Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil i ehangu a dyfnhau'r sylfaen dystiolaeth ynghylch trosglwyddo asedau cymunedol.

Rhesymau dros drosglwyddo asedau cymunedol

Fel yn achos astudiaeth 2018, y rheswm mwyaf cyffredin a nodwyd gan awdurdodau lleol dros drosglwyddo ased cymunedol oedd yr angen i leihau costau o ganlyniad i barhad polisïau cyni cyllidol. Nododd trosglwyddeion y byddai'n fwy buddiol iddynt pe bai deialog dwyffordd ynglŷn â rhaglenni trosglwyddo asedau oddi wrth yr ALl, yn hytrach na bod y penderfyniadau ynghylch trosglwyddo asedau yn cael eu gwneud gan yr ALl yn bennaf.

Y broses drosglwyddo

Datgelodd yr arolwg fod y rhan fwyaf o ALlau wedi rhoi polisi trosglwyddo asedau cymunedol ar waith. Fodd bynnag, nododd rhai trosglwyddeion nad oedd polisi trosglwyddo asedau cymunedol eu hawdurdod lleol ar gael iddynt ac y byddai'n fuddiol ei gael fel canllaw ar gynllunio proses drosglwyddo.

Ffactorau llwyddiant o ran trosglwyddo asedau cymunedol

Roedd yr ALlau a ymatebodd i'r arolwg yn teimlo mai'r ffactorau llwyddiant pwysicaf o ran trosglwyddo asedau cymunedol oedd sicrhau bod yr holl waith diwydrwydd dyladwy wedi'i gwblhau a bod y trosglwyddeion yn gymwys i reoli'r ased, gan sicrhau bod gan sefydliadau cymunedol sicrwydd ariannol, bod y cynllun busnes a gyflwynwyd gan y trosglwyddeion yn gynaliadwy ac y dylai'r ALl roi'r holl wybodaeth berthnasol i ddarpar drosglwyddeion er mwyn sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o'u cyfrifoldebau.

Yr heriau sy'n gysylltiedig â throsglwyddo asedau cymunedol

Ymhlith yr heriau cyffredin a wynebwyd gan y ddau barti mewn proses drosglwyddo roedd proses hir trosglwyddiadau a'r diffyg cyfathrebu cysylltiedig yn ystod y broses drosglwyddo.

Materion sy'n codi ar ôl trosglwyddo

Ar ôl trosglwyddo ased, nodwyd bod rhwystrau’n codi o ran sicrhau bod ased yn gynaliadwy, gan gynnwys colledion ariannol yn sgil asedau nad ydynt yn cynhyrchu incwm a chystadleuaeth ag asedau eraill o ran cynhyrchu incwm, h.y. drwy logi ystafelloedd ar gyfer sesiynau, a phrinder adnoddau a gallu mewn sefydliadau cymunedol a'r cyrff sy'n eu cefnogi.

Adroddiadau

Trosglwyddo asedau cymunedol: ymchwil gyda'r trydydd sector, awdurdodau lleol a chynghorau cymuned a thref , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
Saesneg yn unig
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Jo Coates

Rhif ffôn: 0300 025 5540

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.