
Dydd Miwsig Cymru
Bydd Dydd Miwsig Cymru yn digwydd ar 5 Chwefror 2021
P’un a ydych chi’n hoffi miwsig indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop neu unrhyw beth arall, mae miwsig anhygoel yn cael ei greu yn y Gymraeg i chi ei ddarganfod. Mae’r diwrnod yn dathlu pob math o fiwsig Cymraeg.
Ond does dim rhaid i ti aros tan Dydd Miwsig Cymru i rannu dy gariad at gerddoriaeth Gymraeg neu i ddod o hyd i dy hoff gân newydd, dilyna @Miwsig_ neu chwilia am #Miwsig.
Ymuna yn yr hwyl
Mae cymaint yn mynd ymlaen i ddathlu Dydd Miwsig Cymru – dyma sut mae ymuno yn yr hwyl:
- ymuna yn y sgwrs gyda’r hashnod #dyddmiwsigcymru
- dilyna ni ar Twitter a Facebook
- rhanna’r dudalen hon gyda dy holl ffrindiau
- Os oes gen ti gynlluniau ar gyfer Dydd Miwsig Cymru, byddem wrth ein bodd yn clywed gen ti. Cysyllta â cymraeg@gov.cymru
Beth am wrando ar restrau chwarae arbennig Dydd Miwsig Cymru
Dyma gyfres o restrau chwarae o artistiaid Cymreig gwych:
Goreuon Cymru
Gwranda ar ein rhestr chwarae ddwyieithog Goreuon Cymru, sy'n cynnwys bandiau fel Catatonia, Alffa a'r Super Furry Animals
Gwrando ar Spotify
Seren a Sbarc
Mae'r rhestr chwarae yma'n wych ar gyfer disgo ysgol neu barti penblwydd i blant.
Gwrando ar Spotify
Yn y caffi
Mae'r rhestr chwarae yma'n wych ar gyfer disgo ysgol neu barti penblwydd i blant.
Gwrando ar Spotify
Mae ein holl restrau chwarae ar Spotify
Dere i gymryd rhan mewn brwydr hip hop ar Dydd Miwsig Cymru
Gallai dy ysgol gynradd ennill £250 ac ymddangos ar raglen Stwnsh Sadwrn S4C ar 6 Chwefror.
Hyrwyddo Dydd Miwsig Cymru
Lawrlwythwch a defnyddiwch yr adnoddau hyn i hyrwyddo Dydd Miwsig Cymru.