Neidio i'r prif gynnwy
Picture of Dr David Clubb

Dr David Clubb yw Cadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Mae Dr David Clubb yn arbenigwr ym maes polisi ynni, materion cyhoeddus a chyfathrebu digidol, ar ôl gweithio yn y sectorau ynni a'r amgylchedd am bron i ddau ddegawd. Mae'n Bartner Sefydlu yn Afallen LLP, sy'n cefnogi sefydliadau a busnesau ledled Cymru i gyflawni gan ddefnyddio fframweithiau Cenedlaethau'r Dyfodol. Cyn hynny, bu'n Bennaeth Digidol yn RenewableUK ac yn Gyfarwyddwr RenewableUK Cymru.  

Mae David yn Aelod o'r Bwrdd ac yn Gadeirydd blaenorol y cwmni cydweithredol Co-Pilot Wind Energy ac yn Aelod o Fwrdd Amrywiaeth mewn STEM Llywodraeth Cymru. Mae hefyd wedi gwasanaethu ar Fwrdd y Sefydliad Materion Cymreig ac roedd yn aelod o Grŵp Ynni Strategol Gweinidogol Llywodraeth Cymru. Mae David yn siaradwr Cymraeg rhugl. Mae'n byw yng Nghaerdydd.