Ffitrwydd tai i fod yn gartref: canllawiau i landlordiaid
Esbonio beth sy'n rhaid i landlordiaid wneud o 1 Rhagfyr 2022 i sicrhau bod eu heiddo mewn cyflwr da ac yn ffit i fod yn gartref.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae Rhan 4 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (y Ddeddf) yn nodi’r rhwymedigaethau sydd ar landlord mewn perthynas â chyflwr annedd. Mae’r rhwymedigaethau hyn yn berthnasol i bob contract meddiannaeth a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd. Mae landlord o dan gontract meddiannaeth yn gyfrifol am sicrhau bod annedd mewn cyflwr da ac yn ffit i bobl fyw ynddi.
Er bod y canllawiau hyn yn ymdrin â’r gofyniad i annedd fod mewn cyflwr da ac yn ffit i bobl fyw ynddi, mae’n bwysig bod landlordiaid yn deall eu rhwymedigaethau ategol mewn perthynas ag atgyweirio hefyd. Yn aml, y prif reswm nad yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi yw lefel cyflwr gwael yr annedd. Yn aml, ball mynd i’r afael â chyflwr gwael yn gynnar ac yn effeithiol atal annedd rhag bod yn annedd nad yw’n ffit i bobl fyw ynddi.
Cyfrifoldeb landlord i gadw’r annedd mewn cyflwr da
Mae Adran 92 o’r Ddeddf yn egluro rhwymedigaeth y landlord i gadw’r annedd mewn cyflwr da. Mae’r rhwymedigaeth hon yn ymestyn i’r canlynol:
- strwythur a’r tu allan i’r annedd (gan gynnwys draeniau, landeri a phibellau allanol), a
- gosodiadau gwasanaeth yn yr annedd, fel y rhai:
- i gyflenwi dŵr, nwy neu drydan,
- ar gyfer glanweithdra, a
- i gynhesu lle neu i gynhesu dŵr
Mae’n rhaid i’r landlord gadw’r annedd mewn cyflwr da bob amser, er y gall fod achosion lle na fydd y landlord yn gwybod bod angen atgyweirio. Unwaith y bydd y landlord yn gwybod bod angen atgyweirio, mae’n rhaid gwneud y gwaith o fewn amser rhesymol ac i safon resymol. Mae hyn yn cynnwys rhwymedigaeth i unioni unrhyw ddifrod a achosir gan atgyweiriadau. Ni all y landlord osod unrhyw rwymedigaeth ar ddeiliad y contract mewn perthynas ag atgyweiriadau, er enghraifft cyfrannu at y gost, pan nad deiliad y contract sydd ar fai am yr atgyweiriadau.
Rhwymedigaeth landlord i sicrhau bod annedd yn ffit i bobl fyw ynddi
Mae Adran 91 o’r Ddeddf yn rhoi rhwymedigaeth ar landlord i sicrhau bod yr annedd yn ffit i bobl fyw ynddi ar ddechrau ac yn ystod oes y contract meddiannaeth. Mae’r rhwymedigaethau hyn i’w gweld yn Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 (“y Rheoliadau”)(legislation.gov.uk) sy’n nodi 29 o faterion ac amgylchiadau sy’n rhaid eu hystyried wrth benderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi. Yn ogystal, mae yna ofynion penodol ar landlord hefyd i helpu i sicrhau nad yw rhai materion ac amgylchiadau penodol yn codi.
Nod y ddeddfwriaeth, sef y Ddeddf a’r Rheoliadau, gan gynnwys y canllawiau hyn yw atal annedd rhag bod yn anaddas i bobl fyw ynddi, er mwyn sicrhau bod landlordiaid yn cynnal anheddau mewn cyflwr da fel eu bod yn parhau i fod yn ffit i bobl fyw ynddynt. Dylai pob landlord geisio atal unrhyw un o’r 29 o faterion neu amgylchiadau rhag codi. Nid yn unig y mae’r dull hwn yn fwy cost-effeithiol i landlordiaid ond, yn fwy sylfaenol, bydd yn golygu na fydd deiliaid contract yn byw o dan amodau na fyddai’n ffit.
Mae’r canllawiau hyn yn nodi’r camau gweithredu y gall landlord eu cymryd i helpu i sicrhau bod yr annedd yn ffit i bobl fyw ynddi.
Mae Rhan 1 o’r canllawiau’n mynd i’r afael â phob un o’r 29 o faterion ac amgylchiadau a restrir o dan yr Atodlen i’r Rheoliadau. Mae’n darparu rhywfaint o gyd-destun i’r materion posibl a allai godi o bob un o’r materion ac amgylchiadau hyn. Y 29 o faterion ac amgylchiadau eiddo yw’r meini prawf ar gyfer penderfynu a yw eiddo yn ffit i bobl fyw ynddo. Dylai’r landlord a’r deiliad contract allu gweld yn glir a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi yn y rhan fwyaf o achosion. Yn y pen draw, pan na ellir datrys anghydfod, y llys fydd yn penderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi.
Yn ogystal â’r pwyntiau a godir yn y canllawiau hyn dylai landlord barhau i fod yn ymwybodol o unrhyw faterion ychwanegol a allai effeithio ar yr annedd ac a yw’n ffit i bobl fyw ynddi. Bydd llys yn ystyried pob achos yn ôl ei haeddiant ei hun. Cynghorir landlord sydd â phryderon am gyflwr annedd i ofyn am gyngor proffesiynol cyn rhoi contract meddiannaeth.
Mae’r canllawiau’n cynnwys enghreifftiau y dylai landlord eu hystyried er mwyn atal / darganfod / trin mater neu amgylchiad penodol. Fodd bynnag, nid yw’r enghreifftiau hyn yn gynhwysfawr, ac fe’u darperir fel cymorth yn unig ar gyfer ateb posibl. Yn ogystal, gallai llawer o'r enghreifftiau eisoes fod yn ofyniad o dan rwymedigaethau atgyweirio landlord sy'n rhan o ddeddfwriaeth bresennol.
Mae Rhan 2 o’r canllawiau hyn yn ymdrin â gofynion penodol a roddir ar y landlord fel rhan o’r Rheoliadau sy’n ymwneud â ffitrwydd annedd i bobl fyw ynddi, er mwyn helpu i sicrhau nad yw rhai o’r 29 o faterion ac amgylchiadau’n codi. Er enghraifft, er mwyn lleihau’r posibilrwydd o dân a’i effaith mae yna ofyniad i landlord sicrhau bod gan yr annedd larymau mwg.
Mae’r canllawiau’n defnyddio’r canllawiau ar gyfer landlordiaid a gweithwyr eiddo proffesiynol a gyhoeddwyd i gyd-fynd â’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS). Mae Rheoliadau System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (Cymru) 2006 (“Rheoliadau HHSRS”) yn nodi’r peryglon y mae’r risg o niwed yn gysylltiedig â nhw. Bydd awdurdod lleol yn asesu’r annedd drwy gyfeirio at y materion a’r amgylchiadau hyn a dosbarthiadau o niwed a nodir yn Rheoliadau HHSRS hefyd i weld a oes perygl Categori 1 neu 2 yn bodoli. Fodd bynnag, nid yw’r ffaith bod perygl fel y nodwyd yn Atodlen 1 i Reoliadau HHSRS yn bodoli ai peidio yn penderfynu bod annedd yn un annedd nad yw’n ffit i bobl fyw ynddi yn unol â Rheoliadau sy’n ymwneud â Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi. Er enghraifft, gall amrywiad bychan yn arwynebedd llawr fod yn berygl o dan HHSRS ond byddai hynny ar ei ben ei hun yn annhebygol iawn o arwain at benderfynu nad yw’r annedd yn ffit i bobl fyw ynddi. Yn yr enghraifft a roddir uchod ynghylch y perygl o syrthio ar arwyneb gwastad, er na fyddai amrywiad bychan yn arwyneb y llawr yn debygol o dorri’r rhwymedigaeth o ran annedd ffit i fyw ynddi, gall archwiliad gan awdurdod lleol ei ystyried fel perygl o dan HHSRS. Os oes person oedrannus yn byw yn yr annedd mae’r awdurdod lleol yn debygol o gymryd camau gorfodi yn erbyn y landlord.
Rhan 1: y 29 o faterion ac amgylchiadau
1. lleithder a thyfiant llwydni
Yn cynnwys:
- gwiddonau llwch tŷ
- llwydni neu dwf ffyngaidd
Mae’r ddau’n cael eu hachosi gan ddamprwydd a/neu leithder uchel.
