Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Mehefin eleni, penodais y Dr Simon Brooks yn Gadeirydd ar Grŵp Cynyddu Defnydd y Gymraeg, sy’n Is-Grŵp i Gyngor Partneriaeth y Gymraeg. Gofynnais am gyngor ac argymhellion ar effaith COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg.

Cyhoeddwyd adroddiad yr is-grŵp yr wythnos diwethaf:

https://llyw.cymru/effaith-covid-19-ar-grwpiau-cymunedol-cymraeg-canfyddiadau-arolwg

Heddiw, rwyf yn cyhoeddi argymhellion yr Is-Grŵp yn seiliedig ar yr adroddiad hwnnw.

Casgliadau’r Is-grŵp, ar sail y dystiolaeth, yw bod yr heriau y mae grwpiau cymunedol Cymraeg wedi’u hwynebu yn ystod y pandemig wedi amlygu heriau mwy cyffredinol ynghylch cynaliadwyedd gweithgarwch cymunedol Cymraeg at y dyfodol. Mae’r Is-grŵp yn tybio y gallai’r sefyllfa hon ddod hyd yn oed yn fwy heriol oherwydd newidiadau sosio-economaidd a chymdeithasol yn sgil COVID-19 a Brexit. Cred yr Is-grŵp fod angen gweithredu er mwyn cryfhau’r Gymraeg fel iaith gweithgarwch cymunedol a chymdeithasol.

Mae’r Is-grŵp yn ystyried y Gymraeg yn rhan bwysig o gyfalaf cymdeithasol Cymru, ac mae’r argymhellion wedi’u llunio gyda hynny mewn golwg. Ym marn yr Is-grŵp mae hyn ynghlwm wrth yr angen i wneud cymunedau yn fwy gwydn o safbwynt adnoddau dynol/sgiliau er mwyn meithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr cymunedol—adnoddau megis canolfannau, is-adeiledd digidol, a magu diwylliant o fentro ymhlith siaradwyr Cymraeg. Mae hefyd yn golygu cryfhau cynllunio ieithyddol ar lefel ficro (lefel y gymdogaeth).

Mae i nifer o’r argymhellion hyn berthnasedd nid yn unig i faes polisi’r Gymraeg ond i sawl maes polisi llywodraethol. Byddaf yn ymateb yn fanwl i’r argymhellion maes o law.

Argymhellion

Argymhelliad 1: Ailddechrau grwpiau cymunedol Cymraeg

Dylai Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â’r Mentrau Iaith, ailgysylltu cyn gynted â phosibl gyda’r grwpiau cymunedol hynny a nododd yn yr arolwg eu bod yn annhebygol o ailddechrau wedi’r pandemig fesul un i ddarganfod pa gefnogaeth sydd ei hangen i’w cynorthwyo i ailddechrau gweithredu yn unol â’u dymuniad. Dylid cyflawni hynny gyda gweithredu cymwys i alluogi’r gweithgareddau i ailddechrau gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth â Chynghorau Gwirfoddol lleol er mwyn sicrhau’r gefnogaeth briodol.

Argymhelliad 2: Cynhwysedd digidol

Dengys yr arolwg y ceir nifer sylweddol o siaradwyr Cymraeg sydd wedi’u hallgáu o gymryd rhan mewn gweithgareddau ar-lein. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried y rhwystrau sydd yn bodoli o ran diffyg mynediad i rwydwaith ddigidol ac i godi sgiliau digidol.

Argymhelliad 3: Clybiau chwaraeon a grwpiau celfyddydol/perfformio

Dylai Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, roi mwy o sylw i rôl clybiau chwaraeon a grwpiau celfyddydol/perfformio yng nghyd-destun cynllunio ieithyddol er mwyn cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith gymunedol.

