Neidio i'r prif gynnwy

Rheolaeth yw hyn - Dyw hyn ddim yn iawn

Gall perthynas â rhywun fod yn ddryslyd, a gall fod yn anodd gwybod beth sy'n ymddygiad arferol a beth nad yw'n arferol.

Mewn perthynas iach, ddylai eich partner ddim ceisio eich rheoli. Mae perthynas iach yn seiliedig ar gydraddoldeb a pharch.

Mae perthynas iach gefnogol yn berthynas hapus. Dylech deimlo bod eich partner yn eich caru, a dylech deimlo'n ddiogel ac yn rhydd i fod yn chi eich hun. Pan fydd eich partner yn ceisio eich rheoli, camdriniaeth yw hynny, ac mae'n cael ei chydnabod. Yr enw ar hyn yw Rheolaeth drwy Orfodaeth.

Gall fod yn anodd adnabod rheolaeth drwy orfodaeth, ond dyma rai o'r arwyddion:

  • gwneud ichi deimlo'n euog am dreulio amser gyda ffrindiau
  • bygwth brifo neu ladd eu hunain os byddwch yn gwahanu
  • eich dirmygu drwy'r amser, gan eich cyhuddo o fod yn oeraidd a diymateb neu'n slwt er mwyn eich rheoli a'ch sarhau
  • bygwth rhannu gwybodaeth bersonol amdanoch neu luniau personol ohonoch
  • eisiau gwybod ble rydych chi drwy'r amser a gwylltio os nad ydynt yn cael gwybod
  • mynnu cael mynediad i'ch ffôn neu eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol
  • darllen eich negeseuon personol
  • postio negeseuon dilornus mewn sgyrsiau grŵp neu ar y cyfryngau cymdeithasol i'ch ffrindiau
  • rhoi pwysau arnoch i anfon negeseuon rhywiol neu luniau ohonoch yn noeth
  • bygwth lledaenu sïon amdanoch os nad ydych yn cydsynio i gael rhyw
  • siarad am eich perfformiad rhywiol gyda ffrindiau a dweud mai dim ond jôc yw'r peth
  • dweud pethau fel "Taset ti'n fy ngharu i, mi faset ti'n..."

Gwyliwch ein ffilm am yr ymgyrch i weld enghreifftiau o ymddygiad sy'n rheoli:

Mae rheolaeth drwy orfodaeth yn drosedd. Os yw eich partner chi yn ceisio eich rheoli, neu os yw hyn yn digwydd i aelod o'r teulu neu ffrind, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn am gyngor a chymorth 24 awr yn rhad ac am ddim, drwy sgwrsio byw neu ffonio 0808 8010 800.

Does dim rhaid ichi fod yn gwpwl 'swyddogol' i brofi camdriniaeth, a does dim ots beth yw natur eich perthynas; mae'n gallu digwydd i unrhyw un, beth bynnag eich rhywedd neu eich cyfeiriadedd rhywiol. Does gan neb yr hawl i'ch rheoli na'ch gorfodi i wneud unrhyw beth sy'n teimlo'n anghywir, ac nid eich bai chi yw hyn.

Darllenwch stori Sarah am oroesi rheolaeth orfodol

Siaradwch â ni nawr

Os ydych chi newu rywun rydych yn ei adnabod yn dioddef rheolaeth drwy orfodaeth, gallwn ni roi cyngor i chi.

Cysylltwch â Byw Heb Ofn am ddim drwy ffonio, sgwrsio ar-lein neu e-bost.

Poeni am berson ifanc?

Darllenwch ein canllawiau i gael cymorth a chyngor i gefnogi eich plentyn neu blentyn sy’n agos atoch. 

Ymunwch â’r ymgyrch Dyw hyn ddim yn iawn

  • Ymunwch â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #RheolaethYwHyn
  • Lawrlwythwch ragor o wybodaeth, gan gynnwys fideos, posteri a delweddau i hyrwyddo’r ymgyrch.