Cylch gorchwyl
Crynodeb o bwrpas y Fforwm Manwerthu.
Cynnwys
Pwrpas
Partneriaeth gymdeithasol deirochrog yw’r Fforwm Manwerthu ('y Fforwm'). Cafodd ei sefydlu gan Weinidogion Cymru i hyrwyddo deialog rhwng Llywodraeth Cymru, undebau llafur a chynrychiolwyr cyflogwyr ac i greu gweledigaeth ar y cyd o sector manwerthu llwyddiannus, cynaliadwy a chydnerth sy'n cynnig gwaith teg, diogel a gwerth chweil.
Cylch gorchwyl
Bydd y Fforwm yn trafod, yn rhoi cyngor ac yn cydweithio â'i rwydweithiau ar amrywiaeth o faterion sydd o ddiddordeb i'r tair ochr gan gynnwys:
- llywio'r gwaith o ddatblygu strategaeth fanwerthu ac ystyried sut i wneud gwaith manwerthu yn decach ac yn fwy sicr a diogel a sicrhau ei fod yn talu’n well
- nodi, hyrwyddo a rhannu arferion sy'n cefnogi cyflog ac amodau teg o fewn y sector manwerthu i helpu i 'normaleiddio' hynny
- sicrhau cyd-ddealltwriaeth well o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r sector manwerthu gan gynnwys sgiliau, recriwtio a chadw staff; awtomeiddio; datgarboneiddio a phroblemau â’r gadwyn gyflenwi.
Oherwydd ehangder y sector manwerthu a'i weithlu, bydd y Fforwm yn trafod ffrydiau gwaith gan gytuno ar y rhai y bydd yn canolbwyntio ei ymdrechion arnynt ac yn eu blaenoriaethu
Cyd-destun
Mae gwneud gwaith yn decach, yn fwy diogel ac yn well i bawb yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i hybu’r nodau hyn. Gwnaeth adroddiad Sefydliad Bevan Experiences in Retail nodi’r pynciau y mae angen mynd i’r afael ar frys â nhw, ond mae'n bwysig eu hystyried yng nghyd-destun ehangach yr amodau sy'n angenrheidiol ar gyfer sicrhau sector manwerthu cynaliadwy sy’n gallu darparu gwaith teg.
Hefyd, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd sector manwerthu llwyddiannus, cynaliadwy a chydnerth i economi Cymru a'n cymunedau ac mae wedi ymrwymo i ddatblygu strategaeth fanwerthu gyda'r sector. Mae'r cyd-destun hwn yn gofyn am ymgysylltu rheolaidd a rhagweithiol â chynrychiolwyr cyflogwyr ac undebau llafur yn y sector manwerthu. Mae'r Fforwm hwn yn gyfrwng ar gyfer yr ymgysylltu hwnnw.
Ceir grwpiau partneriaid cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill sy'n trafod materion sy'n berthnasol i ddyfodol manwerthu – gan gynnwys adfywio canol trefi. Bydd y Fforwm hwn yn gweithio gyda'r grwpiau eraill hyn ond heb ddyblygu eu gwaith.
Aelodau
Fel Fforwm teirochrog, bydd ei aelodaeth yn cynnwys Llywodraeth Cymru, partneriaid cymdeithasol sy'n cynrychioli undebau llafur a partneriaid cymdeithasol sy'n cynrychioli cyflogwyr fel a nodir isod:
Llywodraeth Cymru:
- swyddogion perthnasol Llywodraeth Cymru
Undebau Llafur:
- TUC Cymru
- USDAW
- GMB
- Unite
- BFAWU
Cyflogwyr:
- CBI
- FSB
- Consortiwm Manwerthu Cymru
- Siambrau Masnach Cymru
- ACS
- BIRA
Bydd Aelodau'r Fforwm yn trafod â'r rhan o'r sector y maent yn ei chynrychioli, er mwyn cefnogi deialog ehangach (gweler hefyd Cyfarfodydd a dulliau gweithio a Atebolrwydd).
Pan na fydd unigolyn yn gallu bod yn bresennol mewn cyfarfod penodol – mae'n dderbyniol iddo gynnig dirprwy priodol i fod yn bresennol ar ei ran.
Yn ogystal â'r uchod, gellir cyfethol arbenigwyr nad ydynt yn aelodau i rannu o’u harbenigedd â'r Fforwm ar gyfer cyfarfod neu gyfres o gyfarfodydd yn ôl y gofyn ac fel a bennir gan y Fforwm.
