Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru flaengar, fodern ar y llwyfan byd-eang a ddarperir gan Gwpan y Byd FIFA yn Qatar wedi eu datgelu gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Cyhoeddi  'Lleisiau'  - llysgenhadon i Gymru yn Qatar
  • Lansio ymgyrch farchnata newydd fyd-eang

Bydd yr ymgyrch yn cyflwyno gwerthoedd Cymru a sicrhau gwaddol cadarnhaol o weld Cymru yn cystadlu yn yr ymgyrch Cwpan y Byd cyntaf mewn 64 mlynedd.

Gyda llai nag wythnos i fynd nes bod Cymru'n chwarae'r gêm grŵp gyntaf yn erbyn UDA, mae rhaglen o weithgareddau Llywodraeth Cymru wedi hen ddechrau mewn ymgais i arddangos y gorau o Gymru ar lwyfan byd-eang a chyflwyno Cymru i gynulleidfaoedd newydd.

Heddiw bydd y Gweinidog yn cyhoeddi cyn bêl-droediwr Cymru, yr Athro Laura McAllister, enillydd medal arian Olympaidd - a Phencampwr y byd - Colin Jackson CBE, y DJ a'r cyflwynydd o Lundain, Katie Owen, a'r Cogydd adnabyddus Bryn Williams, fel 'Lleisiau Cymru'.

Bydd tîm ‘Lleisiau Cymru’ o lysgenhadon yn leisiau dylanwadol dros Gymru yn Qatar. Maent yn ymuno ag Ian Rush a Jess Fishlock, y ddau yn llysgenhadon Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2022.

Meddai Laura McAllister o Lleisiau Cymru:

“Mae Cwpan y Byd yn gyfle heb ei ail inni godi proffil Cymru a hefyd ddatgan a hyrwyddo ein gwerthoedd a’n hamrywiaeth, cynwysoldeb a pharch i hawliau dynol.  Fel ‘Lleisiau Cymru’ byddwn yn sicrhau ein bod yn manteisio i’r eithaf ar y cyfle unigryw hwn i Gymru, i bêl-droed a thu hwnt.”

Mae ymgyrch farchnata fwy wedi dechrau, gan dargedu marchnadoedd rhyngwladol a domestig craidd gan gynnwys UDA a marchnadoedd Ewropeaidd allweddol. Bydd yr ymgyrch farchnata yn hybu Cymru fel cenedl agored, flaengar, fel lle gwych i gynnal busnes ac i ymweld â hi.

Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar bobl Cymru, mae’n wahoddiad gan wlad gynnes, groesawgar.  Mae gan yr ymgyrch deimlad real, llafar sy’n dangos bod croeso i bawb – mae lle ichi yma, o bedwar ban byd.  Mae cyfres o ffilmiau  wedi eu rhyddhau sy'n dangos pobl Cymru yn gwahodd y byd i Gymru, gan dangos y bobl, y diwylliant, y gymuned a’r tirwedd – portread o wlad fodern, flaengar ac amrywiol sy’n croesawu’r byd.

Wrth gyhoeddi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar y diwrnod y bydd carfan Cymru yn hedfan i Qatar, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Rwy'n falch iawn o gyhoeddi ein cynlluniau cynhwysfawr i hyrwyddo Cymru agored, flaengar i'r byd yn ystod Cwpan y Byd FIFA.  Pan fydd pobl yn gweld Cymru, byddant yn gweld ein gwerthoedd.

"Mae Cynulleidfa fyd-eang o 5 biliwn o bobl yn rhoi cyfle unigryw i ni arddangos ein cenedl a chreu gwaddol parhaol.

"Rydym yn cyflwyno Cymru i'r byd, yn eu gwahodd i ddysgu mwy amdanom, ein diwylliant, ein pobl, a'u croesawu i Dîm Cymru.  Mae’r ymgyrch yn cynnwys storïau o Gymru, yn cynnwys lleisiau go iawn ledled ein cymunedau.  Maent yn storïau fydd yn gwneud i bobl agosáu atom, a gwneud iddynt eisiau bod yn rhan o’r hyn sy’n digwydd yma yng Nghymru.

