Neidio i'r prif gynnwy

Tasg y comisiwn

Rydym yn gorff annibynnol sydd â’r dasg o ystyried opsiynau am sut y gallai Cymru gael ei llywodraethu yn y dyfodol.

Gofynnwyd inni edrych ar sut y gallai Cymru gael ei rhedeg yn wahanol, tra'n parhau i fod yn rhan annatod o'r Deyrnas Unedig. Gofynnwyd i ni hefyd ystyried opsiynau eraill i gryfhau democratiaeth Cymru, tu fewn a thu allan i'r Deyrnas Unedig.

Mae ein tasg yn cynnwys edrych ar y trefniadau presennol, pwy sydd â’r pŵer dros beth, y rheolau cyfredol ar sut caiff Cymru ei rhedeg, ac os mai dyma’r ffyrdd gorau o drefnu pethau, gan gynnwys:

  • pwy sy’n gwneud y penderfyniadau gwleidyddol sy’n effeithio ar bobl Cymru, a sut y caiff y penderfyniadau hynny eu gwneud
  • ar ba agweddau o’n bywyd cenedlaethol y dylai Cymru lunio rheolau a gwneud penderfyniadau drosti hi ei hun?

Rydym yn awyddus i glywed gan gynifer â phosibl o bobl, o bob rhan o gymdeithas a phob cymuned ynglŷn â’r hyn sy’n bwysig i chi, a’ch gobeithion am ddyfodol Cymru.

Sgwrs â’r genedl

Dyma eich cyfle i ddweud wrthym beth sy’n gweithio’n dda ar hyn o bryd o ran sut mae Cymru yn cael ei llywodraethu, a beth sydd angen newid.

Dyma gam cyntaf y Sgwrs â’r Genedl, a fydd yn parhau dros y misoedd i ddod, pan fyddwn yn siarad â phobl o bob cwr o Gymru.

Isod, rydym wedi awgrymu sawl cwestiwn eang i’ch helpu i ymateb. Ond mae rhwydd hynt i chi grybwyll unrhyw fater arall sy’n bwysig i chi ac y gallai fod yn berthnasol i’n gwaith.

Dyma eich cyfle i helpu i lunio’n gwaith ni. Mae’n hollbwysig bod eich llais yn cael ei glywed a’ch barn yn cael ei adlewyrchu yn ein hadroddiad ar ddiwedd 2023.

Gadewch i ni wybod beth sy’n bwysig i chi yn y sgwrs genedlaethol hon: pa faterion dylem ni eu hystyried?

Cwestiynau i’ch helpu i ymateb

1. Beth sy’n bwysig i chi o ran sut y caiff Cymru ei rhedeg?

2. Yn eich barn chi, beth ddylai blaenoriaethau y Comisiwn fod?

3. Wrth ystyried sut y caiff Cymru ei llywodraethu, gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, beth yw cryfderau’r drefn bresennol, pa agweddau sy’n fwyaf gwerthfawr i chi ac yr hoffech eu hamddiffyn? A allwch roi enghreifftiau?

4. A oes unrhyw broblemau gyda’r drefn bresennol? Os oes, sut y gellid mynd i’r afael â nhw? Rhowch enghreifftiau os gwelwch yn dda.

5. Wrth ystyried Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru (eich cyngor lleol), beth yw eich barn ynglŷn â’r cydbwysedd pŵer a chyfrifoldeb rhwng y tri math o lywodraeth – a yw’n iawn ar y cyfan, neu a ddylai newid, ac os felly, sut? Er enghaifft, pwy ddylai gael mwy o bŵer, neu lai?

6. Fel gwlad ac uned wleidyddol benodol, sut ddylai Cymru gael ei llywodraethu yn y dyfodol? A ddylem:

  • cadw’r trefniadau presennol yn fras, lle caiff Cymru ei llywodraethu fel rhan o’r DU, â Senedd San Steffan yn dirprwyo rhai cyfrifoldebau i’r Senedd a Llywodraeth Cymru, â'r cyfrifoldebau hynny wedi'u haddasu fel yn cwestiwn 5, NEU
  • symud tuag at fwy o ymreolaeth i Gymru benderfynu drosti hi ei hun o fewn Deyrnas Unedig mwy ffederal, gyda’r mwyafrif o faterion i’w penderfynu gan Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru, a Senedd San Steffan yn gwneud penderfyniadau ar faterion ledled y DU ar ran Cymru (a gweddill y DU)? NEU
  • symud tuag at ymreolaeth lawn i Gymru lywodraethu ei hun yn annibynnol o’r DU? NEU
  • mynd ar drywydd unrhyw fodel llywodraethu arall yr hoffech ei gynnig?
  • ochr yn ochr ag unrhyw un o’r opsiynau hyn, a ddylai cynghorau lleol gael mwy o bwerau a thrwy hynny ddod â'r broses o wneud penderfyniadau yn nes at bobl Cymru os felly rhowch enghreifftiau os gwelwch yn dda.

7. Drwyddi draw, beth sy’n fwyaf pwysig i chi am sut y dylid llywodraethu Cymru yn y dyfodol?  A oes unrhyw beth arall yr hoffech ddweud wrthym?

Wrth ymateb i’r cwestiynau hyn, byddem yn croesawu eich barn ar sut y gallai’r ffurfiau llywodraethu presennol, ac unrhyw gynigion i newid ffurfiau llywodraethu yn y dyfodol, effeithio ar y Gymraeg.

Sut bydd eich barn yn gwneud gwahaniaeth

Bydd y sylwadau a dderbyniwn yn ystod y cyfnod cyntaf hwn o ymgysylltu yn llunio ein cynllun gwaith, ac yn cyfrannu at y canfyddiadau a’r argymhellion a gyflwynwn yn ein hadroddiad interim a’n hadroddiad terfynol.

Amserlen

Mae’r Comisiwn yn awyddus i gynnal sgwrs barhaus â dinasyddion a chyfranddalwyr a byddwn yn derbyn sylwadau tan haf 2023. Ond rydym am i’ch mewnbwn helpu i lunio ein cynllun gwaith, felly ymatebwch cyn gynted â phosibl os gwelwch yn dda.

Er mwyn i ni ystyried eich barn wrth baratoi ein hadroddiad cychwynnol yn yr hydref/gaeaf 2022, fe fydd angen i ni dderbyn eich cyfraniadau cyn diwedd Rhagfyr 2022. Anfonwch eich cyfraniadau i: ComisiwnYCyfansoddiad@llyw.cymru.

Os ydych yn bwriadu danfon sylwadau fel corff neu grŵp, byddai o gymorth pe baech yn rhoi gwybod pa bryd y byddwch yn bwriadu ymateb.

Mae croeso i chi ymateb ar ffurf ysgrifenedig, fideo neu sain.

Sut i ymateb

Dylech gyflwyno eich ymateb erbyn hanner nos 28 Chwefor 2023, mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Gwybodaeth i gynnwys

Rhowch wybod i'r Comisiwn os ydych yn ysgrifennu yn bersonol neu ar ran sefydliad. Os ydych yn ysgrifennu ar ran sefydliad, byddai'n ddefnyddiol pe byddech yn cadarnhau ei ddiben, ei faint a'i aelodaeth.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (UK GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus.

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol.

Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.

Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Mae rhagor o wybodaeth am y Comisiwn Annibynnol a'i waith ar gael ar ei wefan:

Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd eraill. Os hoffech dderbyn y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.

Image