Ein cynllun 5 mlynedd i addasu i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd y gallai Cymru orfod eu hwynebu.
Dogfennau
Ffyniant i bawb - Cymru sy’n effro i’r hinsawdd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 501 KB
Atodiad technegol: ffyniant i bawb - Cymru sy’n effro i’r hinsawdd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Fersiwn plant a phobl ifanc: Ffyniant i bawb - Cymru sy’n effro i’r hinsawdd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 658 KB
Manylion
Ffyniant i Bawb: Cymru sy'n Effro i'r Hinsawdd yw ein cynllun ni yng Nghymru ar gyfer addasu i'r newid yn yr hinsawdd.
Rydym yn nodi'n hymrwymiadau ynddo i ymateb i effeithiau'r newidiadau rydym eisoes yn eu gweld yn yr hinsawdd a'r rheini y gallwn eu disgwyl yn y dyfodol. Mae'r cynllun yn ategu'r camau rydym yn eu cymryd i ddatgarboneiddio economi Cymru.
Mae Ffyniant i Bawb: Cymru sy'n Effro i'r Hinsawdd yn dangos y camau y byddwn yn eu cymryd yn y pum mlynedd nesaf yn y meysydd lle mae'r risg fwyaf. Sef:
- amddiffyn pobl, cymunedau, adeiladau a seilwaith rhag llifogydd,
- amddiffyn cyflenwadau dŵr rhag sychder a llif isel mewn afonydd,
- taclo arferion rheoli tir sy'n gwaethygu risgiau'r hinsawdd,
- rheoli'r risgiau i fusnesau ffermio ac ecosystemau.