Neidio i'r prif gynnwys

Rydym am glywed eich barn am y cynnig i ddiwygio’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.

Sut i ymateb

Ymgynghoriad yn cau:
20 Tachwedd 2026
Lansiwyd yr ymgynghoriad ar:

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydym yn ymgynghori ar:

  • y Datganiad drafft ar Ymgysylltu â’r Cyhoedd 
  • y Cynllun Ymgysylltu drafft â’r Sgwrs Genedlaethol 
  • y rôl y dylai’r Fframwaith ei chwarae wrth ddiwallu anghenion Cymru

Gwybodaeth ychwanegol

Nodyn: Anonymeiddio ymatebion

Roedd yr adran ar GDPR y DU yn yr ymgynghoriad hwn yn adlewyrchu fersiwn gynharach o eiriad Llywodraeth Cymru ynghylch gwneud ymatebion yn ddienw. Ers hynny, mae ein gweithdrefnau wedi'u diweddaru fel bod ymatebion i ymgynghoriad yn cael eu trin yn ddienw oni bai bod yr ymatebydd yn nodi’n wahanol. Mae unrhyw ddata personol bellach yn cael eu tynnu cyn cyhoeddi’r ymateb, oni bai bod ymatebwyr yn gofyn yn benodol fel arall.

Bydd y dull hwn wedi’i ddiweddaru yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr holl ymatebion a ddaw i law ar gyfer yr ymgynghoriad hwn, waeth sut y cânt eu cyflwyno.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 20 Tachwedd 2026, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:

Ffurflen ar-lein

Post

Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.

Cwblhewch a dychwelyd i 

Ymgynghoriad Galwad am Dystiolaeth ar gyfer Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
Y Gyfarwyddiaeth Gynllunio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