Neidio i'r prif gynnwy

Ysgol POP!

Mae’r gwaith o chwilio am seren bop nesaf Cymru ar gyfer Dydd Miwsig Cymru wedi dechrau.

Gallai eich ysgol gynradd ennill £250 ac ymddangos ar raglen Stwnsh Sadwrn S4C ar 5 Chwefror.

Beth mae'r iaith yn feddwl i ti a dy ardal

Yr unig beth sydd angen i chi wneud yw ysgrifennu a pherfformio pennill a chytgan cân ar y thema 'Beth mae'r iaith yn feddwl i ti'. Mae trac miwsig offerynnol a chytgan wedi’i pherfformio gan Eädyth ar gael isod i’ch helpu i roi cychwyn arni.

Defnyddiwch y trac miwsig offerynnol a chytgan wedi’i pherfformio gan Eädyth i’ch helpu i roi cychwyn arni.

Athrawon

Mae ystod o adnoddau ar gael isod i helpu disgyblion i ysgrifennu cân, gan gynnwys pecyn cymorth ar-lein a fideos gan y gantores Eädyth.  

Recordiwch y fideo gyda’r ffôn ar ei hochr (nid ar i fyny), a'i anfon i cymraeg@llyw.cymru a/neu rhannwch y fideo ar sianeli cyfryngau cymdeithasol yr ysgol gan ddefnyddio'r hashnod #YsgolPop a thagio @miwsig. Y dyddiad cau ar gyfer cystadlu yw 4.30pm, dydd Gwener 28 Ionawr 2022. Mae'r telerau ac amodau llawn i'w gweld isod.

I gael rhagor o wybodaeth, anfona e-bost i cymraeg@llyw.cymru.