Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cyhoeddi £32m heddiw i helpu ffermwyr a pherchenogion tir yng Nghymru i blannu 86 miliwn o goed cyn diwedd y degawd fel ymateb i’r argyfwng hinsawdd.
Mae’r cyhoeddiad yn dilyn adolygiad byr a manwl gan y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd i weld sut orau i drechu’r rhwystrau sy’n cadw pobl rhag creu coetir.
Mae angen i Gymru blannu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn diwedd y degawd fel rhan o ymdrech Llywodraeth Cymru i wneud y wlad yn sero net erbyn 2050.
Dyma’r ddau gynllun newydd:
- Y Cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir. Dyma gynllun i symleiddio’r drefn ar gyfer talu ffermwyr a pherchenogion tir sydd am blannu darnau bach o dan ddau hectar o faint o goed yng Nghymru ar dir sydd wedi’i wella’n amaethyddol neu o werth amgylcheddol isel.
- Mae’r Grant Creu Coetir yn cynnig arian i ffermwyr a pherchenogion tir sydd â phlan creu coetir sydd wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, i blannu coed a ffensio.
- Mae’r ddau gynllun yn cynnig grantiau ar gyfer plannu coed, codi ffensys a gatiau a gwaith cynnal a chadw am 12 mlynedd.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:
Bydd plannu mwy o goed yn hanfodol i helpu Cymru i osgoi rhai o effeithiau gwaetha’r newid yn yr hinsawdd. Gall creu coetir ddod â chyfoeth o fanteision i gymunedau lleol, o swyddi gwyrdd i leoedd ar gyfer natur.
Rydym am i ffermwyr Cymru fod yn ganolog i’n cynlluniau. Does neb yn nabod eu tir yn well felly er mwyn sicrhau bod eu busnesau’n gynaliadwy, nhw fydd yn penderfynu ble i blannu’r coed. Cyn belled â’u bod yn bodloni Safon Goedwigaeth y DU, byddwn wrth law i roi’r help sydd ei angen arnyn nhw.
Rydym yn gwybod eu bod nhw, fel cymaint o bobl eraill, yn awyddus i leihau eu hôl troed carbon a’n helpu fel Tîm Cymru, i fynd i’r afael benben â’r newid yn yr hinsawdd.
Mae Derek Morgan yn ffermwr yn Llangurig, Llanidloes, sydd wedi plannu rhyw 58,000 o goed ar sail ei awydd i arallgyfeirio ei fferm o fod yn fferm ddefaid.
Dywedodd Mr Morgan:
Edrychais ar fy strategaeth ar gyfer y fferm rai blynyddoedd yn ôl a phenderfynu plannu 17.5 hectar o goetir sy’n gweddu’n dda i’r tirlun lleol.
Rwy’n falch iawn o’r hyn dwi wedi’i wneud gan fy mod nawr yn cynhyrchu pren cynaliadwy ar gyfer marchnadoedd lleol, sy’n golygu y bydd yma wastad fusnes ar y fferm. Mae’n wych gweld y bywyd gwyllt a’r cynefinoedd newydd sydd wedi dod i’r tir yn ei sgil.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n gorfod gymeradwyo pob plan sy’n derbyn Grant Creu Coetir Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni Safon Goedwigaeth y DU, sy’n safon gadarn i sicrhau coedwigaeth gynaliadwy.
Dywedodd Ceri Davies, cyfarwyddwr gweithredol tystiolaeth, polisi a chaniatáu yn Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae cynyddu’r gorchudd coed ledled Cymru fel rhan o’r Cynllun Creu Coetir yn rhan hanfodol o’r ymdrech i ddelio â’r argyfyngau hinsawdd a natur, ac i helpu i wireddu uchelgais y wlad i fod yn sero net.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn chwarae rhan allweddol yn yr uchelgais hon, gan weithio gyda rhanddeiliaid, perchenogion tir, ffermwyr a’r sector coedwigaeth i ddeall beth yw’r rhwystrau rhag plannu coed a sut i’w trechu. Rydyn ni’n helpu i sicrhau hefyd bod yr holl gynlluniau’n bodloni Safon Goedwigaeth y DU, a bod unrhyw waith plannu newydd yn diogelu bywyd gwyllt a’r amgylchedd, yn cyfoethogi’r tirlun lleol ac yn gofalu am ein hadnoddau naturiol.
Rydym yn disgwyl ymlaen at barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid i hybu’r uchelgais i blannu coed yng Nghymru a sicrhau’r manteision niferus y gall hynny ddod i ni.