Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £19m yn ychwanegol i gefnogi lleoliadau blynyddoedd cynnar ac addysg, ac erbyn hyn mae dros £150m wedi’i wario ar addysg i bobl ifanc o dan 18 oed ers dechrau’r pandemig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod plant yn parhau i ddysgu a datblygu ar ôl y tarfu a fu oherwydd y pandemig, gyda’r ffocws ar lesiant plant a staff.

Clustnodir £13m ar gyfer cymorth ychwanegol i ddysgwyr y blynyddoedd cynnar, mewn ysgolion a lleoliadau nas cynhelir. Bydd yn talu am gynnydd yn nifer yr ymarferwyr o gymharu â nifer y dysgwyr mewn ysgolion ac am gymorth addysg ar gyfer lleoliadau nas cynhelir er mwyn helpu i sicrhau profiad dysgu a gefnogir, chwarae actif a dysgu drwy brofiad.

Bydd £6 miliwn yn ychwanegol yn cael ei ddyrannu i ysgolion er mwyn cefnogi staff addysgu, hyrwyddo llesiant a chynnydd, ac i ehangu’r newidiadau cadarnhaol sydd eisoes wedi’u gwneud i’r ffyrdd o weithio.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu 1,800 o staff addysgu amser llawn ychwanegol drwy ei rhaglen ‘Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau’.

Dywedodd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg:

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi’i gwneud yn amlwg pa mor bwysig yw’n hysgolion, ein colegau, ein prifysgolion a’n lleoliadau addysg i’n plant a’n pobl ifanc. Mae ymarferwyr addysg wedi ymateb i’r her, ac mae’r dysgwyr wedi addasu’n arbennig i’r ffyrdd gwahanol o ddysgu.

Mae’n hanfodol i’n dysgwyr yn y blynyddoedd cynnar gael cyfleoedd i ryngweithio mewn ffordd ystyrlon ac o safon. Heddiw, rwy’n cyhoeddi £13 miliwn o bunnoedd yn ychwanegol i leoliadau blynyddoedd cynnar er mwyn darparu cymorth ychwanegol ar gyfer anghenion unigryw ein plant iau.

Mae’n rhaid inni adfer a newid. Rwy’n benderfynol o adeiladu ar y pwyslais ar lesiant a hyblygrwydd a welwyd dros y flwyddyn ddiwethaf wrth gyflwyno’r cwricwlwm newydd. Mae ein system addysg wedi dangos ei bod yn hynod o gadarn a hyblyg ac mae’n rhaid inni ddysgu o hynny.