Beth sy’n achosi gwiddonau llwch tŷ a thwf ffyngaidd
Mae’r ddau yn gysylltiedig yn uniongyrchol â thamprwydd sy’n cael ei achosi gan:
- lefelau awyru is
- mwy o leithder, yn enwedig yn uwch na 70 y cant
- tymheredd cynhesach y tu mewn yn y gaeaf oherwydd cynllun tai sydd wedi’u hadnewyddu
Camau gweithredu posibl gan y landlord
- cyrsiau atal lleithder, pilenni a’r manylion o amgylch agoriadau drysau a ffenestri
- cadw’r ffabrig allanol mewn cyflwr da i atal glaw rhag dod i mewn
- diogelu pibellau a thanciau rhag rhew
- baddonau, sinciau ac ati wedi’u gosod yn briodol
- draeniau wedi’u gosod yn briodol
- nwyddau dŵr glaw wedi’u gosod a’u cynnal a chadw’n briodol
- to a gofod o dan y llawr yn cael eu hawyru’n briodol i sicrhau bod pren yn aros yn sych
- sicrhau bod aer llawn lleithder yn cael ei echdynnu’n ddigonol yn ystod adegau brig, fel adeg coginio, ymolchi a golchi dillad
- awyru cefndir lefel isel parhaus lle bo angen
- dull awyru digonol i ymdopi â lleithder o weithgareddau domestig arferol heb fod angen agor ffenestri a allai arwain at golli gwres, sŵn a pheryglon diogelwch
- awyru priodol ar gyfer anheddau sydd â llawer o bobl yn byw ynddynt
Tymheredd mewnol
O fodloni’r rhan fwyaf o’r amodau uchod, yna gall cynnydd mewn tymheredd mewnol, gan ystyried arbed ynni a chost gwresogi, leihau problemau gwiddonau llwch yn sylweddol. Felly mae system wresogi effeithlon sy’n briodol ar gyfer ffabrig (nodweddion thermol) yr adeilad yn bwysig.
Beth am fflatiau a thai amlfeddiannaeth?
Mae mesurau ataliol yn bwysig iawn yma gan ei bod hi’n debyg y bydd pobl wedi’u cyfyngu i un neu ddwy ardal; sy’n eu gwneud yn fwy agored i niwed gan unrhyw damprwydd ac ati a allai fod yn bresennol.
2 Oerfel
Mae hyn yn cynnwys bygythiadau i iechyd pan fo tymheredd yn gostwng islaw’r lefelau boddhaol isaf am gyfnodau cymharol hir.
Achosion
- newidiadau yn y tymheredd y tu allan ymysg ffactorau eraill
- anheddau â sgoriau effeithlonrwydd ynni isel, wedi’u hinswleiddio’n wael neu wedi’u diogelu’n wael rhag yr elfennau (ffenestri neu ddrysau sydd wedi’u gosod yn wael
- yn gyffredinol, eiddo a adeiladwyd cyn 1850 sy’n fwy tueddol o fod yn oer, a’r tueddiad hwnnw’n lleihau rywfaint dros amser, a bod anheddau a adeiladwyd ar ôl 1980 yn fwy effeithlon o ran ynni
- dim systemau gwres canolog/systemau gwresogi aneffeithlon gwael
- llawer o leithder sy’n lleihau inswleiddio thermol
Camau gweithredu posibl gan y landlord
- lefelau priodol o inswleiddio thermol i golli cynlleied o wres â phosibl. Mae’r lefel yn dibynnu ar leoliad/oerfel/perthynas â chyfeiriadaeth anheddau/adeiladau eraill
- system wresogi briodol wedi’i gosod a’i chynnal a chadw’n briodol y gall y meddiannydd ei rheoli
- dull awyru cefndir lefel isel wedi’i osod a’i gynnal a chadw’n briodol y gall y meddiannydd ei reoli heb golli gormod o wres neu ormod o ddrafftiau
- agoriadau parhaol wedi’u lleoli’n briodol ac o faint priodol (e.e. briciau awyr/ffenestri y gellir eu hagor)
- estyll pen wrth ben/drysau/ffenestri wedi’u gosod yn briodol
Beth am fflatiau a thai amlfeddiannaeth?
Dylai systemau gwresogi a reolir yn ganolog weithredu mewn ffordd sy’n sicrhau nad yw’r trigolion yn profi tymheredd oer yn eu cartrefi. Dylent allu rheoli’r tymheredd yn eu cartref.
3 Gwres
Mae’r categori hwn yn cynnwys bygythiadau yn sgil tymheredd aer mewnol uchel iawn.
Achosion
- amodau awyru
- cynhwysedd thermol yr annedd – mae anheddau llai yn fwy tebygol o ddioddef nag anheddau mwy
- llawer o ffenestri mawr yn wynebu tua’r de
- rheolyddion gwres diffygiol neu is na’r safon
Camau gweithredu posibl gan y landlord
- gellir gosod caeadau neu fleindiau ar ffenestri mawr yn wynebu tua’r de i reoli gwres yn yr haf
- dulliau oeri yn ystod tywydd poeth yr haf, naill ai trwy awyru naturiol neu aerdymheru
- systemau gwresogi y gellir eu rheoli
Beth am fflatiau a thai amlfeddiannaeth?
Gall llawer o fflatiau a thai amlfeddiannaeth ddioddef o wres gormodol gan eu bod yn fwy tebygol o fod yn anheddau sydd:
- wedi’u hinswleiddio’n wael
- wedi’u lleoli’n union o dan do sydd heb ei inswleiddio
- yn wynebu’r de yn unig
- yn cynnwys systemau gwresogi nad yw’r trigolion yn eu rheoli
4 Asbestos a fibrau Mwynol a Weithgynhyrchwyd (MMF)
Yn cynnwys presenoldeb a dod i gysylltiad â ffibrau asbestos a Ffibrau Mwynol a Weithgynhyrchwyd (MMF, sy’n cynnwys gwlân mwynol a blancedi ffeibr gwydr) mewn anheddau. (Mae mathau gwyn, glas a brown o ffibrau asbestos wedi’u cynnwys, sef crysotil a’r ddau fath o amffibol.
Asbestos
- rhan o gasgliad eang o gynhyrchion adeiladu a welir yn y rhan fwyaf o dai a fflatiau a adeiladwyd gan ddefnyddio dulliau traddodiadol. Mewn mannau sy’n anhebygol o gael eu tarfu fel arfer felly mae lefelau ffibrau yn yr awyr yn dueddol o fod yn isel
- mwy o broblem mewn fflatiau anhraddodiadol neu a adeiladwyd gan ddefnyddio cydrannau parod rhwng 1945 ac 1980, oherwydd araenu drwy chwistrellu a chanolfuriau a deunyddiau crysotil mewn mannau sydd mewn perygl o gael eu difrodi neu darfu arnynt. Felly, mae lefelau ffibrau yn yr awyr yn uwch
- yr adeiladau sydd wedi’u heffeithio fwyaf yw tyrau fflatiau cyngor a adeiladwyd yn y 1950au a’r 1960au
MMF
Fe’i defnyddir mewn deunydd insiwleiddio atig a wal geudod yn bennaf. Ychydig iawn o ffibrau, os o gwbl, y mae cynhyrchion modern yn eu rhyddhau ac nid ydynt yn fio-barhaus felly ychydig iawn o risg a achosir ganddynt.
Camau gweithredu posibl gan y landlord
Asbestos:
- dylid asesu asbestos sydd wedi’i ddifrodi neu’n debygol o fod wedi’i ddifrodi neu darfu arno ar gyfer ei drwsio, ei selio, ei amgáu neu ei waredu gan gontractwyr trwyddedig yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
- gellir rheoli asbestos sy’n bresennol yn y fan a’r lle (ei orchuddio neu ei ddiogelu a monitro’r cyflwr) os yw mewn cyflwr da ac nad yw’n debygol y bydd yn cael ei ddifrodi/y bydd gwaith yn cael ei wneud arno/y bydd yn cael darfu arno
- cadw cofnod o leoliad yr asbestos yn yr adeilad
- ei ddiogelu rhag unrhyw ddifrod posibl gan feddianwyr.
MMF:
- lleihau cysylltiad posibl â ffibrau yn ystod gwaith cynnal a chadw/gosod/gwaredu
5 Bioladdwyr
Cemegion a ddefnyddir i drin pren a/neu dyfiant llwydni mewn anheddau yw’r rhain.
Mae’r potensial o niwed yn dibynnu ar y cemegyn a ddefnyddir ac mae pobl yn cael eu heffeithio drwy ei anadlu, wrth i’w croen ddod i gysylltiad ag ef ac wrth ei lyncu fel arfer.
Camau gweithredu posibl gan y landlord
Dylid trin yr annedd pan nad oes neb yn byw yno lle bo’n bosibl. Os nad yw hyn yn bosibl dylid dilyn y gweithdrefnau a’r mesurau diogelwch sy’n berthnasol i’r cynnyrch dan sylw.
6 Carbon monocsid a chynhyrchion tanwydd hylosgi (nitrogen deuocsid, sylffwr deuocsid a mwg)
Mae’r rhain i gyd yn gysylltiedig â hylosgiad rhannol nwy, olew, tanwydd solet ar gyfer gwresogi a choginio mewn anheddau.
Nitrogen deuocsid
- niwed resbiradol
- asthma wedi’i waethygu
- mwy o risg o haint bacterol a feirysol ar yr ysgyfaint
Sylffwr deuocsid
- broncitis a bod yn fyr o wynt yn sgil tanau agored
- asthma wedi’i waethygu
Achosion
Mae’r rhain i gyd yn deillio o hylosgi’r tanwydd yn anghyflawn neu’n amhriodol neu o rwystrau neu ddiffygion eraill yn y ffliw.
