Neidio i'r prif gynnwy

Mae canllawiau newydd i gefnogi awdurdodau priffyrdd wrth wneud penderfyniadau ar derfynau cyflymder lleol wedi'u cyhoeddi heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r canllawiau wedi'u datblygu ar y cyd ag awdurdodau priffyrdd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a Chymdeithas Syrfëwyr Sirol Cymru, yn dilyn Rhaglen Wrando Genedlaethol dan arweiniad Ysgrifennydd Cabinet Gogledd Cymru a Thrafnidiaeth, Ken Skates.

O fis Medi ymlaen, gall awdurdodau priffyrdd ddechrau defnyddio'r fframwaith newydd i asesu terfynau cyflymder ar ffyrdd lle ystyrir bod newid yn briodol. Disgwylir i nifer y ffyrdd a adolygir amrywio'n sylweddol yn dibynnu ar faint o adborth a dderbynnir gan bob awdurdod priffyrdd, ac o ganlyniad bydd yr amserlenni ar gyfer cyflawni newid yn amrywio o un awdurdod lleol i'r llall.

Rydym am greu fframwaith ar y cyd sy'n cefnogi awdurdodau priffyrdd i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer ffyrdd lleol, yn enwedig pan fo hynny yn gymhleth. Yn unol â Datganiad Stockholm y Cenhedloedd Unedig, mae'r canllawiau'n blaenoriaethu terfynau 20mya lle mae cerddwyr a beicwyr yn cymysgu'n aml â cherbydau oni bai bod tystiolaeth gref i gefnogi bod cyflymderau uwch yn ddiogel.

Cyn bo hir, gwahoddir awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau am gyllid iddynt allu gwneud newidiadau i derfynau cyflymder yn unol â'r canllawiau newydd.

Mae £5 miliwn ychwanegol ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol hon.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth:

Rwy'n hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd yr amser i roi eu hadborth inni. Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan.

"Roedd y data diweddar am wrthdrawiadau i Gymru a'r gostyngiad mewn anafiadau'n galonogol.

"Mae gennym gryn ffordd i fynd eto, ond mae'n galonogol gweld bod pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir. Drwy weithio mewn partneriaeth a thrwy eich cefnogi i wneud newidiadau lle mae'n iawn gwneud hynny, credaf y gallwn sicrhau bod 20mya yn llwyddiant yng Nghymru.

Dywedodd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC a'r Llefarydd ar Drafnidiaeth:

Rydym yn croesawu'r ffordd y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymgysylltu â chynghorau i adolygu'r canllawiau gwreiddiol a galluogi cynghorau i ailedrych ar rai rhannau o lwybrau strategol, gan gynnwys llwybrau bysiau.

"Nid yw'r rhain yn benderfyniadau hawdd i gynghorau ac mae diogelwch yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni. Bydd angen lefel uchel o hyder, os a lle codir y terfyn yn ôl i 30mya, na fydd yn arwain at yr union risgiau y cafodd y polisi eu llunio i liniaru.