Mae'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, wedi cyhoeddi heddiw y bydd y cynllun sy’n golygu nad yw busnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru yn gorfod talu ardrethi yn cael ei estyn am 12 mis arall.
Mae'r pecyn sy’n werth £380m yn rhoi hoe am flwyddyn rhag talu ardrethi busnes i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o hyd at £500,000, yn ogystal ag elusennau, gan fynd y tu hwnt i'r hyn a gyhoeddwyd yn Lloegr. Mae hyn yn rhoi hwb y mae mawr ei angen i fusnesau bach a chanolig eu maint sy'n ei chael yn anodd ymdopi ag effeithiau'r pandemig.
Bydd y pecyn hwn, ar y cyd â'n cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach, yn sicrhau na fydd mwy na 70,000 o fusnesau yn talu unrhyw ardrethi o gwbl yn 2021-22.
Mae'r Gweinidog hefyd wedi ymrwymo i ddarparu rhyddhad ardrethi o 100% i fusnesau ac elusennau yn y sector hamdden a lletygarwch ar gyfer 2021-22.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans:
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n ddiflino i sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn gallu elwa ar y pecyn cymorth busnes mwyaf hael yn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig.
Mae ein dull gweithredu cyfrifol, wedi'i dargedu, wedi ein galluogi i neilltuo mwy o gyllid ar gyfer cymorth busnes nag a gawsom gan lywodraeth y DU. Mae'n bleser gennyf gadarnhau y bydd ein pecyn rhyddhad ardrethi o 100% ar gyfer y sectorau hynny sydd wedi dioddef waethaf yn parhau am 12 mis arall, gan ddiogelu swyddi a busnesau ledled Cymru.
Mae'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, wedi cadarnhau heddiw hefyd y bydd cyfnod gostyngiad dros dro y Dreth Trafodiadau Tir yn cael ei ymestyn am 3 mis arall, fel y bydd yn dod i ben ar 30 Mehefin 2021.