Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford ac Arweinydd Plaid Cymru Adam Price wedi amlinellu ffordd ymlaen ar gyfer diwygio’r Senedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Maen nhw’n awyddus i’r Senedd gael ei diwygio mewn pryd ar gyfer yr etholiad nesaf yn 2026, hyd yn oed os bydd rhai o’r newidiadau’n cael eu cyflwyno dros dro.

Mewn llythyr at Huw Irranca-Davies, cadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig trawsbleidiol ar Ddiwygio’r Senedd, maen nhw wedi gwneud datganiad safbwynt ar y cyd. Ei bwrpas yw cefnogi gwaith y pwyllgor i wneud argymhellion a fydd yn siapio Bil Diwygio’r Senedd.

Rhaid i’r pwyllgor gyhoeddi ei adroddiad erbyn 31 Mai. Yna, cynhelir dadl a phleidlais arno yn y Senedd.

Daw’r datganiad safbwynt ar y cyd yn sgil trafodaethau parhaus rhwng y Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio.

Mae’n nodi’r canlynol:

  • Dylai fod gan y Senedd 96 o Aelodau.
  • Dylid ei hethol gan ddefnyddio rhestrau cyfrannol caeedig gyda chwotâu rhywedd statudol integredig a rhestrau ‘am yn ail’ gorfodol.
  • Dylid dyrannu seddi i bleidiau gan ddefnyddio fformiwla D’Hondt.
  • Dylai etholiad y Senedd yn 2026 ddefnyddio’r 32 etholaeth derfynol yn Senedd y DU a gynigir gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru unwaith y bydd wedi cwblhau ei Adolygiad Seneddol yn 2023.
  • Dylid cyplysu’r etholaethau hyn er mwyn creu 16 o etholaethau’r Senedd. Dylai pob etholaeth ethol chwe Aelod.
  • Dylid cychwyn arolwg llawn o’r ffiniau yn ystod tymor y Senedd hon a dylai ei argymhellion ddod i rym yn etholiad dilynol y Senedd.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae’r achos dros ddiwygio’r Senedd wedi’i wneud. Mae angen inni nawr fwrw ymlaen â’r gwaith caled i greu Senedd fodern sy’n adlewyrchu Cymru fel y mae heddiw; Senedd sydd wir yn gweithio i Gymru.

“Bydd y datganiad safbwynt ar y cyd yr ydyn ni’n ei gyhoeddi heddiw yn helpu i gefnogi gwaith pwysig y Pwyllgor Diben Arbennig trawsbleidiol i fwrw ymlaen â’r gwaith o ddiwygio’r Senedd.”

Dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru:

“Bydd y diwygiadau hyn yn gosod y sylfeini ar gyfer democratiaeth gryfach yng Nghymru a Senedd decach, fwy cynrychiadol a fydd yn edrych yn hollol wahanol i’r system wleidyddol yn San Steffan, system sydd wedi hen ddyddio.

“Bydd gan Senedd gryfach, fwy amrywiol a mwy cynrychiadol fwy o allu i gyflawni ei brif ddiben, sef gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl Cymru.”