Daeth yr ymgynghoriad i ben 1 Medi 2020.
Manylion am y canlyniad

Crynodeb o ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 359 KB

Asesiad effaith integredig , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 158 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem glywed eich barn chi ynglŷn â pha swyddi ddylai anghymhwyso’r unigolion sy’n dal y swyddi hynny rhag bod yn Aelodau o Senedd Cymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r fersiwn ddrafft o Orchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020 yn rhestru’r swyddi sy’n anghymhwyso deiliaid y swyddi hynny rhag bod yn Aelod o’r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru gynt).
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar y canlynol:
- a ddylid cynnwys y swyddi a nodir yn y Gorchymyn Anghymhwyso drafft yng Ngorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020
- a oes unrhyw swyddi eraill a ddylai anghymhwyso eu deiliaid rhag bod yn Aelod o’r Senedd