"Fel llywodraeth, rydym wedi bod yn glir y byddwn yn defnyddio lle Cymru yn rhagweithiol yng Nghwpan y Byd yn Qatar i hyrwyddo ein gwerthoedd Cymreig cryf. Yng Nghymru, rydym yn angerddol am hawliau dynol a hawliau gweithwyr ac yn credu y dylai pobl fod yn rhydd i fyw fel yr unigolion y maent yn dymuno bod. Byddwn yn parhau i eirioli dros Gymru o ran hawliau dynol, hawliau LHDTQ+, rhyddid gwleidyddol a chrefyddol, addysg gynhwysol a gwaith teg.

"Mae hwn yn gyfle i hyrwyddo Cymru, ond mae'n ddyletswydd arnom hefyd i egluro pam ein bod yn credu y dylid cydnabod y gwerthoedd hyn.  Mae'r tîm rheoli, y chwaraewyr a'r FAW oll wedi siarad am y materion yma ac maen nhw'n cael cefnogaeth lawn Llywodraeth Cymru i hybu'n gwerthoedd ni fel cenedl."

Bydd presenoldeb Cymreig arbennig hefyd yn rhan o'r arddangosfeydd gan y cenhedloedd sy'n cymryd rhan.  Gan y bydd y twrnamaint yn cynnwys presenoldeb cryf gan Lywodraeth y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru'n cael ei chydnabod fel cenedl ac fel cymdeithas sydd â gwerthoedd blaengar. "

Yn dilyn y cyhoeddiad am garfan Cwpan y Byd Cymru yr wythnos ddiwethaf, bydd cynrychiolaeth amrywiol o artistiaid a sefydliadau diwylliannol yn camu i'r llwyfan i rannu diwylliant unigryw Cymru â’r byd.

Mae’r artistiaid yn cynnwys y rapiwr Mace the Great; Yr Urdd gyda Chôr Ddyffryn Clwyd; y Barry Horns – band pres o gefnogwyr pél-droed; yr artist rap Sage Todz; y gantores a’r offerynwraig Kizzy Crawford a llawer o rai eraill.

Byddant yn perfformio yn Qatar; UDA; Canada yn ogystal â pherfformio mewn digwyddiadau diwylliannol fel rhan o Ŵyl Cymru, dathliad cenedlaethol sy'n cael ei gynnal ledled Cymru a’r byd.  

Meddai’r rapiwr Mace the Great:

“Dwi’n edrych ymlaen at fynd yn ôl i’r UDA wedi fy mherfformiad cyntaf yn SXSW yn gynharach eleni.  Mae hwn yn gyfle enfawr imi ddatblygu fel artist, yn ogystal â chynrychioli Cymru mewn digwyddiad mor bwysig i bêl-droed a diwylliant Cymru.  Mae’n gyffrous iawn perfformio yn Efrog Newydd, gweithio ar fideo newydd, a pharhau i gydweithio gyda'r ymgyrch Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth a'r FAW."

Bydd yr Urdd hefyd yn cynrychioli pobl ifanc Cymru yn Qatar, gyda Côr Dyffryn Clwyd hefyd yn rhan o'r Garfan Ddiwylliant.

Meddai Sian Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru:

“Mae aelodau’r Urdd yn llysgenhadon arbennig i Gymru, ein hiaith, diwylliant a’n gwlad.  Rydym yn falch fod Côr Dyffryn Clwyd yn cael y cyfle arbennig yma i gefnogi'r tîm a hefyd i fynd a Chymru i’r byd ynghyd a chynulleidfa ryngwladol Cwpan y Byd ar ran pobl ifanc Cymru.  Fel Mudiad rydym yn anelu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf drwy gynnig cyfleoedd unigryw i ymestyn gorwelion a magu hunanhyder.  Rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o Dîm Diwylliant Cymru.”

I gefnogi amcanion Llywodraeth Cymru o hyrwyddo Cymru, cyfrannu at ddiplomyddiaeth, ac yn bwysig iawn, i gyfleu gwerthoedd Cymru fel cenedl, bydd y Prif Weinidog yn mynd i gêm grŵp agoriadol Cymru yn erbyn UDA, tra bydd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething yn mynd i'r gêm y grŵp olaf yn erbyn Lloegr. Dyma'r cyfleoedd mwyaf arwyddocaol i godi proffil Cymru a gwneud cysylltiadau lle gallwn rannu buddiannau a gwerthoedd Cymru.