Carbon monocsid mewn anheddau:
- hylosgiad anghyflawn o bob tanwydd sy’n cynnwys carbon, nwy, olew a thanwydd solet
Nitrogen deuocsid:
- cynhyrchir gan gyfarpar sy’n llosgi nwy ac olew
Sylffwr deuocsid:
- arogl unigryw ac yn cael ei gynhyrchu gan gyfarpar sy’n llosgi olew a thanwydd solet yn bennaf
Camau gweithredu posibl gan y landlord
Carbon deuocsid, nitrogen deuocsid, sylffwr deuocsid
- gosod a chynnal a chadw cyfarpar llosgi nwy/olew/tanwydd solet yn briodol
- cyflenwad aer digonol ar gyfer cyfarpar o’r fath
- lleoliad a chysylltiad priodol gyda ffliwiau o faint digonol
- awyriad digonol mewn ystafelloedd sydd â chyfarpar o’r fath, gan gynnwys system echdynnu lle bo angen
- cynnal a chadw ffliwiau, ffaniau echdynnu a chyfarpar awyru yn rheolaidd
- gosod ffliwau mewn cyfarpar gwresogi nwy i sicrhau bod aer yn llifo’n gytbwys y tu mewn a’r tu allan
- cyntedd wedi’i awyru rhwng garej fewnol a’r ardal fyw
- synwyryddion carbon monocsid wedi’u lleoli mewn mannau priodol a’u cynnal a chadw’n briodol
- cynnal a chadw larymau carbon monocsid yn rheolaidd
Gweler hefyd Ran 2 o’r canllawiau hyn.
7 Plwm
Mae yna ddwy brif ffynhonnell o amgylch anheddau – paent a phibellau dŵr. Gall ffynonellau plwm eraill gynnwys pridd, yn enwedig o amgylch adeiladau hŷn sydd â phaent allanol yn fflawio ac ardaloedd o amgylch safleoedd diwydiannol sy’n defnyddio (neu wedi bod yn defnyddio) plwm. Gellir cael olion plwm mewn pridd gerllaw ffyrdd prysur hefyd yn sgil mwg o bibellau mwg ceir petrol plwm.
Camau gweithredu posibl gan y landlord
Gall presenoldeb plwm mewn dŵr yfed ddeillio o bibellau plwm ond gall ddeillio o sodr plwm hefyd. Mae’n amhosibl dweud y gwahaniaeth rhwng sodr plwm a sodr di-blwm ar uniadau pibellau dim ond drwy edrych arnynt. Yr unig ffordd o wneud yw cynnal prawf arbenigol ar y soldr. Atal yw’r cam gorau, defnyddiwch blymwr ag enw da bob amser a gwirio ei fod yn defnyddio sodr di-blwm ar eich system ddŵr.
Os ydych chi’n pryderu am bibellau plwm neu sodr plwm gallwch gael eich dŵr wedi’i brofi am blwm. Cysylltwch â’ch cwmni dŵr os oes gennych chi brif gyflenwad dŵr neu eich awdurdod lleol os oes gennych chi gyflenwad dŵr preifat. Mae rhai cwmnïau fel Dŵr Cymru yn cynnig profion plwm am ddim i gwsmeriaid ar gais.
8 Ymbelydredd
Y brif ffynhonnell o ymbelydredd niweidiol mewn anheddau yw nwy radon. Nid oes gan radon liw nac arogl ac mae’n cael ei ffurfio wrth i symiau bach o wraniwm sydd i’w gael yn naturiol mewn creigiau a phridd ddadfeilio’n ymbelydrol. Nid oes posibl ei ganfod yn yr aer nac mewn dŵr heb brofi a mesur. Gall radon doddi mewn dŵr, yn enwedig cyflenwadau dŵr preifat, ond radon yn yr awyr sy’n achosi bygythiad mwy arwyddocaol.
Faint o radon sy’n destun pryder?
Mae radon yn cael ei fesur mewn Becquerels fesul metr ciwbig o aer (Bqm-3). Y lefel gyfartalog yng nghartrefi’r DU yw 20 Bqm-3. Yn achos lefelau o dan 100 Bqm-3 mae’r risg yn parhau’n gymharol isel ac nid yw’n destun pryder. Fodd bynnag, mae’r risg yn cynyddu wrth i lefel y radon gynyddu. Mewn eiddo domestig mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n argymell y dylid lleihau lefelau radon pan fo’r cyfartaledd yn uwch na Lefel Gweithredu o 200 Bqm-3. Mae’r Lefel Gweithredu’n cyfeirio at y crynodiad cyfartalog blynyddol fel sy’n cael ei fesur gan ddefnyddio dau synhwyrydd (mewn ystafell wely ac ystafell fyw) dros dri mis, i gael darlun iawn heb amrywiadau tymor byr.
Mae cyngor ychwanegol ar gael gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
9 Nwy tanwydd nas hylosgwyd
Mae’r perygl hwn yn cynnwys perygl o fygu yn sgil nwy tanwydd yn dianc i atmosffer yr annedd.
Camau gweithredu posibl gan y landlord
- dylid cael rheoleiddwyr pwysedd, mesuryddion a phibellau sydd wedi’u cynllunio a’u gosod yn briodol
- dylid profi’r gosodiad yn rheolaidd i sicrhau nad oes gollyngiadau na diffygion eraill, yn enwedig pan fo newidiadau wedi’u gwneud i’r annedd neu i’r gosodiadau nwy
- dylid cynllunio a gosod unrhyw gyfarpar yn briodol. Dylent gael eu gwasanaethu a’u cynnal a chadw’n rheolaidd gan berson cymwys
- yn achos LPG, sy’n drymach nag aer, dylid cael dull awyru lefel isel digonol neu ddull o sicrhau bod unrhyw nwy sy’n dianc yn gallu draenio’n ddiogel. Mae hyn yn bwysig iawn pan fo lefel y llawr yn is na lefel y ddaear gerllaw
- mae synwyryddion nwy ar gael a ddylai roi rhybudd i feddianwyr os oes nwy tanwydd yn crynhoi yn yr annedd, gan eu galluogi i gymryd camau a/neu ddianc. Bydd lleoliad priodol y synwyryddion yn dibynnu ar pa nwy sy’n cael ei gyflenwi
10 Cyfansoddion organig anweddol
Casgliad o gemegolion organig yw’r rhain sy’n nwyol ar dymheredd ystafell ac i’w cael mewn amrywiaeth eang o ddeunyddiau yn y cartref. Caiff fformaldehyd ei gynnwys yn y perygl hwn. Pobl mewn anheddau newydd/adnewyddedig sydd fwyaf tebygol o ddod I gysylltiad â chyfansoddion organig anweddol.
Achosion
Mae Cyfansoddion Organig Anweddol yn cynhyrchu anwedd ar dymheredd ystafell. Mae ffynonellau y gall y landlord eu rheoli fel arfer yn cynnwys:
- inswleiddiad ewyn fformaldehyd wrea (UFFI)
- bwrdd gronynnau, bwrdd asglodion, pren haenog
- paent, glud, toddyddion
Nid yw lefelau nodweddiadol o gyfansoddion organig anweddol cymaint â phosibl yng nghartrefi’r DU yn achosi risg i iechyd. Fodd bynnag, gellir dod i gysylltiad â lefelau uwch, er enghraifft yn ystod paentio am gyfnod hir. Mae tymheredd, lleithder cymharol, cyfraddau awyru a gweithgarwch meddianwyr yn effeithio ar gyfraddau allyriadau. Mae allyriadau o ddeunyddiau adeiladu a thriniaethau’n gostwng fel arfer dros y flwyddyn gyntaf, er y bydd cyfraddau awyru’n effeithio arnynt. Bydd pethau fel carpedi a ffabrigau eraill yn amsugno cyfansoddion organig anweddol (neu efallai y byddant wedi’u trin ymlaen llaw) a byddant yn eu rhyddhau’n ddiweddarach.
Camau gweithredu posibl gan y landlord
Dylid lleihau allyriadau o gyfansoddion organig anweddol o ddeunyddiau adeiladu a thriniaethau ac o ddodrefn a deunyddiau. Dylid defnyddio deunyddiau a chynhyrchion allyriadau isel lle bo’n bosibl. Dylid darparu dull o sicrhau awyru digonol a phriodol mewn anheddau hefyd. Dylai landlordiaid gymryd gofal arbennig wrth wneud newidiadau neu waith atgyweirio i’r annedd sy’n debygol o gynyddu presenoldeb cyfansoddion organig anweddol. Bydd hyn yn destun pryder pan fydd yna system awyru annigonol neu un wedi’i difrodi.
11 Gorboblogi a gofod
Mae hyn yn cynnwys yr holl beryglon sy’n gysylltiedig â diffyg lle a gorboblogi. Mae’n ystyried anghenion seicolegol ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol/preifatrwydd. Mae’n edrych hefyd ar effeithiau gorboblogi ar ofynion gofod ar gyfer gweithgarwch yn y cartref.
