Neidio i'r prif gynnwy

Bydd dŵr yfed am ddim ar gael ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, yn unol â chynlluniau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o gyfleoedd ar gael i yfed dŵr er mwyn lleihau’r defnydd o boteli untro

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth annerch Uwchgynhadledd Amgylcheddol yn Ras Cefnforoedd Volvo heddiw, bydd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, yn cyhoeddi mai Llwybr Arfordir Cymru fydd y lleoliad cyntaf ar gyfer cyflwyno cynllun ail-lenwi i Gymru. Mae hyn yn rhan o uchelgais Llywodraeth Cymru i wneud Cymru y genedl ail-lenwi gyntaf yn y byd.  

Fel cam cyntaf y cynllun Cenedl Ail-lenwi, bydd y Gweinidog yn ymrwymo i roi’r cynllun ar waith mewn cymunedau ar hyd Llwybr Arfordir Cymru yn y flwyddyn nesaf.  Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â threfi, pentrefi a busnesau bwyd a diod i’w hannog i gynnig mannau ail-lenwi. Bydd y rhai sy’n ymuno â’r ymgyrch hon yn weladwy i gerddwyr drwy sticeri ar ffenestri, a byddant yn ymddangos ar restr mewn ap ail-lenwi dwyieithog.

Bydd yr ap yn dangos lle mae dŵr yfed yn rhad ac am ddim ar gael i’r cyhoedd, gan ei gwneud yn haws i bobl ail-lenwi eu poteli dŵr heb orfod prynu diodydd untro eraill.

Gan geisio ymhellach i wella’r broses rheoli gwastraff plastig, dywedodd y Gweinidog hefyd mai blaenoriaeth y £6.5 miliwn yng Nghronfa Buddsoddi Cyfalaf yr Economi Gylchol fydd ailgylchu plastig. Bydd y gronfa yn helpu busnesau yng Nghymru sy’n gweithgynhyrchu nwyddau plastig i ddefnyddio mwy o blastig wedi’i ailgylchu yn eu cynhyrchion, gan gadw plastigau mewn cylchrediad lleol yn hytrach na’u hallforio i’w hailgylchu mewn mannau eraill, eu defnyddio fel tanwydd neu eu tirlenwi.

Meddai Hannah Blythyn:  

“Dw i’n hynod falch o gyhoeddi heddiw mai Llwybr Arfordir Cymru fydd y lleoliad cyntaf yn ein hymgyrch i wneud Cymru yn genedl ail-lenwi gyntaf yn y byd.   

"Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i gael llwybr troed penodol o gwmpas ei holl arfordir, ac rydyn ni fel Llywodraeth yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â’r cymunedau ar hyd yr 870 o filltiroedd godidog hyn i leihau’r defnydd o blastigau untro.   Dyma’r cam cyntaf yn ein huchelgais i ddod yn genedl ail-lenwi gyntaf y byd.

“Bydd cael mwy o fannau ail-lenwi ar hyd ein harfordir yn helpu i leihau nifer y poteli plastig sy’n mynd i’r môr, a all gael effaith ddinistriol ar ein hamgylchedd morol.   

“2018 yw ein Blwyddyn y Môr, a chyda Ras Cefnforoedd Volvo yma yng Nghaerdydd mae’n wych cael gwneud y cyhoeddiad hwn yn Uwchgynhadledd yr Amgylchedd, sy’n gam pwysig tuag at atal plastigau rhag mynd i’n moroedd.”  

Meddai Anne-Cecile Turner, Arweinydd Rhaglen Cynaliadwyedd Ras Cefnforoedd Volvo: 

“Drwy ymrwymo i leihau gwastraff plastig drwy gynllun ail-lenwi llwybr yr arfordir, mae Cymru yn rhoi arweiniad unwaith eto i’r byd yn y frwydr barhaus i fynd i’r afael â’r niwed y mae llygredd plastig yn ei achosi i’n moroedd a’r fioamrywiaeth y maent yn ei chynnal.

“Gyda’n gilydd, mae gennym gyfle unigryw i ddiogelu’n Planed Las. Mae Uwchgynhadledd y Môr yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu i ddatrys yr argyfwng hwn ac mae cyhoeddiadau, fel un Llywodraeth Cymru, yn helpu i ledaenu’r neges honno a’r angen am weithredu ar frys.”

Meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n rheoli Llwybr Arfordir Cymru ar ran Llywodraeth Cymru:  

“Dw i wrth fy modd bod Llwybr Arfordir Cymru yn mynd i chwarae rhan flaenllaw yn uchelgais Cymru i ddod yn genedl ail-lenwi.  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymrwymo i gefnogi’r fenter hon er mwyn helpu i ddiogelu’n hamgylchedd morol gwych.

"Bydd cymryd camau i atal gwastraff y gellir ei osgoi yn sicrhau ein bod yn rheoli’n hadnoddau prin yn well, sy’n dda i bobl, economi ac amgylchedd Cymru.”