Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Swyddogion Milfeddygol Cymru, Lloegr a'r Alban yn cynghori ceidwaid dofednod i fod yn wyliadwrus gan fod y Parth Atal Ffliw Adar (AIPZ) i gael ei godi o ganol dydd yfory (dydd Sadwrn 15 Mai).

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r mesurau bioddiogelwch ychwanegol hyn, a gyflwynwyd ledled Prydain Fawr ym mis Tachwedd 2020, wedi bod yn arfau hanfodol i ddiogelu diadelloedd ledled y wlad rhag y clefyd sy'n cylchredeg mewn adar gwyllt.

Mae Defra, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda diwydiant a cheidwaid adar i sicrhau bod mesurau bioddiogelwch llym o fewn ac o amgylch safleoedd dofednod i helpu i gadw diadelloedd yn ddiogel.

Mae'r risg o ffliw adar mewn dofednod â bioddiogelwch da bellach wedi'i leihau i 'isel' ar gyfer pob dofednod. O ganlyniad, bydd y gofynion bioddiogelwch gwell gorfodol a gyflwynwyd fel rhan o'r AIPZ ar 11 Tachwedd a'r mesurau bioddiogelwch ychwanegol a gyflwynwyd ar 31 Mawrth yn cael eu codi o ganol dydd ddydd Sadwrn 15 Mai.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd tri Prif Swyddog Milfeddygol Prydain Fawr:

"Bydd hyn yn newyddion da i geidwaid adar ledled y wlad sydd wedi gwneud ymdrech fawr i gadw eu heidiau yn ddiogel y gaeaf hwn.

"Rydym wedi cymryd camau cyflym i gynnwys a dileu'r clefyd hwn, ac rydym yn annog pob ceidwad adar – boed ganddynt ond ychydig o adar neu filoedd – i barhau i wneud eu rhan i gynnal mesurau bioddiogelwch llym ar eu safle, fel nad ydym yn colli'r cynnydd yr ydym wedi'i wneud dros y misoedd diwethaf. Nid yw risg isel yn golygu dim risg."

Bydd yr holl gynulliadau dofednod ac adar, gan gynnwys crynoadau colomennod a drefnir ar gyfer rasys o dir mawr Ewrop, hefyd yn cael eu caniatáu, ar yr amod bod trefnwyr yn hysbysu'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion o leiaf saith diwrnod cyn i'r digwyddiad gael ei gynnal a'u bod yn cydymffurfio â darpariaethau'r Drwydded Gyffredinol newydd.

Cyngor iechyd y cyhoedd yw bod y risg i iechyd pobl o straen firws H5N8 yn isel ac o'r mathau o firysau H5N2, H5N5 a H5N1 yn isel iawn. Mae cyrff safonau bwyd yn cynghori bod ffliw adar yn peri risg isel iawn o ran diogelwch bwyd i ddefnyddwyr y DU, ac nid yw'n effeithio ar y defnydd o gynhyrchion dofednod gan gynnwys wyau.

Cynghorir ceidwaid dofednod ac adar caeth i fod yn wyliadwrus am unrhyw arwyddion o glefyd yn eu hadar ac unrhyw adar gwyllt, a gofyn am gyngor prydlon gan eu milfeddyg os oes ganddynt unrhyw bryderon. Gallant helpu i atal ffliw adar drwy gynnal bioddiogelwch da ar eu safle, gan gynnwys:

  • Ffensio pyllau, nentydd, ardaloedd corsiog neu ddŵr sy’n sefydll a'u draenio lle bo hynny'n bosibl
  • Gosod rhwydi neu orchuddio pyllau
  • Cael gwared ar unrhyw ffynonellau porthiant adar gwyllt
  • Atal adar gwyllt drwy gerdded drwy'r ardal yn rheolaidd neu drwy ddefnyddio addurniadau i atal adar ysglyfaethus
  • Glanhau a diheintio concrid neu ardaloedd athraidd eraill
  • Rhoi naddion pren i lawr mewn ardaloedd gwlyb
  • Cyfyngu ar nifer y bobl sy'n dod i'r safle
  • Defnyddio dipiau traed diheintio wrth fynd i mewn ac ymadael â chlostiroedd neu dai

Dylai ceidwaid dofednod ac adar caeth ac aelodau o'r cyhoedd barhau i roi gwybod i linell gymorth Defra am adar gwyllt marw ar 03459 33 55 77 (opsiwn 7), a dylai ceidwaid roi gwybod am amheuaeth o glefyd i APHA yng Nghymru ar 0300 3038268,  Lloegr ar 03000 200 301, ac yn yr Alban drwy'r Swyddfa Gwasanaeth Maes Lleol.

Dylai ceidwaid dofednod ymgyfarwyddo â'n cyngor ar ffliw adar.

Rhagor o wybodaeth

  • Nid yw ffliw adar yn gysylltiedig o bell ffordd â pandemig COVID-19, sy'n cael ei achosi gan feirws SARS-CoV-2 ac nad yw'n cael ei gario mewn dofednod.
  • Gellir gweld asesiad achosion y llywodraeth yn dilyn achosion diweddar yn Lloegr arlein.
  • I gael rhagor o gyngor a gwybodaeth reolaidd ar y sefyllfa ddiweddaraf, ewch i dudalennau ffliw adar y Llywodraethau: yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
  • Mae cyngor ar ddiogelwch bwyd ar gyfer coginio dofednod ac wyau yn aros heb ei newid. Gweler cyngor y GIG ar goginio wyau a dofednod yn ddiogel.
  • Rydym yn cyhoeddi adroddiad (wedi'i ddiweddaru'n rheolaidd) ar ganfyddiadau ffliw pathogenig iawn yr adar (ffliw adar) mewn adar gwyllt ym Mhrydain Fawr sydd ar gael yma, a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ganfyddiadau am ffliw adar mewn adar gwyllt ym Mhrydain Fawr ac Ewrop yn ein hasesiadau o achosion.