Fel isafswm, dylai landlordiaid sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion Rhan 10 o Ddeddf Tai 1985 bob amser. Gallai methu â bodloni’r gofynion hyn gyfrif fel trosedd.
12 Tresbaswyr yn dod I mewn
Mae’r perygl hwn yn ymwneud â chadw’r annedd yn ddiogel rhag mynediad anawdurdodedig a chynnal ei diogelwch.
Achosion
- lleoliad – ardal sydd â lefelau uchel o dlodi a throseddu
- diffyg goleuadau da ger yr annedd
- drysau a ffenestri – wedi’u hadeiladu/gosod yn wael/mewn cyflwr gwael/cloeon annigonol
- dim ffordd o weld pwy sydd y tu allan i ddrysau allanol
- dim cadwyn ddiogelwch ar ddrysau allanol neu maent wedi torri
- dim gofalwr/system ffôn mynediad i floc o fflatiau
- dim systemau larwm lladron neu maent yn ddiffygiol
Camau gweithredu posibl gan y landlord
- cynllunio’r ystâd a’r ardal o amgylch yr annedd i leihau llefydd cuddio cymaint â phosibl (e.e. ffensys ac ati) i ladron a thresbaswyr
- llwybrau cerdded wedi’u goleuo a’u diffinio’n dda
- diogelu’r annedd rhag mynediad anawdurdodedig er mwyn oedi ac atal tresbaswyr a gwneud i’r meddianwyr deimlo’n fwy diogel
- bod yr holl gloeon ffenestri a’r cloeon allweddi’n gweithio’n iawn a’u bod yn addas gan osod rhai newydd pan fo angen
- goleuadau diogelwch/rhwyllau mewnol
- twll sbecian a chadwyni addas sy’n gweithio ar ddrysau mynediad, gan osod rhai newydd lle bo’n briodol
Mae’n rhaid cael cydbwysedd rhwng diogelwch yr annedd a’r potensial i gynyddu peryglon eraill e.e. drysau a ffenestri wedi’u cloi a ffordd o ddianc pan fo tân.
Beth am fflatiau a thai amlfeddiannaeth?
Mae concierge, systemau gofalwyr a rheolyddion ffôn mynediad yn lleihau troseddu/ofn troseddu. Dylid ystyried diogelwch yr adeilad cyfan yn ogystal â diogelwch rhwng trigolion unigol yr un adeilad.
13 Goleuo
Mae’n cynnwys bygythiadau i iechyd corfforol a meddyliol sy’n gysylltiedig â golau naturiol/artiffisial annigonol. Mae’n cynnwys yr effaith seicolegol sy’n gysylltiedig â’r hyn a welir drwy ffenestri’r annedd hefyd.
Camau gweithredu posibl gan y landlord
Cynllun mewnol yr annedd, yn enwedig ystafelloedd byw a cheginau. Dylai bod yna ddigon o olau naturiol yn ystod oriau’r dydd er mwyn gallu cyflawni tasgau domestig heb roi straen ar y llygaid. Dylai ffenestri fod o faint digonol, ac o siâp a lleoliad priodol i alluogi i ddigon o olau dydd ddod i mewn i ystafelloedd. Dylid lleoli goleuadau artiffisial i ddarparu digon o olau i allu gwneud gweithgareddau domestig a hamdden heb roi straen ar y llygaid a heb greu llacharedd neu gysgodion. Mae golau artiffisial yn bwysig iawn pan fo tasgau domestig yn gofyn am ddigon o olau, er enghraifft yn y gegin dros arwynebau gwaith, sinciau a phoptai. Dylai ffenestri fod yn ddigon llydan i gael golwg rhesymol o’r ardal gyfagos.
14 Sŵn
Mae hyn yn cynnwys bygythiadau i iechyd corfforol a meddyliol o fod yn agored i sŵn yn y cartref yn sgil diffyg inswleiddio digonol rhag sŵn. Nid yw’n cwmpasu ymddygiad swnllyd afresymol gan gymdogion (domestig neu fasnachol).
Camau gweithredu posibl gan landlordiaid
- y potensial ar gyfer sŵn traffig yn ystod y nos
- lleoliad yr annedd mewn amgylchedd swnllyd iawn
- inswleiddio mewnol annigonol
- lefelau annigonol o inswleiddio sŵn allanol
- ffenestri/drysau mewnol/allanol mewn cyflwr gwael ac yn gadael mwy o sŵn i mewn
- gwaith plymio/ffitiadau/cyfleusterau wedi’u gosod mewn mannau amhriodol
- cyfarpar neu gyfleusterau swnllyd
- caewyr drysau rhy gryf sy’n arwain at ddrysau’n cau’n swnllyd
- ffenestri dwbl/eilaidd a chynteddau ger drysau allanol pan mae yna lefelau uchel o sŵn y tu allan (e.e. traffig)
- ffenestri triphlyg o bosibl ger meysydd awyr/ffynonellau lefel sŵn uchel iawn
- inswleiddio llawr uchaf/nenfwd/atig pan mae sŵn awyrennau’n debygol
- gosod gwaith plymio o ystafelloedd ymolchi a thoiledau yn ddigon pell oddi wrth waliau gwahanu
- peidio â gosod ystafelloedd ymolchi/toiledau mewn fflatiau uwchben ystafelloedd byw/ystafelloedd gwely
- adeiladu/trosi canolfuriau a gwahanfuriau’n well yn enwedig mewn fflatiau/fflatiau deulawr
15 Hylendid domestig, plâu a sbwriel
Mae hyn yn ymwneud â diogelu rhag haint. Mae’n cynnwys peryglon sy’n deillio o:
- dyluniad, cynllun neu adeiladwaith gwael fel ei bod yn anodd cadw’r annedd yn lân a hylan
- bod plâu yn gallu cael mynediad a lloches yn yr annedd
- darpariaeth annigonol ac anhylan ar gyfer storio a gwaredu gwastraff tŷ
Achosion
- gwastraff wedi crynhoi/ei storio’n annigonol sy’n denu pryfaid/llygod/plâu/adar/gwiwerod/llwynogod/cathod/cŵn
- pibellau gwasanaeth a thyllau o amgylch pibellau e.e. gwres canolog, yn rhoi cartref i bryfaid ac yn rhoi mynediad rhwng anheddau mewn blociau
- llygod yn cael mynediad i ddraeniau agored
- llygod yn cael mynediad drwy ddrysau a ffenestri wedi’u gosod yn wael
- plâu yn cael mynediad drwy waliau mewnol a/neu nenfydau anwastad a/neu wedi cracio
- briciau ar goll/wedi’u difrodi yn cynnwys briciau awyr mewn waliau allanol a rhannau eraill o waliau allanol a tho mewn cyflwr gwael
- mae tai amlfeddiannaeth yn agored iawn i rai mathau o bla pryfaid
Camau gweithredu posibl gan y landlord
- dylai cynllun/adeiladwaith a gwaith cynnal a chadw adeilad helpu i’w gadw’n lân gan atal baw a llwch rhag crynhoi
- dylid gallu cadw mannau ymolchi personol / glanweithdra / paratoi bwyd / coginio / storio yn hylan
- lleihau neu ddileu’r ffyrdd mae plâu’n cael mynediad i adeiladau. A yw’r holl arwynebau mewnol yn hawdd i’w glanhau ac a ddefnyddir deunydd gwrth-blâu lle bo’n bosibl
- ni ddylai fod craciau na thyllau heb eu gorchuddio ar du allan yn yr annedd, fel arall dylid defnyddio rhwyllau neu ddulliau eraill o ddiogelu
- selio pibellau gwasanaethau/atig/lloriau yn effeithiol ond gyda mynediad addas os oes angen eu trin
- selio agoriadau draeniau, basinau ystafelloedd ymolchi gyda sêl ddyfrglos effeithiol
- selio mewnfeydd draenio ar gyfer dŵr gwastraff a dŵr wyneb
- selio unrhyw bwyntiau mewn waliau sy’n cynnwys pibellau gwastraff, draenio neu bibellau a cheblau eraill yn effeithiol
- cau tyllau drwy orchuddiadau to, bondo ac ymylon i atal mynediad i lygod mawr/llygod/gwiwerod/adar. Gosod rhwyllau i orchuddio tyllau angenrheidiol
- lle storio digonol caeedig ar gyfer gwastraff sy’n aros i gael ei gasglu neu ei waredu y tu allan i annedd
- lle storio addas ar gyfer sbwriel yn yr annedd
- lle storio i fod yn hygyrch i feddianwyr ond nid yn berygl i blant
- ni ddylai cyfleusterau gwastraff achosi problemau hylendid
Beth am dai amlfeddiannaeth?