Argymhelliad 4: Cynllunio iaith micro a swyddogaeth y Mentrau Iaith

Dylid datblygu rôl y Mentrau Iaith i weithio ar lefel micro mewn mwy o gymunedau drwy ehangu ffocws grant Llywodraeth Cymru i’r Mentrau Iaith er mwyn creu cynlluniau i gefnogi gwaith penodol mudiadau cymunedol Cymraeg, a gweithgarwch sy’n unol ag egwyddorion cynllunio ieithyddol ar lefel leol. Dylid gweithredu ar sail egwyddorion datblygu cymunedol ar gyfer ymateb i anghenion lleol (gweler y ddogfen Gweithredu’n Lleol: Fframwaith ar gyfer hwyluso cynllunio iaith micro ymysg cymdogaethau Cymraeg). Dylid ehangu capasiti a chyllid i’r Mentrau iaith er mwyn helpu cyflawni hyn.

Argymhelliad 5: Ariannu prosiectau

Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu dull o ariannu prosiectau i hwyluso a gweithredu ar lefel gymunedol i sicrhau hyfywedd y Gymraeg. Dylai hyn gynnwys creu mecanwaith a fydd yn medru tynnu ar gronfeydd ariannol amrywiol Llywodraeth Cymru. Byddai hyn yn cyd-fynd â’r nod o hyrwyddo a datblygu’r Gymraeg drwy holl weithgarwch y llywodraeth, ar lefel Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol.

Argymhelliad 6: Cydbwysedd rhwng y cenedlaethau

Noder proffil oedran hŷn llawer o’r cymdeithasau Cymraeg presennol. Dylid bwrw ati i feithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr cymunedol er mwyn sicrhau olyniaeth arweinyddiaeth mewn cymdeithasau a grwpiau cymunedol. Gellid cynnig cyfleoedd gwirfoddoli mewn cymdeithasau cyfrwng Cymraeg, ond hefyd brentisiaethau, profiadau gwaith a chyfleoedd i feithrin sgiliau. Gallai hwyluso a chefnogi’r trefniadau fod yn rhan o waith Mentrau Iaith a mudiadau cymdeithasol Cymraeg, ond mae angen hefyd eu hintegreiddio mewn cynlluniau ar draws Llywodraeth Cymru sydd yn datblygu arweinyddiaeth cymunedol ar hyd a lled Cymru.

Argymhelliad 7: Mentrau cymdeithasol a chydweithredol

Dylid creu mwy o fentrau cymdeithasol/cydweithredol cyfrwng Cymraeg sy'n cynnig cyfleoedd gwaith a gwirfoddoli cyfrwng Cymraeg yn ein cymunedau.

Dylid adeiladu ar gryfder pwyllgorau mudiadau cymunedol Cymraeg gyda ffocws ar wytnwch hirdymor y sefydliad, cryfhau sgiliau rheolaeth ariannol, technoleg gwybodaeth, busnes ac entrepreneuriaeth gymunedol.

Dylid creu rhwydwaith cenedlaethol o fentrau cymdeithasol/cydweithredol cyfrwng Cymraeg i annog cydweithio strategol.

Argymhelliad 8: Strategaethau Hybu Sirol

Dylai’r Awdurdodau Lleol roi llais cryf i fudiadau cymunedol Cymraeg wrth gynllunio a gweithredu eu strategaethau hybu iaith. Dylid plethu at ei gilydd Strategaethau Hybu, Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, Fforymau Sirol y Mentrau Iaith gyda’r mudiadau cymunedol Cymraeg.

Argymhelliad 9: rhannu gwybodaeth

Dylid sicrhau fod grwpiau cymunedol Cymraeg yn gwybod ac yn manteisio ar gyfleoedd i wella eu sefydliad trwy hyfforddiant, cronfeydd cyllid a chanllawiau perthnasol ayyb.

Dylid sicrhau fod hyfforddiant cynllunio ieithyddol ar gael i grwpiau cymunedol Cymraeg yn ôl y galw.

Aelodau’r Is-grŵp

  • Simon Brooks (Cadeirydd)
  • Rhian Huws Williams
  • Rhys Jones
  • Lowri Jones
  • Walis George
  • Meleri Davies