefnu gwersi sgïo ac eirafyrddio i fenywod yng Nghanolfan Sgïo Llandudno yn ystod mis Mawrth.
Dywedodd Swyddog Datblygu Gweithgareddau’r Bartneriaeth Awyr Agored ar gyfer y Canolbarth, Bethan Logan, a drefnodd sesiwn ddringo gynhwysol i bobl ag anableddau yng Nghanolfan Ddringo Llangors:
“Mae’r gweithgareddau eraill sy’n cael eu cynnig ym Mhowys a Ceredigion yn cynnwys: byw yn y gwyllt, beicio mynydd, tramwyo a cherdded ar fryniau, dringo awyr agored, ogofa, beicio cynhwysol (gyda beiciau wedi’u haddasu), cyfeiriannu a chanŵio.
“Gyda phwyslais ar gynhwysiant a chwalu rhwystrau, er enghraifft drwy gynnwys hurio beic ac offer hanfodol, a chynnig cludiant o leoliadau canolog, gobeithio y bydd hyd yn oed rhagor o bobl yr ardal yn cael yr hyder i gael blas ar rhywbeth newydd. Y sesiynau blasu hyn yw’r cam cyntaf i lawer o bobl yn y Canolbarth i ganfod llwybr mwy hirdymor i wneud gweithgareddau awyr agored!
Dywedodd Brian Davies, Prif Weithredwr Dros Dro Chwaraeon Cymru:
“Mae nifer fawr o weithgareddau amrywiol wedi cael eu cynnal ym mhob cwr o Gymru i bobl ifanc roi tro arnynt, a gobeithio bod pawb wedi cael digonedd o hwyl wrth wneud hynny. Unwaith eto, mae llawer o bartneriaid amrywiol wedi ymateb i’r pandemig, gan alluogi pobl i gadw’n heini mewn llawer o ffyrdd ac i edrych ar ôl eu hiechyd corfforol a iechyd meddwl drwy ymarfer corff.
Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:
"Bydd y sector diwylliant a chwaraeon yn parhau i chwarae rhan bwysig yn cefnogi plant a phobl ifanc i gael eu gwynt atynt ar ôl y pandemig, ac rwy’n edrych ymlaen at weld ein pobl ifanc yn dychwelyd i wneud y gweithgareddau y maent yn eu mwynhau, ac yn troi eu llaw at weithgareddau newydd hefyd. Mae’r rhaglen hon yn enghraifft arall o sut yr ydym yn cydweithio i roi cyfleoedd a phrofiadau i blant a phobl ifanc sy’n cael effaith tymor hir a chadarnhaol ar iechyd a lles.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:
“Mae rhoi cefnogaeth i blant a phobl ifanc ledled Cymru yn flaenoriaeth i’r llywodraeth hon, ac mae’n wych gweld plant yn cael blas ar wahanol weithgareddau chwaraeon dros wyliau’r hanner tymor. Gobeithio y bydd y sesiynau yn ysbrydoli’r plant sy’n cymryd rhan i ddysgu mwy am y chwaraeon hyn, i gadw’n heini ac yn bwysicach na dim i gael hwyl.