- dylai fod lle wedi’i ddiffinio’n glir ar gyfer cynwysyddion gwastraff – yn yr awyr agored/yn ddigon pell oddi wrth ffenestri/awyryddion, ac yn y cysgod neu dan gysgod;
- gellir defnyddio twll sbwriel neu gynwysyddion storio gwastraff gydag awyru digonol;
- argymhellir defnyddio tyllau sbwriel cymunedol gyda thai amlfeddiannaeth sy’n fwy na phedwar llawr. Dylent ollwng y sbwriel i gynwysyddion mawr mewn lle storio
- dylid cynllunio llefydd storio i leihau achosion o blâu
- dylid eu cynllunio mewn ffordd sy’n atal aer o’r lle storio rhag mynd i unrhyw le byw
16 Diogelwch bwyd
Yn cynnwys y bygythiad o haint sy’n deillio o gyfleusterau annigonol ar gyfer storio, paratoi a choginio bwyd.
Achosion
- mae craciau/tyllau mân/difrod arall i arwynebau mewnol sinciau ac arwynebau gwaith yn atal rhoi cyfle trylwyr ac yn gadael i organebau pathogenig a rhai sy’n difetha bwyd gronni
- gall arwynebau sydd wedi’u heffeithio â thamprwydd ddirywio a throi’n frau/fflawiog gan ddenu micro-organebau
- gall amodau llaith achosi i fwyd bydru’n gynt
- mewn tai amlfeddiannaeth mae yna duedd bod mwy o ddryswch ynglŷn â phwy sy’n gyfrifol am gadw’r gegin yn lân
- mewn tai amlfeddiannaeth mae yna fwy o risg o haint pan mae mwy o bobl yn rhannu cyfleusterau
Camau gweithredu posibl gan y landlord
Yn gyffredinol, dylai cyfleusterau cegin fod mewn ystafell neu ardal wedi’i chynllunio’n briodol neu ardal i baratoi a choginio bwyd yn ddiogel a hylan.
Storio:
- lle storio addas ar gyfer bwyd i arafu’r broses ddirywio a phydru
- dylai cyfleusterau fod o faint digonol ar gyfer nifer y meddianwyr er mwyn storio bwydydd ffres yn hylan
- dylai fod cyfleusterau ar gyfer cwpwrdd bwyd/pantri, oergell a rhewgell gyda socedi priodol
- dylai fod gan gyfleusterau o’r fath arwynebau anhydraidd er mwyn gallu eu glanhau’n hawdd a’u cadw’n hylan
- silffoedd gwahanol i wahanol fwydydd
- dylai cyfleusterau fod yn oer a sych ac nid yng ngolau’r haul
Mannau paratoi:
- dylai fod sinc o faint digonol/sinc dwbl heb graciau, tyllau mân na difrod arall a draeniwr
- dŵr poeth ac oer
- draeniad addas ar gyfer dŵr gwastraff
- arwynebau gweithio o faint addas, wedi’i gosod yn ddiogel; arwyneb anhydraidd llyfn, hawdd i’w lanhau
- pedwar soced trydan priodol o leiaf ar gyfer yr arwyneb(au) gweithio a dau at ddefnydd cyffredinol
Coginio:
- dylai cyfleusterau fod o faint digonol ar gyfer y cartref gyda chysylltiadau priodol ar gyfer tanwydd (nwy neu drydan)
- dylid gallu eu glanhau’n hawdd a’u cynnal a chadw mewn cyflwr hylan
Dyluniad, cynllun a chyflwr:
- dylai llawr y gegin fod yn gymharol lyfn ac anhydraidd er mwyn gallu ei lanhau’n hawdd a’i gadw’n hylan
- dylid selio a gorchuddio corneli ac uniadau i osgoi uniadau na ellir eu glanhau
- dylai arwynebau waliau fod yn llyfn, neu gyda gorffeniad anhydraidd ac yn hawdd i’w glanhau, yn enwedig y rhai ger popty/sinc/draenwr ac arwynebau gweithio
- dylid selio uniadau rhwng sinc/draeniwr/arwyneb gweithio a’r wal gyfagos a sicrhau eu bod yn ddyfrglos
- dylai cynllun/y cysylltiad rhwng cyfleusterau hwyluso camau paratoi, coginio a gweini bwyd
- dylid cael golau digonol a phriodol yn enwedig dros y cyfleusterau
- dylid awyru’r gegin i gyd yn addas, yn enwedig yr ardal goginio
Beth am fflatiau a thai amlfeddiannaeth?
Llawer o’r un darpariaethau ag ar gyfer anheddau sengl ond mae cyfleusterau a rennir angen popty/hob/gofod o faint digonol. Bydd asesiad o beryglon yn canolbwyntio ar:
- y cyfleusterau sydd ar gael
- y gymhareb rhwng cyfleusterau a meddianwyr (posibl)
- pa mor hawdd y gall y meddianwyr gynnal arferion bwyd diogel
- a yw’r bobl sy’n defnyddio’r gegin yn rhan o’r un cartref neu beidio
- bod cyfleusterau a rennir yn cynyddu peryglon oherwydd diffyg cyfathrebu/cydweithredu
17 Hylendid personol, glanweithdra a draeniau
Yn cynnwys bygythiadau o haint/bygythiadau i iechyd meddwl yn gysylltiedig â’r uchod, yn cynnwys cyfleusterau ymolchi personol a golchi dillad.
Achosion
Hylendid/glanweithdra personol:
- unrhyw ddiffygion yn y cyfleusterau eu hunain yn arwain at rannu gormodol, megis dim digon o ystafelloedd ymolchi i nifer y bobl sy’n byw yno
- craciau, tyllau mân neu ddifrod arall i arwynebau cyfleusterau mewnol
- posibilrwydd o ddwylo yn dod i gysylltiad â sedd/basn y toiled
Draenio:
- gollwng gwastraff budr heb ei drin i lwybrau/gerddi
- gollwng dŵr gwastraff i lwybrau/gerddi
Tai amlfeddiannaeth
- mwy o risg o haint wrth rannu cyfleusterau hylendid/glanweithdra personol, yn enwedig pan fydd salwch heintus mewn cartrefi
- mwy o risg o haint oherwydd cymhareb uwch rhwng pobl a chyfleusterau
- cyfleusterau a all fod yn gollwng ond nad yw’r defnyddwyr yn gwybod am hynny, ac sy’n effeithio ar wahanol anheddau yn yr un adeilad
Camau gweithredu posibl gan y landlord
Hylendid personol:
- digon o faddonau / cawodydd wedi’u gosod a’u cysylltu’n briodol
- ystafell ymolchi neu ystafell gawod yn breifat, gyda gwres, golau ac awyriad
- digon o sinciau golchi dwylo wedi’u cysylltu a’u lleoli’n addas i’r meddianwyr
- sinciau wedi’u cysylltu’n addas ac sy’n hawdd i’w glanhau gyda draeniad gwastraff priodol ar gyfer pob annedd
- Cyfleusterau priodol ar gyfer golchi a sychu dillad gyda socedi trydan ac allanfeydd awyru gerllaw
Glanweithdra (darparu):
- basn toiled wedi’i osod yn briodol / wedi’i gysylltu’n ddiogel / sy’n hawdd i’w lanhau gyda chaead / sedd golfachog o ddeunydd anhydraidd
- wedi’i gysylltu â system fflysio sy’n gweithio’n briodol
- wedi’i gysylltu â system ddraenio briodol / ddigonol
- nifer toiledau i gyfateb i nifer y lefelau yn yr annedd a nifer y bobl (waeth beth fo’u hoedran)
- toiledau ar wahân i ystafelloedd ymolchi
- toiledau / ystafelloedd ymolchi i gael eu hawyru i aer allanol
- drysau y gellir eu cloi y tu mewn i doiledau / ystafelloedd ymolchi ond y gellir eu hagor mewn argyfwng
Draenio:
- gollwng dŵr gwastraff i fewnfeydd draenio â thrap/draeniau fertigol wedi’u cynllunio’n briodol sy’n gysylltiedig â’r brif system garthffosiaeth
- suddfannau dŵr wedi’u cynllunio’n briodol ar gyfer triniaeth breifat neu system storio ar gyfer carthffosiaeth fudr
- systemau i gael eu hawyru i atal trapiau a chyfleusterau sy’n gysylltiedig â charthffos rhag gweithredu fel siffon
- gollwng dŵr arwyneb i fewnfeydd draenio â thrap wedi’u cynllunio’n briodol sydd wedi’u cysylltu â’r brif system ddraenio
Beth am fflatiau a thai amlfeddiannaeth?
Dylid ystyried pob annedd ar wahân ac unrhyw gyfleusterau a rennir.
18 Cyflenwad dŵr
Mae hwn yn gyfyngedig i’r cyflenwad ar ôl iddo gyrraedd yr annedd ac yn ymwneud â dŵr ar gyfer yfed, coginio, golchi, glanhau a glanweithdra.
Camau gweithredu posibl gan y landlord
- darparu a chynnal pibellau dŵr a chyfleusterau storio yn unol â gofynion BS8558
- systemau plymio i fodloni gofynion Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) 1999
- samplu a dadansoddi cyflenwadau dŵr yfed preifat a gaiff eu storio yn rheolaidd
- gorchuddio tanciau i atal halogiad (h.y. adar/pryfaid ac ati)
- defnyddio deunyddiau priodol ar gyfer pibellau/tanciau storio/ffitiadau
- cynnal hidlwyr dŵr a systemau meddalu’n briodol
19 Cwympo yn gysylltiedig â baddonau ac ati
Yn cynnwys unrhyw gwympo sy’n gysylltiedig â baddon, cawod neu gyfleuster tebyg, waeth a yw’r cwympo ar yr un lefel neu o un lefel i un arall.
