Wrth siarad cyn Datganiad Hydref y Canghellor yfory, mae Gweinidog Cyllid Cymru wedi dweud bod yn rhaid i'r Canghellor droi ei gefn ar gylch arall o fesurau cyni niweidiol.
Yn lle cyhoeddi toriadau sylweddol mewn gwariant, dywedodd Rebecca Evans fod yn rhaid i'r Canghellor fuddsoddi mewn twf, a chefnogi pobl trwy'r argyfwng costau byw.
Dywedodd hi:
"Mae Datganiad yr Hydref yn cael ei gyflwyno yng nghanol cyfnod o heriau ariannol enfawr i bobl, busnesau, gwasanaethau cyhoeddus, a'n heconomi.
"Mae pobl yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau wrth i’r argyfwng costau byw gydio. Mae chwyddiant a phrisiau ynni sydd ar eu huchaf erioed yn lleihau cyllidebau'r sector cyhoeddus, wrth i’r galw am wasanaethau godi'n aruthrol. Mae'r economi yn dirywio, ac rydyn ni'n wynebu'r dirwasgiad hiraf ers y Dirwasgiad Mawr.
"Mae gan Lywodraeth y DU y grym cyllidol i ymateb i'r heriau hyn - a rhaid iddi wneud hynny yfory. Dyma'r amser i fuddsoddi mewn pobl a gwasanaethau cyhoeddus.
"Rhaid i'r Canghellor ddefnyddio ei ysgogiadau treth mewn ffordd decach. Drwy gynyddu'r dreth ffawdelw a chael gwared ar eithriadau o'r dreth ar enillion cyfalaf, mae modd iddo sicrhau bod y baich yn disgyn ar y rhai mwyaf cefnog.
"A thrwy droi cefn ar fesurau cyni, gallai Llywodraeth y DU ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus, cyflawni ei hymrwymiad i gynyddu budd-daliadau yn unol â chwyddiant, a hybu buddsoddiad mewn seilwaith i gefnogi a thyfu ein heconomi."