Bydd y Fforwm yn adolygu’r aelodaeth yn rheolaidd, er mwyn sicrhau ei bod yn berthnasol ac yn briodol.
Cadeirir y Fforwm ar y cyd gan swyddogion Llywodraeth Cymru o'r Gyfarwyddiaeth Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg a Pholisi Economaidd.
Cyfarfodydd a dulliau gweithio
Perchir bob amser rôl y sefydliadau sy’n perthyn i’r Fforwm a'u perthynas â'u haelodau. Mae hyn yn cynnwys cydnabod bod cynrychiolwyr cyflogwyr yn cael cynghori, hyrwyddo ac ymgysylltu, ond nad ydynt yn cael sicrhau, caniatáu na llofnodi cytundebau ar draws y sector ar ran eu haelodau.
Bydd y Fforwm i ddechrau yn cwrdd bob mis i ennill ei blwyf ac i bennu ei raglen waith. Bydd aelodau'r Fforwm yn cytuno wedi hynny pa mor aml y dylai gwrdd.
I gael cworwm, bydd angen presenoldeb o leiaf ddau gynrychiolydd yr un o Lywodraeth Cymru, cyflogwyr a'r Undebau Llafur mewn cyfarfod.
Cynhelir rhith-gyfarfodydd am y dyfodol rhagweladwy o leiaf. Os cynhelir cyfarfod 'wyneb yn wyneb' rywbryd yn y dyfodol, bydd yr holl gostau teithio a llety sy'n ymwneud â chyfarfodydd y Fforwm yn cael eu talu gan sefydliad yr aelodau dan sylw.
Wrth bennu a chynnal ei raglen waith, bydd y Fforwm yn gweithredu mewn ffordd sy'n adlewyrchu egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015) ac sy’n gyson â nhw.
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu ysgrifenyddiaeth i wasanaethu’r Fforwm a fydd yn trefnu cyfarfodydd, yn dosbarthu papurau ac yn darparu cofnod o'r trafodaethau ac unrhyw gamau gweithredu. Bydd papurau'n cael eu dosbarthu ddim llai na 5 diwrnod gwaith cyn unrhyw gyfarfod (ond o dan yr amgylchiadau mwyaf eithriadol). Nid oes gan y Fforwm gyllideb.
Caiff unrhyw Aelod gyflwyno eitemau ar gyfer yr agenda i'w trafod yng nghyfarfodydd y Fforwm.
Bydd y Fforwm yn adolygu ei gynnydd bob 6 mis er mwyn sicrhau bod ei raglen waith yn dal yn berthnasol ac yn gyflawnadwy a'i fod yn trafod â grwpiau perthnasol.
Bydd y Fforwm yn anelu at ddod i benderfyniadau drwy gonsensws yn hytrach na thrwy bleidlais. Bydd angen datgan unrhyw wrthdaro buddiannau ar ddechrau pob cyfarfod.
Er mwyn hwyluso trafodaeth agored, rhaid cadw trafodaethau’r Fforwm yn gyfrinachol ac ni ddylid eu datgelu heb ganiatâd y Fforwm. Gall dogfennau, gan gynnwys nodiadau cyfarfod, fod yn destun ceisiadau am wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Pan dderbynnir ceisiadau o'r fath, dilynir gweithdrefnau Rhyddid Gwybodaeth safonol Llywodraeth Cymru.
Bydd y Fforwm, o bryd i'w gilydd, yn rhoi adborth ar ei weithgareddau i Gyngor Partneriaeth Gymdeithasol yr wrthblaid a grwpiau eraill yn ôl y gofyn.
Atebolrwydd
Gweinidogion Cymru sy’n cynnull y Fforwm a gall geisio gwneud argymhellion iddynt. Yn ogystal, mae aelodau unigol y Fforwm yn atebol i'w sefydliadau eu hunain a bydd gan bob un ei drefniadau llywodraethu ei hunan mewn perthynas ag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys gwneud penderfyniadau a llif gwybodaeth.
Tymor
Gallai’r Cylch Gorchwyl hwn gael ei ddiwygio, ei newid neu ei addasu yn ysgrifenedig gyda chytundeb y Fforwm.
Daw’r Cylch Gorchwyl hwn i rym yn syth ar ôl i’r Fforwm gytuno arno a bydd yn parhau mewn grym nes y caiff ei derfynu drwy gytundeb yr aelodau.