Camau gweithredu posibl gan y landlord
Lleoli baddon, cyfleuster neu gyfleuster tebyg i sicrhau bod modd mynd i mewn ac allan yn ddirwystr a’i fod wedi’i osod yn ddiogel.
20 Cwympo ar arwynebau
Yn cynnwys cwympo ar unrhyw arwyneb gwastad fel lloriau, iardiau a llwybrau. Hefyd stepiau / rhiniog / rampiau/stepiau baglu lle mae’r newid mewn lefel yn llai na 300mm.
Camau gweithredu posibl gan y landlord
Dylai landlordiaid gynnal archwiliadau gweledol i sicrhau bod y risg o beryglon baglu’n cael eu lleihau e.e. carpedi wedi rhwygo/torri, estyll rhydd ar loriau ac ardaloedd palmantog wedi torri ac ati. Bydd golau digonol yn helpu defnyddwyr i weld unrhyw rwystrau ac unrhyw stepiau baglu neu riniog ymestynnol.
21 Cwympo ar risiau ac ati
Yn cynnwys unrhyw gwympo sy’n gysylltiedig â newid mewn lefel sy’n fwy na 300mm ac yn cynnwys cwympo sy’n gysylltiedig â:
- grisiau mewnol neu rampiau yn yr annedd
- stepiau allanol neu rampiau yng nghyffiniau’r annedd
- grisiau neu rampiau cyffredin mewnol yn yr adeilad sy’n cynnwys yr annedd ac sy’n rhoi mynediad i’r annedd neu gyfleusterau a rennir
- stepiau neu rampiau allanol yng nghyffiniau’r adeilad sy’n cynnwys yr annedd ac sy’n rhoi mynediad i’r annedd neu gyfleusterau a rennir
Nid yw’n cynnwys rhiniog/rampiau/stepiau baglu pan fo’r newid mewn lefel yn llai na 300mm. Ystyrir y rhain fel cwympo ar arwynebau gwastad.
Dylai landlordiaid ystyried y mesurau ataliol canlynol
- dimensiynau wyneb llorweddol gris i fod rhwng 280mm a 360mm
- dimensiynau wyneb fertigol gris i fod rhwng 100mm a 180mm
- goleddf (ongl y grisiau) i fod yn llai na 42°
- gwirio’r grisiau i weld a ydynt yn fwy serth neu bas na’r cyffredin
- dimensiynau wynebau fertigol grisiau ac ymyl flaen i ymyl flaen yn gyson/unffurf (ac eithrio newid amlwg yng nghyfeiriad y grisiau e.e. defnydd o risiau â thro ynddynt)
- ni ddylai ymyl flaen ymestyn mwy na 18mmm y tu hwnt i unrhyw wyneb llorweddol
- dylai wynebau llorweddol ac ymylon blaen ddarparu ffrithiant priodol (carped ac ati os yn bosibl)
- darparu carped/ryg ac ati ar waelod grisiau i helpu i leddfu ardrawiad posibl
- dylai agoriadau mewn grisiau neu fanister fod yn llai na 100mm
- osgoi wyneb llorweddol chwith a dde am yn ail ar risiau, yn enwedig y rhai nad ydynt yn cydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu cyfredol
- mae’n rhaid darparu canllawiau/banisterau bob ochr i’r grisiau
- mae’n rhaid gosod canllawiau rhwng 900mm a 1000mm wedi’i fesur o ben y canllaw i’r llinell ogwydd neu’r llawr / rhaid gallu gafael ynddo’n hawdd / rhaid iddo ymestyn o un pen i’r grisiau i’r llall
- cynllunio i atal dringo
- dylai lled y grisiau fod yn 900mm-1000mm o leiaf
- darparu digon o le pen grisiau/lle ar y llawr yn arwain at y grisiau (y pen uchaf a’r gwaelod) fel y gall y defnyddiwr wirio cychwyn/dimensiynau’r grisiau a’r stepiau
- golau naturiol digonol ar ben a gwaelod y grisiau
- golau artiffisial digonol ar ben a gwaelod y grisiau
- dull digonol a chyfleus o reoli’r golau artiffisial
- dim llacharedd o olau naturiol/artiffisial
- osgoi drysau sy’n agor yn uniongyrchol ar risiau neu ben y grisiau gan achosi rhwystr neu gynyddu tebygolrwydd o gwympo
- osgoi pethau sy’n estyn allan ac ymylon miniog ar risiau a gwydr neu reiddiaduron wrth droed grisiau
- dylid cadw holl elfennau grisiau a stepiau mewn cyflwr da
- dylid gwresogi ac inswleiddio pob annedd yn ddigonol i osgoi amharu ar symud a theimlad
22 Cwympo rhwng lefelau
Yn cynnwys cwympo rhwng dwy lefel o fewn a thu allan i annedd neu adeilad lle mae’r newid mewn lefel yn fwy na 300mm. Yn cynnwys cwympo allan o anheddau, e.e. ffenestri, balconïau, toeau hygyrch a thros reiliau pen grisiau. Mae hefyd yn cynnwys cwympo o unrhyw newid arall mewn lefel lle nad oes grisiau neu stepiau (e.e. dros reiliau diogelwch i ystafelloedd orielog/seleri neu i waliau cynhaliol mewn gardd).
NID yw’n cynnwys cwympo o risiau/stepiau/rampiau/cadeiriau/byrddau/ysgolion.
Camau gweithredu posibl gan y landlord
Dylai landlordiaid gynnal archwiliadau gweledol i sicrhau bod tebygolrwydd cwympo rhwng lefelau’n cael ei leihau cyn belled â phosibl.
23 Peryglon posibl gyda thrydan
Yn cynnwys peryglon o sioc a llosgi yn sgil dod i gysylltiad â thrydan ond nid peryglon sy’n gysylltiedig â thân a achosir gan ddiffygion gosodiadau trydanol e.e. tân a achosir gan gylched fer.
Camau gweithredu posibl gan y landlord
- sicrhau bod gosodiad gwifrau trydanol yn bodloni gofynion diweddaraf y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg/Safon Brydeinig (BS 7671) (ar gael mewn llyfrgelloedd cyfeirio lleol yn aml)
- digon o socedi trydan mewn lleoliadau priodol
- ffiwsys a mesuryddion mewn lleoliadau priodol
- system drydanol wedi’i daearu’n ddigonol
- cadw gosodiadau h.y. cyflenwad, mesuryddion, ffiwsys, gwifrau, socedi, ffitiadau a switsys golau mewn cyflwr da
- peidio rhoi gosodiadau trydanol yn agos at ddŵr yn cynnwys mannau tamp
- cadw System Diogelu rhag Mellt mewn cyflwr da
Gweler hefyd Ran 2 o’r canllawiau hyn.
24 Tân
Yn cynnwys bygythiadau yn sgil tân damweiniol heb ei reoli (yn hytrach na thân bwriadol) ac unrhyw fwg cysylltiedig.
Achosion
Gall ymateb meddianwyr wrth ddarganfod tân ddylanwadu ar eu gallu i ddianc o bosibl, ond mae ffactorau sy’n achosi tân yn gallu cynnwys:
- ffynonellau tanio (cyfarpar coginio/gwresogyddion/cyfarpar trydanol)
- mae tanwydd solet fel prif danwydd yn arwain at fwy o debygolrwydd o dân er gyda chyfradd farwolaeth is nag o wresogyddion nwy/trydan
- cyfarpar dosbarthu trydan mewn cyflwr gwael
- natur niwed/difrod wedi’i ddylanwadu gan bresenoldeb/absenoldeb systemau canfod/larwm tân awtomatig
Camau gweithredu posibl gan y landlord
- lleoli poptai’n ddiogel, heb fod yn agos at ddeunyddiau fflamadwy
- gwresogyddion wedi’u cynllunio/gosod/gwasanaethu/cynnal a chadw’n briodol
- digon o socedi trydan wedi’u gosod mewn mannau priodol
- bwrdd dosbarthu a gwifrau wedi’u gosod/cynnal a chadw’n briodol a’u gwirio a’u profi’n rheolaidd
- dyfeisiau Cerrynt Gweddillol
- defnyddio deunyddiau gwrthsefyll tân a mwg hydraidd wrth gynllunio’r adeilad lle bo’n bosibl
- atalfeydd tân i geudodau yn cynnwys systemau awyru a gwresogi
- cynllunio ac adeiladu’r adeilad i gyfyngu ar ledaeniad tân/mwg
- drysau mewnol wedi’u hadeiladu/gosod yn briodol gyda hunan-gaewyr lle bo’n briodol
- dodrefn sy’n cydymffurfio â’r rheoliadau cyfredol (Rheoliadau Dodrefn a Deunyddiau (Tân) (Diogelwch) 1988 fel y’u diwygiwyd) mewn llety wedi’i ddodrefnu
- cynllunio a lleoli synwyryddion a larymau mwg yn briodol a’u cynnal a’u cadw a’u profi’n rheolaidd
- diffoddwyr tân a blancedi tân wedi’u lleoli’n briodol (yn enwedig yn y gegin)
- ffordd o ddianc o bob rhan o annedd/adeilad e.e. ffenestr drws y gellir ei hagor/grisiau wedi’u diogelu ac ati/yn dibynnu ar uchder yr adeilad
Beth am dai amlfeddiannaeth?
- mae mwy o danau’n digwydd mewn fflatiau na thai
- mae tân yn llai tebygol mewn heddau a adeiladwyd ar ôl 1980
- mae marwolaeth/anaf yn sgil tân fwyaf tebygol mewn anheddau a adeiladwyd cyn 1920
- mae’r perygl yn cynyddu gydag uchder/nifer y lloriau felly
- mae angen ffordd ddigonol o ddianc rhwng pob annedd
- mae angen system darganfod tân/larymau/argyfwng wedi’i chydgysylltu
- mae angen systemau golau a gwasgaru dŵr ac ati mewn argyfwng
Gweler hefyd Ran 2 o’r canllawiau hyn.
25 Fflamau, arwynebau poeth ac ati
Mae hyn yn ymwneud ag anafiadau yn sgil:
- llosgiadau a achosir wrth ddod i gysylltiad â thân sydd o dan reolaeth neu fflam boeth neu bethau poeth neu hylifau poeth nad ydynt yn ddŵr
- sgaldiadau a achosir wrth ddod i gysylltiad â hylifau ac anwedd dyfrllyd
Mae hefyd yn cynnwys llosgiadau a sgaldiadau o fwyd a diod yn colli neu’n tasgu wrth goginio a pharatoi diodydd poeth. Nid yw’n cynnwys llosgiadau o dân heb ei reoli mewn annedd.
Mae achosion yn cynnwys
- arwynebau poeth noeth o 70°C neu fwy
- fflamau agored heb eu gwarchod – gwresogyddion lle neu ddŵr
- dŵr tap yn rhy boeth – mwy na 60°C
- dim tapiau rheoli gwres neu dapiau cymysgu rheoli gwres a gosodiadau gwrth-sgaldio wedi’u gosod yn anghywir
- cynllun y gegin yn wael, yn enwedig pan fo’r popty yn y lleoliad anghywir
- ardal goginio/cegin ddim digon pell o’r ardal fyw neu gysgu
Camau gweithredu posibl gan y landlord
- dyluniad a chynllun y gegin, yn cynnwys lleoliad y popty, cynllun a rheolyddion cyfarpar gwresogi
- tanau a gwresogyddion – dylid gwarchod unrhyw fflam agored i atal dillad rhag mynd ar dân
- dylid gorchuddio arwynebau os yw’r tymheredd yn uwch na 70°C
- yn ddelfrydol, ni ddylai dŵr poeth fod yn uwch na 60°C yn y gegin, 41°C mewn basn llaw a 46°C mewn baddon
Beth am fflatiau ac adeiladau amlfeddiannaeth eraill?
Gall risg gynyddu pan fo pobl yn rhannu cegin ac yn ei defnyddio yr un pryd. Os yn bosibl, dylid cael arwynebau gweithio ar wahân a chyfleusterau coginio ar wahân i bob annedd. Pan fo coginio’n digwydd mewn ystafell wely neu ystafell fyw mae angen digon o bellter rhwng ardal y gegin a’r ardal gysgu neu fyw. Dylid cael digon o socedi trydan yn ardal y gegin i leihau risgiau sgaldiau.
26 Taro yn erbyn neu fynd yn sownd
Yn cynnwys perygl i ddarnau o’r corff fel bysedd fynd yn sownd mewn nodweddion pensaernïol e.e. drysau neu ffenestri. Hefyd yn cynnwys taro yn erbyn nodweddion fel ffenestri dwbl, ffenestri, drysau, nenfydau isel neu waliau.
Camau gweithredu posibl gan y landlord
Dylai landlordiaid gynnal archwiliadau gweledol a chorfforol i leihau’r tebygolrwydd o daro yn erbyn neu fynd yn sownd.
27 Ffrwydradau
Yn cynnwys y perygl o rwbel a achoswyd gan ffrwydrad a’r adeilad yn dymchwel yn rhannol neu’n gyfan gwbl yn sgil y ffrwydrad.
Camau gweithredu posibl gan y landlord
Dylai landlordiaid gynnal archwiliadau gweledol a/neu gorfforol i leihau’r tebygolrwydd lle bo’n bosibl.
28 Safle amwynderau a’u gweithrediad ac ati
Yn cynnwys bygythiadau o straen corfforol sy’n gysylltiedig â lle gweithredol a nodweddion eraill yr annedd.
Mae hefyd yn cynnwys straen corfforol a allai ddeillio o osgoi peryglon eraill (gweler peryglon Taro yn Erbyn a Mynd yn Sownd a Chwympo).
Camau gweithredu posibl gan y landlord
Dylai landlordiaid gynnal archwiliadau gweledol a ffisegol i leihau’r tebygolrwydd o straen neu anaf. Er enghraifft, lleoliad switsys golau wrth fynd i fyny neu i lawr grisiau.
29 Dymchwel strwythurol ac elfennau’n disgyn
Yn cynnwys perygl o’r annedd cyfan yn dymchwel a/neu elfen neu ran o’r ffabrig yn symud neu’n methu oherwydd ei fod wedi’i osod yn annigonol, ei fod mewn cyflwr gwael neu oherwydd amodau tywydd gwael. Gall methiant strwythurol fod yn fewnol, gan fygwth y meddianwyr neu o fewn yr ardal allanol gyfagos gan roi aelodau’r cyhoedd mewn perygl.
Camau gweithredu posibl gan y landlord
Dylai landlordiaid gynnal archwiliadau gweledol a chorfforol i leihau’r tebygolrwydd o anaf. Dylai hyn gynnwys archwiliadau allanol o deils neu lechi to ac ati.
Rhan 2: gofynion y landlord
Fel y nodir yn gynharach yn y canllawiau hyn mae’n rhaid i landlord ystyried y 29 o faterion ac amgylchiadau a restrir o dan Ran 1 wrth benderfynu a yw annedd yn ffit i fyw ynddi ai peidio. Yn ogystal, mae Rheoliadau sy’n ymwneud â Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi yn gosod gofynion penodol ar landlordiaid i helpu i atal rhai materion ac amgylchiadau rhag codi. Pan fo landlord yn methu â chydymffurfio â’r gofynion hyn, dylid ystyried yr annedd fel un nad yw’n ffit i bobl fyw ynddi. Mae’n rhaid i landlord fodloni tri gofyniad:
- sicrhau bod yna larymau mwg sy’n gweithio’n iawn
- sicrhau synwyryddion carbon monocsid sy’n gweithio’n iawn
- sicrhau bod y gosodiad trydanol yn cael ei archwilio a’i brofi
Larymau mwg
Nod larymau mwg yw lleihau’r perygl o dân a mwg cysylltiedig ac unrhyw anaf neu golli bywyd dilynol. Mae unigolyn o leiaf bedair gwaith yn fwy tebygol o farw os nad oes larwm mwg yn yr annedd. Mae Rheoliadau sy’n ymwneud â Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi yn ei gwneud hi’n ofynnol i osod larwm mwg, sy’n gweithio’n iawn, ar bob llawr o annedd. Mae’n rhaid i landlordiaid sicrhau bod pob synhwyrydd mwg gwifredig yn gweithio'n briodol ac wedi'i gysylltu â’r cyflenwad trydanol ac â'r holl larymau mwg eraill sydd wedi'u cysylltu â’r cyflenwad trydanol. Er mwyn bodloni’r gofyniad hwn dylid profi larymau mwg e.e. wrth wneud gwaith atgyweirio angenrheidiol neu wrth brofi gwaith trydanol yn yr annedd.
Yn dibynnu ar faint yr annedd gall landlordiaid ystyried ei bod hi’n briodol gosod mwy nag un larwm mwg ar bob llawr. Efallai y byddant ystyried bod gosod larwm gwres ychwanegol yn y gegin yn briodol hefyd. Dylid lleoli larymau mwg ble gall y meddiannydd eu clywed wrth gysgu, yn y cyntedd ac ar y landin fel arfer. Unwaith bydd gofynion sylfaenol y rheoliadau wedi’u bodloni, caiff landlord osod larymau mwg ychwanegol sy’n gweithio ar fatri. Nid yw’r Rheoliadau sy’n ymwneud â Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi yn ei gwneud yn ofynnol rhyng-gysylltu’r larymau ychwanegol hyn sy’n gweithio ar fatri.
Mae’r gwasanaeth tân yn darparu canllawiau ar y math o larymau sydd ar gael a sut i’w gosod. Yn ogystal, mae BS 5839 (rhan 6) yn egluro’r gofynion ar gyfer gosod larymau mwg yn briodol mewn eiddo domestig. Dylai contractwr sy’n arbenigo mewn gosod larymau mwg allu eich cynghori ar y safon hon.
Gofyn am ymweliad Diogel ac Iach gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Gofyn am ymweliad diogelwch yn y cartref gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Gofyn am ymweliad Diogel ac Iach gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Mae’n rhaid i landlord nodi argymhelliad y gwneuthurwr o ran oes y larwm mwg, a fydd yn dibynnu ar y larwm. Efallai na fydd larwm yn gweithio’n iawn ac yn methu synhwyro mwg ar ôl ei ddyddiad dod i ben.
Ni fydd annedd sy’n destun contract meddiannaeth a newidiwyd o gontract cyfredol ar ddyddiad gweithredu yn gorfod gosod larwm mwg am gyfnod o hyd at ddeuddeg mis o ddyddiad y newid. Ni fydd yr eithriad hwn yn berthnasol mwyach i’r annedd pe bai’r contract a newidiwyd yn dod i ben.
Larymau carbon monocsid
Nwy yw carbon monocsid a gynhyrchir pan fo tanwydd carbon yn cael ei losgi heb ddigon o ocsigen. Ni allwch ei weld, ei arogli na’i flasu ond gall anafu a lladd yn gyflym. Mae’n gyfrifol am lawer o farwolaethau ac achosion o wenwyno bob blwyddyn ac mae llawer o bobl yn debygol o gael eu heffeithio gan garbon monocsid heb sylweddoli hynny.
Mae gan gyfarpar hylosgi fel bwyleri, tanau nwy ac agored, gwresogyddion a stofiau sy’n defnyddio tanwydd solet, olew neu nwy y potensial i achosi gwenwyn CO os ydynt wedi’u gosod yn wael, yn cael eu cynnal a chadw’n wael neu eu defnyddio’n anghywir. Yn enwedig pan fo’r dull awyru, ffliwiau a simneiau priodol yn annigonol (neu’n absennol).
Mae Rheoliadau Ffit i Fyw’n ei gwneud hi’n ofynnol i landlord sicrhau bod larwm carbon monocsid i’w gael mewn unrhyw ystafell sy’n cynnwys cyfarpar sy’n llosgi tanwydd nwy neu solet. Mae larymau carbon monocsid yn hanfodol gan eu bod yn darparu’r unig rybudd i feddiannydd o bresenoldeb carbon monocsid o bosibl. Mae carbon monocsid yn ‘laddwr tawel’ ac mae bron pob marwolaeth yn deillio o ddiffyg rhybudd cynnar am ei bresenoldeb.
Mae rhagor o wybodaeth am achosion ac effeithiau carbon monocsid ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dylid ystyried yn ofalus ble i osod larymau carbon monocsid. Mae larymau mwg yn cael eu gosod ar nenfwd fel arfer gan fod gwres a mwg yn codi. Nid dyma’r lle gorau i osod synwyryddion carbon monocsid o reidrwydd. Gallai’r crynodiad o garbon monocsid gyrraedd lefelau peryglus cyn cyrraedd uchder nenfwd. Fel canllaw cyffredinol, mae larymau carbon monocsid yn cael eu gosod yn is na larymau mwg fel arfer. Dylid dilyn y canllawiau sy’n cyd-fynd â larymau carbon monocsid yn ofalus, yn cynnwys nodi’r dyddiad y daw’r larwm i ben. Mae synwyryddion carbon monocsid yn fwy bregus na rhai mwg fel arfer ac angen eu newid yn fwy rheolaidd.
Nid yw’r gofyniad i landlord sicrhau bod larymau mwg a larymau carbon monocsid yn bresennol o dan y Rheoliadau hyn yn disodli unrhyw ddyletswyddau a osodir ar y landlord o dan ddeddfwriaeth gyfredol, yn cynnwys Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006 a Rheoliadau Diogelwch Nwy (Gosod a Defnyddio) 1998.
Archwilio a phrofi gosodiadau trydanol
Er bod tanau yn y cartref yn lleihau’n gyffredinol mae cyfran tanau domestig a achosir gan drydan yn cynyddu’n gyson.
Bydd unrhyw beth sy’n cael ei ddefnyddio’n gyson yn dirywio dros amser ac nid yw gosodiad trydanol ddim gwahanol. Mae gosodiad trydanol mewn llety rhent yn debygol o ddirywio mwy yn sgil y newidiadau o ran pwy sy’n byw yno. Dylid ei archwilio a’i brofi’n rheolaidd felly i sicrhau ei fod yn ddiogel i’w ddefnyddio. Gelwir y prawf yn ‘archwiliad a phrawf cyfnodol’.
Fe’i cynhelir ar wifrau a chyfarpar trydanol gosodedig i wirio eu bod yn ddiogel. Bydd y prawf yn:
- datgelu a oes unrhyw un o’ch cylchedau neu gyfarpar trydanol wedi’i orlwytho
- dod o hyd i unrhyw risgiau o sioc drydanol bosibl a pheryglon tân
- nodi unrhyw waith trydanol diffygiol
- amlygu unrhyw ddiffyg daearu neu fondio
Dim ond person cymwys all wneud y gwaith archwilio a’r profi cyfnodol, rhywun fel trydanwr cofrestredig. Mae’n rhaid i’r trydanwr fod yn gymwys i gynnal y gwaith yn unol â safon y DU ar gyfer diogelwch gosodiadau trydanol, BS 7671 – Gofynion Gosodiadau Trydanol (Rheoliadau Gwifrau IET). Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddod o hyd i drydanwr cymwysedig yn:
- dod o hyd i drydanwr cofrestredig (ar Ddiogelwch Trydanol yn Gyntaf)
- dod o hyd i drydanwr (ar Berson Cymwys Cofrestredig Trydanol)
Ar ôl cwblhau’r archwiliad a phrawf cyfnodol byddwch yn cael Adroddiad Cyflwr Gosodiad Trydanol (EICR). Mae EICR (neu Dystysgrif Gosodiad Trydanol sy'n ymwneud ag annedd newydd ei hadeiladu yn ei chyfanrwydd) yn bodloni'r diffiniad o 'adroddiad cyflwr trydanol' sy'n ofynnol o dan Reoliad 6 o’r Rheoliadau[1]. Bydd yr EICR yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddirywiad, diffygion, amodau peryglus ac unrhyw ddiffyg cydymffurfio â’r safon ddiogelwch gyfredol a allai achosi perygl. Os na ddeuir o hyd i unrhyw broblemau o’r fath bydd yr EICR yn cadarnhau bod y gosodiad trydanol yn foddhaol ar gyfer parhau i’w ddefnyddio.
Mae’n ofynnol i landlord brofi gosodiad trydanol yr annedd bob pum mlynedd oni bai bod gofynion yr EICR blaenorol yn nodi bod angen cyfnod byrrach rhwng profion. Os argymhellir cyfnod byrrach ni fydd y cyfnod o bum mlynedd yn gymwys a bydd rhaid cynnal prawf yn y dyfodol ar yr adeg a argymhellir. Bydd methu â gwneud hynny yn golygu bod yr annedd yn cael ei hystyried nad yw'n ffit i bobl fyw ynddi.
Rhaid i'r EICR presennol fod ar gael i ddeiliad y contract o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad meddiannu. Os cynhelir archwiliad a phrawf cyfnodol ar ôl y dyddiad meddiannu, rhaid darparu'r EICR i ddeiliad y contract o fewn 14 diwrnod i ddyddiad yr archwiliad a'r prawf.
Yn ogystal, mae'n ofynnol i landlord hefyd ddarparu cadarnhad ysgrifenedig i ddeiliad y contract o'r holl waith ymchwilio a chyweirio a wneir ar y gosodiadau trydanol. Rhaid rhoi'r cadarnhad ysgrifenedig hwn i ddeiliad y contract o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad meddiannu. Os cynhelir gwaith ymchwiliol a chyweirio ar ôl y dyddiad meddiannu, rhaid darparu'r cadarnhad ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad y bydd y landlord yn cael y cadarnhad hwnnw.
Ni fydd annedd sy’n destun contract meddiannaeth a newidiwyd o gontract cyfredol ar ddyddiad gweithredu yn destun gofynion yr archwiliad a phrawf cyfnodol am gyfnod o ddeuddeg mis o ddyddiad y newid. Ni fydd yr eithriad hwn yn berthnasol mwyach i’r annedd pe bai’r contract a newidiwyd yn dod i ben.
[1] Drwy ddarparu Tystysgrif Gosodiad Trydanol ("EIC") mae'r gosodwr cymwys yn ardystio bod y gosodiad gwasanaeth trydanol yn yr annedd gyfan sydd newydd ei hhadeiladu wedi'i osod, ei archwilio a'i brofi yn unol â'r safonau diogelwch trydanol (fel y nodir yn y Rheoliadau Weirio cyfredol). Gan fod EIC dim ond yn cael ei ddarparu lle mae'r gosodiad gwasanaeth trydanol yn bodloni'r safonau diogelwch trydanol wrth gael ei arolygu a'i brofi, mae'n fath o adroddiad cyflwr trydanol a bydd yn bodloni gofynion rheoliad 6 am gyfnod o bum mlynedd o ddyddiad cyhoeddi'r EIC.